Llenwi nodiadau trosglwyddo gwastraff

Bob tro y byddwch chi, fel busnes, yn trosglwyddo gwastraff nad yw'n beryglus i fusnes arall, rhaid i chi a'r sawl sy'n derbyn y gwastraff lenwi nodyn trosglwyddo gwastraff.

Mae nodiadau cyflawn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar y bobl sy'n ymdrin â'r gwastraff i'w reoli'n ddiogel ac yn briodol.

Mae casglu, neu gael gwastraff wedi'i gasglu, heb ddogfennau trosglwyddo gwastraff dilys yn anghyfreithiol.

Fformat nodyn trosglwyddo gwastraff

Nid oes gan nodyn trosglwyddo gwastraff fformat safonol, ond gallwch ddefnyddio'r templed nodyn trosglwyddo gwastraff hwn ar gov.uk.

Waeth a ydych yn defnyddio'r templed neu'n creu eich nodyn eich hun, rhaid iddo gynnwys y canlynol:

  • disgrifiad o'r gwastraff mewn geiriau ac fel cod. Gellir dod o hyd i'r cod yn y canllawiau ar ddosbarthu ac asesu gwastraff
  • sut mae'r gwastraff wedi'i gadw neu ei becynnu, e.e. mewn sachau neu sgipiau
  • swm y gwastraff
  • enw, cyfeiriad a manylion trwydded neu esemptiad y busnes sy'n trosglwyddo'r gwastraff, a'i God Diwydiant Safonol (SIC)
  • enw, cyfeiriad a manylion trwydded neu esemptiad y busnes sy'n casglu'r gwastraff
  • dyddiad y trosglwyddwyd y gwastraff a lle cafodd hyn ei wneud
  • manylion unrhyw frocer neu ddeliwr gwastraff a drefnodd i'r gwastraff gael ei drosglwyddo

Rhaid i'r ddwy ochr lenwi nodyn trosglwyddo gwastraff bob tro y bydd gwastraff nad yw'n beryglus yn cael ei drosglwyddo rhyngddynt.  

Nodiadau trosglwyddo gwastraff blynyddol

Un nodyn yw hwn sy'n cynnwys nifer o drosglwyddiadau dros gyfnod o hyd at flwyddyn. Gelwir ef yn docyn tymor yn aml.

Gall eich busnes ddefnyddio un tocyn tymor os yw'r holl bethau canlynol yn aros yr un peth:

  • y partïon sy'n gysylltiedig â'r trosglwyddo – y cynhyrchydd gwastraff a'r cludydd gwastraff neu'r safle rheoli gwastraff
  • y disgrifiad o'r gwastraff sy'n cael ei drosglwyddo
  • y lleoliad lle mae'r gwastraff yn cael ei drosglwyddo o un unigolyn i'r llall

Bydd angen i chi lenwi nodyn trosglwyddo gwastraff newydd os bydd unrhyw un o'r amodau hyn yn newid.

Mae angen i chi hefyd gadw cofnod ar wahân o ddyddiad a swm y gwastraff a drosglwyddir o dan y nodyn blynyddol. Gellir gwneud hyn drwy nodi pob trosglwyddiad ar daenlen ar wahân neu fel rhan o'r cofnodion anfonebu neu'r bont bwyso. 

Cadw nodiadau trosglwyddo gwastraff

Dylech gadw copïau o nodiadau trosglwyddo gwastraff am o leiaf dwy flynedd. Rhaid i'ch busnes chi a'r busnes sy'n cymryd eich gwastraff allu eu dangos i ni neu eich awdurdod lleol yn ôl y gofyn.

Os ydych yn gludydd gwastraff, nid oes angen i chi gario'r nodiadau yn eich cerbyd.

Deiliaid tai

Nid oes angen i chi fel deiliad tai lenwi nodyn trosglwyddo gwastraff am wastraff a gynhyrchir yn eich cartref. Cyfrifoldeb y sawl sy'n casglu'r gwastraff oddi wrthych yw llenwi'r nodyn trosglwyddo. 

Diweddarwyd ddiwethaf