Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir
Efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych chi’n gwneud gwaith sy’n effeithio ar rywogaeth warchodedig yng Nghymru. Bydd angen trwydded os byddai eich gwaith yn achosi trosedd fel arall. Gallai hyn gynnwys:
- lladd, anafu, cymryd, neu darfu ar rywogaethau gwarchodedig
- difrodi eu cynefinoedd
Yn dibynnu ar ba rywogaeth gaiff ei heffeithio, efallai y bydd modd i ni roi trwyddedau ar gyfer rhai mathau o waith. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion dylech geisio osgoi achosi’r niwed yn y lle cyntaf.
Wrth wneud cais am drwydded, efallai y bydd angen i chi ddangos bod y gwaith yn angenrheidiol ac nad oes ffordd arall o wneud y gwaith heb niweidio’r rhywogaeth warchodedig.
Efallai y bydd angen trwydded arnoch i ryddhau rhai rhywogaethau i’r gwyllt , i feddu ar rai rhywogaethau neu i’w gwerthu, neu unrhyw beth sy’n deillio ohonynt.
Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir
Gwneud cais am drwydded ar gyfer y rhywogaethau a warchodir canlynol:
- Gwiberod, Nadroedd y gwair, Nadroedd defaid a Madfallod cyffredin
- Moch daear
- Ystlumod
- Trwyddedau ar gyfer rhyddhau afancod
- Ceirw
- Pathewod
- Planhigion a warchodir gan Ewrop
- Pysgod
- Brogaod, Llyffantod a Madfallod Dŵr
- Madfallod dŵr cribog
- Llyffantod cefnfelyn
- Trwyddedu Infertebratau
- Trwyddedu Rhywogaethau morol a warchodir gan Ewrop
- Dyfrgwn
- Belaod, Ffwlbartiaid, Chwistlod a Charlymod
- Gwiwerod coch a Llwyd
- Madfallod tywod
- Morloi
- Trwyddedau Mamaliaid Bach
- Planhigion a warchodir gan y DU
- Llygod y dŵr
- Morfilod, Dolffiniaid, Môr-grwbanod a Llamhidyddion
Pwy gaiff wneud cais am drwydded rhywogaethau?
Fel arfer rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i wneud cais am drwydded rhywogaethau. Os ydych o dan 18 oed ond bod angen i chi wneud cais, cysylltwch â’r tîm trwyddedu rhywogaethau i gael cyngor.
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg yn ystod eich cais am drwydded.