Eithriadau amaethyddol mwyaf cyffredin
Mae gan bob esemptiad god a theitl, e.e.: U1 – defnyddio gwastraff ym maes adeiladu.
Mae angen i chi wybod cod yr esemptiad i gofrestru esemptiad.
Mae pedwar categori o esemptiad gwastraff: defnyddio, trin, gwaredu a storio.
Defnyddio gwastraff
Enghraifft o esemptiad defnyddio gwastraff yw gwasgaru compost ar eich tir i wella'r pridd, neu ddefnyddio carthion papur fel deunydd gwely anifeiliaid.
Gweler eithriadau defnyddio gwastraff a chodau ar gyfer gweithgareddau amaethyddol
Trin gwastraff
Enghraifft o esemptiad trin gwastraff yw defnyddio peiriant treulio anaerobig i'ch helpu i reoli tail a slyri.
Gweler eithriadau trin gwastraff a chodau ar gyfer gweithgareddau amaethyddol
Gwaredu gwastraff
Enghraifft o esemptiad gwaredu gwastraff yw llosgi toriadau o berthi mewn man agored neu wasgaru carthion ar ochrau ffosydd fferm.
Gweler eithriadau gwaredu gwastraff a chodau ar gyfer gweithgareddau amaethyddol
Storio gwastraff
Enghraifft o esemptiad storio gwastraff yw storio slwtsh carthion cyn ei wasgaru o dan y Rheoliadau Slwtsh (Defnydd Amaethyddol).
Gweler eithriadau storio gwastraff a chodau ar gyfer gweithgareddau amaethyddol
Defnyddio gwastraff
U1 |
Defnyddio gwastraff ym maes adeiladu |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
|
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Mae’r cyfyngiadau yn yr esemptiad hwn dros gyfnod o dair blynedd. Gallwch wneud gwaith tirlunio sy'n gysylltiedig ag adeilad newydd neu gynnal a chadw neu wella adeilad sy'n bodoli eisoes. Ni allwch godi lefelau i lenwi twll rhew, pwll neu geudod. Hefyd, ni allwch godi tir yn sylweddol cyn adeiladu neu godi lefelau dros ardal gorsiog. |
U4 |
Llosgi gwastraff fel tanwydd mewn cyfarpar bach |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
|
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Mae llosgi gwastraff olew fel tanwydd mewn cyfarpar yn cael ei reoleiddio gan yr awdurdod lleol. Rhaid i unrhyw weithredwyr sydd am ymgymryd â’r gweithgaredd hwn wneud cais am drwydded amgylcheddol gan yr awdurdod lleol. |
U8 |
Defnyddio gwastraff at ddiben penodol |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
|
Cyfyngiadau allweddol |
Mathau amrywiol o wastraff a chyfyngiadau maint amrywiol, yn dibynnu ar y defnydd arfaethedig. Er enghraifft:
|
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Mae’r esemptiad yn caniatáu amrediad ehangach o wastraff na'r hyn a nodir yma ac mae ganddo nifer o gyfyngiadau ac amodau penodol sy'n ymwneud â gwastraff penodol. |
U9 |
Defnyddio gwastraff i weithgynhyrchu nwyddau gorffenedig |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Defnyddio gwastraff pren i wneud ffyn bugeiliaid neu ffyn cerdded |
Cyfyngiadau allweddol |
Mathau amrywiol o wastraff a chyfyngiadau maint amrywiol, yn dibynnu ar y defnydd arfaethedig – er enghraifft, 100 tunnell o bren i wneud ffyn bugeiliaid neu ffyn cerdded |
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Mae’r esemptiad yn caniatáu amrediad ehangach o wastraff na'r hyn a nodir yma ac mae ganddo nifer o gyfyngiadau ac amodau penodol sy'n ymwneud â gwastraff penodol. |
U10 |
Gwasgaru gwastraff ar dir amaethyddol er budd |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
|
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Mae’r esemptiad yn caniatáu amrediad ehangach o wastraff na'r hyn a nodir yma ac mae ganddo nifer o gyfyngiadau ac amodau penodol sy'n ymwneud â gwastraff penodol. Dim ond un esemptiad U10 ar gyfer gwasgaru gwastraff y gallwch ei gofrestru am bob fferm. Os oes angen i chi storio mwy neu wasgaru'n amlach, rhaid i chi wneud hyn o dan drwydded ar gyfer gwasgaru ar dir. |
U15 |
Lludw moch a dofednod |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Gwasgaru lludw o losgi carcasau moch a dofednod er budd y pridd |
Cyfyngiadau allweddol |
Uchafswm y lludw y gallwch ei wasgaru o dan yr esemptiad hwn yw 150kg yr hectar mewn cyfnod o 12 mis |
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Rhaid i unrhyw weithred o losgi carcasau moch a dofednod gael ei gwneud yn unol â gofynion y Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid. Mae hyn yn golygu na ddylech wasgaru’r lludw ar dir pori. Rhaid i'r llosgydd gael ei gymeradwyo gan Iechyd Anifeiliaid. |
U2 |
Defnyddio teiars diwedd oes wedi’u bwndelu ym maes adeiladu |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Defnyddio teiars wedi’u bwndelu yn hytrach nag agregau crai ar dir meddal neu ansefydlog. Er enghraifft, gellir defnyddio teiars wedi’u bwndelu fel dewis amgen i gaergewyll wrth atgyweirio sefydlogrwydd llethrau fel sylfeini ffordd dros dir meddal, neu fel haenau draenio. |
Cyfyngiadau allweddol |
Gallwch ddefnyddio hyd at 50 tunnell o deiars wedi eu bwndelu (tua 50 o fwndeli teiars) |
Amodau allweddol |
Rhaid i'r bwndeli teiars:
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Mae safon PAS 108 yn nodi na ddylid gadael bwndeli teiars yng ngolau’r haul ar ôl eu defnyddio. Os bydd angen i chi ddefnyddio gwastraff arall hefyd yn y prosiect adeiladu, bydd angen esemptiad U1 arnoch hefyd. Gallai fod yn ddefnyddiol i gynnwys peiriannydd i’ch helpu i ddeall priodweddau peirianyddol bwndeli teiars. |
U5 |
Defnyddio biodiesel sy'n deillio o wastraff fel tanwydd |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Defnyddio biodiesel a gynhyrchwyd o olewon a brasterau llysiau gwastraff fel tanwydd amgen mewn tractorau neu eneraduron |
Cyfyngiadau allweddol |
Defnyddio biodiesel a gynhyrchwyd o olewon a brasterau llysiau gwastraff fel tanwydd amgen mewn tractorau neu eneraduron |
Ystyriaethau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Rhaid storio'r biodiesel mewn cynhwysydd atal eilaidd, fel bwnd a fydd yn cadw'r hylif sydd wedi ei storio'n ddiogel os bydd y cynhwysydd yn gollwng neu'n hollti. Os ydych am drin gwastraff olew neu fraster llysiau i wneud eich biodiesel, mae angen i chi gofrestru esemptiad T19. |
U12 |
Defnyddio tomwellt |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Gwasgaru tomwellt organig wedi'i wneud o sylwedd pren a phlanhigion heb ei drin o amgylch coed a chnydau eraill |
Cyfyngiadau allweddol |
Pren heb ei drin a meinwe planhigion o feysydd amaethyddiaeth, garddwriaeth neu goedwigaeth a pharciau a gerddi yn unig |
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Gellir defnyddio esemptiad T6 i naddu neu rwygo meinweoedd planhigion cyn eu troi'n domwellt. |
U13 |
Gwasgaru sylwedd planhigion er budd |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Gwasgaru tocion a thoriadau oddi ar dŷ pecynnu ar y fferm yn ôl ar y tir i ddychwelyd maetholion i’r pridd |
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
|
U14 |
Cynnwys lludw o losgi meinweoedd planhigion |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Claddu lludw o losgi gwellt neu sofl ŷd, neu ludw o losgi meinweoedd planhigion, o dan esemptiad D7, i ddychwelyd maetholion i’r pridd |
Cyfyngiadau allweddol |
Gallwch wasgaru hyd at 10 tunnell yr hectar |
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Os ydych yn llosgi gwellt neu sofl ŷd, rhaid i chi hefyd gydymffurfio â Rheoliadau Gweddillion Cnydau (Llosgi) 1993. Gellir defnyddio'r esemptiad hwn gydag esemptiad D7. |
T1 |
Glanhau, golchi, chwistrellu neu orchuddio gwastraff perthnasol |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Gellir defnyddio'r esemptiad hwn i olchi neu lanhau plastigion amaethyddol a garddwriaethol fel deunydd lapio silwair neu domwellt plastig. Gellir hefyd ei ddefnyddio i ganiatáu i ddeunyddiau pacio fel cynwysyddion plaladdwyr neu sachau bwyd anifeiliaid gwag gael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu. |
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Nid yw'r esemptiad hwn yn cynnwys unrhyw orchuddion paent neu farnais a chwistrellir sy'n syrthio o fewn rheolaeth awdurdod lleol o dan Ran B o adran 6.4 yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010. |
T4 |
Triniaethau paratoadol (bwndelu, didoli, rhwygo ac ati) |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
|
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Ni chewch ddefnyddio'r esemptiad hwn i drin (didoli) gwastraff cymysg. Rhaid i'r gwastraff gyrraedd y safle heb ei gymysgu ag unrhyw fath arall o wastraff. Er enghraifft, gellir cymysgu plastigion gyda'i gilydd (gallwch ddidoli'r plastigion i fathau gwahanol) ond ni ellir cymysgu plastig a phapur. |
T5 |
Sgrinio a chyfuno gwastraff |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
|
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
Mae’r driniaeth yn cael ei chynnal yn y man cynhyrchu neu mewn man lle bydd y gwastraff wedi’i drin yn cael ei ddefnyddio. |
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Ni cheir gorchuddio plaeniadau ffordd â chol-tar oherwydd mae hwn yn wastraff peryglus. Mae plaeniadau ffordd wedi'u gorchuddio â bitwmen yn dderbyniol. Ni allwch ddod â gwastraff i mewn i’w drin ac yna ei gyflenwi i ddefnyddwyr eraill. Os ydych yn gwneud pridd at ddefnydd amaethyddol, rhaid i chi ddefnyddio priddoedd heb eu halogi o waith adeiladu neu barciau a gerddi, a rhaid i chi gael trwydded i wasgaru’r priddoedd. Rhaid i chi gynnwys compost a gynhyrchir o dan esemptiad T23 yn unig. Yn yr esemptiad hwn, gall "triniaeth ymlaen llaw gysylltiedig" gynnwys gwasgu oni bai y gwneir hynny o dan drwydded awdurdod lleol. |
T6 |
Trin pren a gwastraff sylwedd planhigion drwy naddu, rhwygo, torri neu falurio |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Naddu gwastraff meinwe planhigion, gwastraff pren heb ei drin o waith saer neu waith adeiladu, neu ddeunydd pacio pren heb ei drin fel paledi i wneud deunydd gwely anifeiliaid neu i'w defnyddio i roi arwyneb ar draciau neu lwybrau. |
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Gellir defnyddio'r esemptiad hwn i naddu gwastraff addas cyn ei ddefnyddio o dan eithriadau U1, U4 U8, U12 ac U13 |
T23 |
Compostio aerobig a thriniaeth gysylltiedig ymlaen llaw |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Compostio toriadau perthi, gwastraff cnydau, tail ceffylau neu fuarth, a llystyfiant arall |
Cyfyngiadau allweddol |
Gallwch gompostio papur neu gardbord glân a gynhyrchwyd yn eich gweithgaredd ffermio, ynghyd â gwastraff meinwe planhigion a chnydau a thail ceffylau neu fuarth |
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Gellir compostio mewn rhenciau agored neu bentyrrau sy'n cael eu troi’n rheolaidd neu mewn llestri bach caeedig, a elwir yn gompostio caeedig (IVC). At ddibenion yr esemptiad hwn, mae "triniaeth gysylltiedig ymlaen llaw" yn golygu sgrinio, naddu, rhwygo, torri, malurio neu ddidoli gwastraff at ddibenion compostio. Mae esemptiad U10 yn caniatáu i chi wasgaru’r compost hwn er budd amaethyddol. |
T32 |
Trin gwastraff mewn bio-wely neu fio-hidlydd |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Trin golchion plaladdwyr nad ydynt yn beryglus mewn bio-wely wedi'i leinio |
Cyfyngiadau allweddol |
Gallwch drin hyd at 15,000 litr o olchion plaladdwyr wedi'u gwanhau nad ydynt yn beryglus dros gyfnod o 12 mis yn y fferm lle cawsant eu cynhyrchu |
Amodau allweddol |
Rhaid i’r bio-wely gael ei leoli o leiaf 10 metr o gwrs dŵr, 250 metr o ffynnon neu dwll turio sy’n cyflenwi dŵr i'w yfed neu i gynhyrchu bwyd, a 50 metr o unrhyw ffynnon neu dwll turio arall. |
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Ni cheir gosod y bio-wely mewn Parth Gwarchod Tarddiad Dŵr Daear 1, a rhaid ei adeiladu yn unol â llawlyfr y Voluntary Initiative ar fio-welyau a bio-hidlwyr. Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i systemau fel Phytobac, sydd yn fio-welyau heb ollyngiad. Gellir defnyddio deunydd wedi’i drin o’r bio-wely ar dir amaethyddol o dan esemptiad U10, cyhyd â bod y deunydd sydd wedi’i drin yn cael ei storio am 12 mis arall cyn ei wasgaru. |
T8 |
Triniaeth fecanyddol o deiars diwedd oes |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Naddu a rhwygo teiars i’w defnyddio mewn manège |
Cyfyngiadau allweddol |
Teiars yn unig |
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
At ddibenion yr esemptiad hwn, mae "triniaeth gysylltiedig ymlaen llaw" yn golygu glanhau teiars a thynnu’r ymylon oddi arnyn nhw cyn eu trin. Mae esemptiad U8 yn caniatáu i chi ddefnyddio rwber wedi’i naddu mewn manège |
T13 |
Trin gwastraff bwyd |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Agor y deunydd plastig a deunyddiau pacio eraill o fwyd gwastraff cyn ei fwydo i’r da byw |
Cyfyngiadau allweddol |
Gwastraff bwyd o baratoi ffrwythau a llysiau, cynnyrch llaeth, pobi a melysion, a chynhyrchu diodydd alcoholig a diodydd di-alcohol |
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Mae bwydo gwastraff arlwyo (gwastraff o geginau a bwytai) i anifeiliaid fferm yn anghyfreithlon. |
T19 |
Trin gwastraff olew a braster bwytadwy yn ffisegol ac yn gemegol i gynhyrchu biodiesel |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Hidlo, cyfuno a chynhesu gwastraff olew llysieuol i wneud tanwydd amgen ar gyfer cerbydau modur |
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Gallwch ddefnyddio’r biodiesel fel tanwydd yn unol ag esemptiad U5. |
T24 |
Treulio anaerobig mewn safleoedd a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth a llosgi’r bio-nwy canlyniadol |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Gosod treulydd anaerobig ar eich fferm a defnyddio’r nwy i gynhesu adeiladau |
Cyfyngiadau allweddol |
Gallwch drin meinweoedd planhigion o:
|
Ystyriaethau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Gellir gwasgaru gweddillion sefydlog y treuliad anaerobig ar dir amaethyddol o dan esemptiad U10. |
T27 |
Trin dip defaid gan ddefnyddio ensym sy’n diraddio organoffosffadau |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Defnyddio Landguard OP-A i drin dip defaid |
Cyfyngiadau allweddol |
Dip defaid organoffosffad yn unig |
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen I chi ei wybod |
Bydd dal angen i chi gael gwared ar y dip defaid sydd wedi’i drin gyda’r ensym yn unol â’r amodau a amlinellwyd yn eich trwydded amgylcheddol gyfredol neu'r drwydded rheolau safonol ar gyfer trin dip defaid gydag ensym. |
T29 |
Trin golchion plaladdwyr nad ydynt yn beryglus drwy hidlo carbon i’w gwaredu |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Trin golchion plaladdwyr mewn uned warchodol |
Cyfyngiadau allweddol |
Golchion plaladdwyr nad ydynt yn beryglus yn unig |
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Bydd dal angen i chi gael gwared ar y golchion plaladdwyr nad ydynt yn beryglus sydd wedi’u trin yn yr uned hidlo carbon yn unol â’r amodau a amlinellwyd yn eich trwydded amgylcheddol gyfredol. |
D1 |
Gollwng gwastraff o garthu dyfroedd mewndirol |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Clirio gwaddodion o nentydd a ffosydd a’u gollwng ar y glannau |
Cyfyngiadau allweddol |
Carthu rwbel o nant, ffos neu ddŵr mewndirol arall |
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Nid oes rhaid i’r sylwedd sy’n cael ei ollwng fod er budd amaethyddiaeth. Ni allwch ollwng y deunydd i ffwrdd o lan y cwrs dŵr oni bai fod hyn yn unol ag esemptiad fel U1 neu U10 neu drwydded. |
D3 |
Gollwng gwastraff o doiled symudol |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Claddu gwastraff o doiledau symudol a ddefnyddir gan gasglwyr ffrwythau |
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
|
D4 |
Gollwng meinweoedd planhigion o dan hysbysiad iechyd planhigion |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Gollwng cnydau â chlefydau mewn pentyrrau pan fydd hysbysiad iechyd planhigion wedi'i gyhoeddi sy'n gofyn am hyn |
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
Ni ddylid gollwng y gwastraff:
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Ni allwch ddod â meinwe planhigion o fferm arall |
D6 |
Gwaredu gwastraff drwy ei losgi |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Llosgi gwastraff pren neu lystyfiant heb ei drin mewn llosgydd ar y fferm lle cafodd ei gynhyrchu |
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
Ni all y llosgydd losgi mwy na 50kg o wastraff yr awr neu fod â chyfradd mewnbwn thermol net o fwy na 0.4 MW. |
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Ni allwch losgi gwastraff cymysg o’r fferm ac ni allwch losgi gwastraff o unrhyw safle arall. |
D7 |
Llosgi gwastraff yn yr awyr agored |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Llosgi gwastraff pren heb ei drin neu lystyfiant ar goelcerth ar y fferm lle cafodd ei gynhyrchu |
Cyfyngiadau allweddol |
Meinweoedd planhigion o feysydd amaethyddiaeth a garddwriaeth a choedwigaeth |
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Yn ddelfrydol, dylid llosgi pren heb ei drin a meinweoedd planhigion fel tanwydd mewn cyfarpar o dan esemptiad U5. Rhaid i chi beidio ag achosi mwg tywyll na chreu niwsans drwy arogl. |
S1 |
Storio gwastraff mewn cynwysyddion diogel |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Gweithredu canolfan casglu deunydd pacio plastig ar gyfer ffermwyr. Canolfan gasglu yw safle lle mae ffermwyr yn dod â'u gwastraff deunydd pacio plastig fel sachau gwrtaith neu gynwysyddion plaladdwyr cyn iddo gael ei anfon i'w ailgylchu. |
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
|
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Mae'r esemptiad hwn yn caniatáu i nifer o wahanol fathau o wastraff gael eu storio mewn cynwysyddion; ceir rhagor o wybodaeth yn y canllawiau llawn. Mae'r esemptiad hwn yn caniatáu i chi dderbyn amrywiaeth gyfyngedig o wastraff amaethyddol gan ffermwyr eraill, cyhyd ag y byddant yn cael eu hanfon oddi ar y safle i’w hailgylchu neu eu hadfer. Os oes angen i chi ddidoli neu fwndelu’r deunyddiau, mae angen i chi gofrestru esemptiad T4 hefyd. |
S2 |
Storio gwastraff mewn man diogel |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Gweithredu canolfan casglu deunydd lapio silwair plastig i ffermwyr. Canolfan gasglu yw safle lle mae ffermwyr yn dod â'u deunydd lapio silwair wedi'i ddefnyddio i gael ei osod mewn sypiau mawr cyn cael ei anfon i'w ailgylchu. |
Cyfyngiadau allweddol |
Mae nifer o fathau amrywiol o wastraff yn dderbyniol o dan esemptiad S2. Er enghraifft:
|
Amodau allweddol |
Rhaid cadw pob math o wastraff ar wahân |
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Mae'r esemptiad hwn yn caniatáu i nifer o wahanol fathau o wastraff gael eu storio, a cheir rhagor o wybodaeth yn y canllawiau llawn. Ni allwch ddefnyddio'r esemptiad hwn i storio gwastraff cymysg na thrin gwastraff. Mae trin yn cynnwys didoli. Os oes angen i chi ddidoli’r plastig i raddau neu fathau gwahanol, bydd angen yr esemptiad arnoch hefyd. Mae'r esemptiad hwn yn caniatáu i chi dderbyn gwastraff addas gan ffermwyr eraill, cyhyd â’i fod yn cael ei anfon i fan arall i’w ailgylchu neu ei adfer. Ni allwch dderbyn na storio gwastraff i’w waredu o dan yr esemptiad hwn. |
S3 |
Storio slwtsh |
Enghreifftiau o weithgareddau ffermio |
Storio slwtsh carthion dros dro ar y fferm lle bydd yn cael ei wasgaru o dan Reoliadau Slwtsh (Defnydd mewn Amaethyddiaeth) 1989 |
Cyfyngiadau allweddol |
|
Amodau allweddol |
Rhaid i’r storfa slwtsh gael ei leoli o leiaf:
Rhaid peidio â storio'r gwastraff o fewn Parth Gwarchod Tarddiad Dŵr Daear 1 |
Beth arall sydd angen i chi ei wybod |
Ar ôl storio, rhaid defnyddio'r gwastraff yn unol â Rheoliadau Slwtsh (Defnydd mewn Amaethyddiaeth) 1989(a). Bydd angen i chi sicrhau eich bod hefyd yn cydymffurfio â’r rheoliadau ar Barthau Perygl Nitradau lle bo'n berthnasol. Pan fyddwch yn storio slwtsh carthion i'w wasgaru, y lle sy'n rhaid i chi ei gofrestru yw'r ardal wasgaru sy'n gysylltiedig â'r pentwr hwnnw. Mae hyn cyhyd â bod cyfanswm pob pentwr o slwtsh yn ddim mwy na'r hyn sydd i'w wasgaru yn unol â'r rheoliadau slwtsh yn y lleoliad hwnnw a'i fod yn cael ei storio yn unol â holl ofynion eraill yr esemptiad. |