O dan Adran 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) mae’n anghyfreithlon:

  • Lladd, anafu neu gymryd unrhyw lygoden bengron y dŵr yn fwriadol. 9(1)
  • Meddu ar neu reoli unrhyw lygoden bengron y dŵr fyw neu farw neu unrhyw ran, neu unrhyw beth sy’n deillio o anifail o’r fath. 9(2)
  • Difrodi neu ddinistrio’n fwriadol neu’n ddi-hid unrhyw strwythur neu fan y mae llygoden bengron y dŵr yn ei ddefnyddio i gysgodi neu lochesu. 9(4)(a)
  • Tarfu’n fwriadol neu’n ddi-hid ar unrhyw anifail tra ei fod yn byw mewn strwythur neu fan y mae’n ei ddefnyddio at y diben hwnnw. 9(4)(b);
  • Rhwystro mynediad at unrhyw strwythur neu fan y mae unrhyw lygoden bengron y dŵr yn ei ddefnyddio i gysgodi neu lochesu, boed yn fwriadol neu’n ddi-hid. 9(4)(c)
  • Gwerthu, cynnig neu roi i werthu, neu feddu ar neu gludo ar gyfer gwerthu, unrhyw lygoden bengron y dŵr fyw neu farw, unrhyw ran, neu unrhyw beth sy’n deillio o anifail o’r fath. 9(5)(a)
  • Cyhoeddi neu achosi cyhoeddi unrhyw hysbyseb sy’n debygol o gyfleu eich bod yn prynu neu’n gwerthu, neu’n bwriadu prynu neu werthu, unrhyw un o’r pethau hyn. 9(5)(b)

Eithriadau i’r uchod

Mae’n gyfreithlon i chi ofalu am lygoden bengron y dŵr sy’n sâl neu wedi brifo gyda’r bwriad o’i rhyddhau pan fydd wedi gwella, neu ladd llygoden bengron y dŵr sydd wedi brifo’n ddifrifol ac nad oes ganddi unrhyw obaith rhesymol o wella (Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 10(3)(a) a (b)).

Cosbau

Y gosb uchaf ar gyfer troseddau o dan adran 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yw carchar am hyd at 6 mis neu ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 (£5,000 ar hyn o bryd), neu’r ddau. Yn ogystal, gall y llysoedd wneud gorchymyn i atafaelu unrhyw gerbyd neu unrhyw beth arall a ddefnyddiwyd i gyflawni’r drosedd.

Trwyddedau

Rhoddir trwyddedau i ganiatáu gwaith a fyddai’n anghyfreithlon fel arall. Mae’n rhaid eu rhoi at ddiben y gweithgarwch arfaethedig. Rhoddir trwyddedau ar gyfer ychydig o ddibenion penodol yn y DU. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rhoi’r trwyddedau hyn yng Nghymru.

Dibenion trwyddedu

O dan Adran 16(3) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gallu rhoi trwyddedau sy’n ymwneud â llygod pengrwn y dŵr at y dibenion canlynol:

  1. Gwyddonol neu Addysgol
    Mae angen trwydded ar gyfer cymryd neu darfu ar lygoden bengron y dŵr neu ddinistrio neu rwystro mynediad at fan bridio neu orffwys er mwyn cynnal unrhyw fath o waith ymchwil neu arolwg manwl
  2. Gosod modrwy neu nod
    Cymryd llygoden bengron y dŵr er mwyn gosod modrwy neu nod arni. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fath o nod, dull adnabod neu dag olrhain radio
  3. Cadwraeth
    Unrhyw weithgarwch sydd â’r prif nod o warchod llygoden bengron y dŵr yn y tymor hir. Gall hyn gynnwys rheoli neu adfer safleoedd y rhywogaeth
  4. Gwarchod unrhyw gasgliad sŵolegol neu fotanegol
  5. Ffotograffiaeth
  6. Diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd
    Gall hyn gynnwys adfer neu gynnal a chadw camlesi neu lwybrau troed ar lannau afonydd
  7. Atal niwed a difrod difrifol i dda byw, bwydydd anifeiliaid, cnydau, llysiau, ffrwythau, coed sy’n tyfu neu unrhyw fath arall o eiddo neu bysgodfeydd. Gall hyn ymwneud â difrod a achosir i’r uchod gan lygod pengrwn y dŵr
  8. Atal lledaeniad afiechydon

Nid yw’n bosib rhoi trwydded ar gyfer datblygu o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad yn yr un ffordd ag y rhoddir trwyddedau o dan y Rheoliadau Cynefinoedd. Gellir rhoi trwyddedau ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch y cyhoedd ee adfer glan camlas. Fodd bynnag, nid yw pob datblygiad yn dod o dan y pennawd hwn.

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad yn darparu amddiffyniad yn erbyn y troseddau uchod lle mae’r hyn a ddigwyddodd yn ganlyniad damweiniol o waith anghyfreithlon ac nad oedd modd yn rhesymol ei osgoi (10(3)(c)).

Materion datblygu a safleoedd llygod pengrwn y dŵr

Y cyngor gorau gan Cyfoeth Naturiol Cymru yw i'r datblygwr edrych ar y Llawlyfr ar Fesurau Lliniaru ar gyfer Llygoden y Dŵr ym mhob sefyllfa. Mae'r ddogfen hon yn cymryd lle'r adrannau hynny yn Llawlyfr Cadwraeth Llygoden y Dŵr sy'n cyfeirio at ddatblygiadau a thrwyddedu. Yn benodol, dylid nodi bod dadleoli bellach yn weithgaredd trwyddedig yn ogystal â gwaredu trwy drapio ac mae'r Llawlyfr Lliniaru yn canolbwyntio ar y technegau a ddefnyddir yn ystod yr arferion hyn. 

Mae'r canllawiau yn ymwneud â phrosiectau datblygu a gweithgareddau adeiladu eraill, gan gynnwys y rheini sydd angen trwyddedau amgylcheddol eraill, megis caniatâd amddiffyn rhag llifogydd. Ni fwriadir iddynt gael eu defnyddio mewn perthynas â gwaith cyffredinol i reoli neu gynnal cyrsiau dŵr am resymau rheoli perygl llifogydd, er mwyn cadw iechyd a diogelwch cyhoeddus, neu ar gyfer rheoli cadwraeth. Efallai y bydd y gweithgareddau hyn yn ddarostyngedig i ofynion trwyddedu gwahanol a dylid edrych yn Llawlyfr Cadwraeth Llygoden y Dŵr am gyngor ar y rhain.

Defnyddio amddiffyniad canlyniad damweiniol

Hyd yn hyn, mae dadleoli a thrapio llygod y dŵr oherwydd datblygiad (Cymru a Lloegr) wedi cael eu cynnal heb drwydded, gyda’r 'canlyniad damweiniol' yn cael ei ddefnyddio fel math o amddiffyniad. 

Mae adolygiad o'r ddeddfwriaeth gan y Sefydliadau Cadwraeth Natur Statudol wedi dod i'r casgliad nad yw'r amddiffyniad 'canlyniad damweiniol' yn cwmpasu dadleoli a thrapio ar gyfer datblygu ac felly mae'n rhaid gwneud cais am drwydded. 

Yng Nghymru, mae hyn ar ffurf trwydded sy’n benodol i safle sydd ei hangen ar gyfer pob gweithgaredd dadleoli a thrapio ac a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Canllawiau

Llygoden bengron y Dwr a datblygu canllawiau

Arolygon llygod pengrwn y dwr canllawiau

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Datganiad Dull

Os ydych yn gwneud unrhyw waith datblygu, bydd angen i chi gwblhau datganiad dull. Mae'r datganiad dull yn rhan o'ch cais am drwydded:

Datganiad dull trwydded ddatblygu

Cydymffurfiaeth ecolegol

Efallai y gofynnir i chi gyflwyno ffurflen archwilio cydymffurfiaeth ecolegol os ydych chi’n cynnig cynllun datblygu mawr, neu gynllun sydd â risg uwch ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig. Bydd y gofynion hyn yn un o amodau eich trwydded.

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf