Gwneud cais am drwydded safonol ar gyfer gweithrediadau gwastraff
Diweddariad: 31/03/2023
Bydd ein ffioedd am drwyddedau yn aros ar gyfraddau 2022-2023 hyd nes y bydd cynlluniau codi tâl newydd yn cael eu cytuno.
Rheolau safonol ac asediadau risg
Ar gyfer pob cyfleuster mae yna gyfres o reolau, canllawiau ar sut i gydymffurfio â’r rheolau ac asesiad risg.
Cyn i chi wneud cais
ydd gwneud cais am drwydded safonol yn arbed amser ac arian. Fodd bynnag, cyn ichi benderfynu gwneud cais, rhaid ichi fod yn ymwybodol o rai nodweddion pwysig:
- Ni allwch amrywio’r rheolau ac nid oes gennych hawl i apelio yn eu herbyn
- Os ydych eisiau newid eich gweithrediadau, fel na fydd trwydded safonol yn addas i’ch gweithred mwyach, fe fydd yn rhaid ichi wneud cais i newid eich trwydded er mwyn cael trwydded bwrpasol
- Os bydd eich amgylchedd lleol yn newid ar ôl i’ch trwydded gael ei rhoi (er enghraifft oherwydd newid yn niffiniad parth gwarchod tarddiad dŵr daear), efallai y bydd yn rhaid ichi uwchraddio’r gweithrediad i safon sy’n ddigonol ar gyfer yr amgylchedd, neu wneud cais i gael trwydded bwrpasol
- Ar gyfer gollyngiadau trwydded safonol i ddyfroedd wyneb, bydd y tâl parhau yn cychwyn o’r dyddiad y caiff y drwydded ei rhoi. Argymhellwn nad ydych yn gwneud cais am drwydded safonol amser maith cyn yr adeg y mae ei hangen, oni bai eich bod derbyn y taliadau hyn. Ar hyn o bryd ni cheir trwyddedau rheolau safonol ar gyfer elifion carthion i’r ddaear/dŵr daear
- Dylech gadarnhau pa un a fyddwn yn cyflwyno unrhyw newidiadau i’r rheolau cyn ichi wneud cais, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn parhau i allu eu bodloni pan gaiff y newidiadau eu cyhoeddi. Os na allwch eu bodloni, dylech ystyried gwneud cais am drwydded bwrpasol
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y rheolau safonol sy’n disgrifio’n union yr hyn rydych eisiau ei wneud, a gwnewch yn siŵr y bydd modd ichi fodloni gofynion y rheolau hyn. Os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r rheolau safonol, rhaid ichi wneud cais am drwydded bwrpasol.
Efallai y byddwn yn gosod terfynau ar agosrwydd eich gweithgaredd at safleoedd gwarchod natur neu’n pennu a yw allyriadau yn y tarddle’n cael eu caniatáu, ai peidio.
Newidiadau i drwyddedau rheolau safonol o Hydref 2018 ymlaen
Mae setiau rheolau SR2009 Rhif 4, SR2012 Rhif 10 a SR2012 Rhif12, wedi'u tynnu allan ar gyfer ymgeiswyr newydd. Os oes gennych chi un o'r setiau rheolau hyn ar hyn o bryd, cysylltwch â swyddog cydymffurfio eich safle.
Sut i wneud cais
Darllenwch ein tudalen Sut i wneud cais am drwydded amgylcheddol cyn cyflwyno cais, er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y broses ymgeisio.
Ar y dudalen hon fe gewch ffurflenni cais ar gyfer trwydded bwrpasol newydd a'r nodiadau canllaw i'ch helpu i gwblhau'r ffurflenni cais. Rhaid i chi lenwi rhan A, F a B.
Nodwch: Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r bocsys priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.
Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.
Trwyddedau gwaith symudol
Os ydych am gynnal unrhyw weithgareddau gwaith symudol, megis taenu ar dir, rhaid bod gennych osodiad wedi'i gymeradwyo yn ogystal â'r drwydded addas.
Gallwch ddysgu mwy am sut i wneud cais i adleoli gwaith symudol.
Darganfyddwch fwy am gwmpas gwaith symudol yn Nodyn Cyfarwyddyd Rheoleiddio 2:Understanding the meaning of regulated facility (atodiad 4) ar GOV.UK.
Sut i dalu
Gallwch dalu am eich cais am drwydded yn y ffyrdd canlynol:
Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 rhwng 9 a 5, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Trosglwyddiad BACS i:
Enw'r wwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Bwlch Post 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Lundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438
Ffioedd a thaliadau
Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl trwyddedau amgylcheddol
Help gyda'ch cais
e-bost ymholiadau cyffredinol – ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000
Canolfan Derbyn Trwyddedau
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP
Amserlenni
Byddwn yn penderfynu ar eich cais cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib. Os yw’ch cais am drwydded yn fwy cymhleth oherwydd deddfwriaeth arall neu gyfyngiadau cynllunio, neu os oes gennym ni bryderon penodol am y cynnig, efallai y bydd angen i ni gytuno ar amserlen wahanol gyda chi.