Mae eich rhif ffôn wedi cael ei ychwanegu dros dro i'n gwasanaeth rhybuddion llifogydd sylfaenol
Camau nesaf
Er mwyn parhau i dderbyn rhybuddion llifogydd cofrestrwch i dderbyn y gwasanaeth rhybuddio llawn yn rhad ac am ddim.
Gallwch gofrestru ar-lein neu drwy ffonio Floodline 24 awr y dydd 0345 988 1188.
Bydd negeseuon rhybuddion llifogydd yn dweud:
- pryd a ble mae disgwyl llifogydd
- cyngor am beth i'w wneud
Gallwch ddewis sut i dderbyn y negeseuon hyn, er enghraifft trwy ffôn, neges testun, neu ebost, ac os hoffech dderbyn y negeseuon yn Gymraeg neu Saesneg. Gallwch ganslo'r gwasanaeth trwy ffonio Floodline.
Gallwch ganslo'r gwasanaeth trwy ffonio Floodline.
Rhifau ffôn mewn ardaloedd pergyl llifogydd
Mae eich rhif ffôn wedi cael ei ychwanegu at ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd sylfaenol gan ei fod wedi'i gofrestru i gyfeiriad mewn ardal pergyl llifogydd.
Mae darparwyr ffonau symudol a llinellau tir wedi darparu’r rhifau ar gyfer eiddo sydd mewn perygl, gan roi cyfle i ni gyrraedd at bobl nad ydynt efallai yn gwybod am ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim.
Gwybodaeth bersonol
Os ydych wedi derbyn neges am gael eich ychwanegu at y gwasanaeth, nid ydym yn gwybod eich enw na’ch cyfeiriad.
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd llawn, byddwn yn cofnodi eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion cysylltu.
Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unig at ddibenion sy'n gysylltiedig â rhybuddion llifogydd.
Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n rheoli systemau gwasanaeth rhybuddion llifogydd yr ydym yn eu defnyddio. Mae eu nodyn preifatrwydd yn esbonio sut maen nhw'n delio a'ch gwybodaeth. Gall Cyfoeth Naturiol Cymru brosesu data ar gyfer cwsmeriaid yng Nghymru yn unig. Gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Deall eich pergyl llifogydd
Os ydych wedi cael eich ychwanegu at ein gwasanaeth, mae hyn yn golygu bod eich cyfeiriad mewn ardal perygl llifogydd. Nid yw’n golygu fod disgwyl llifogydd ar hyn o bryd.
Gweld eich risg llifogydd neu chwilio ar fap
Gweld ein rhybuddion llifogydd i weld os oes unrhyw rybuddion ar gyfer eich ardal ar hyn o bryd.
Mathau o rybuddion llifogydd
Mae gan ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd dri math o rybudd:
Llifogydd – Byddwch yn BarodMae llifogydd yn bosibl. Byddwch yn barod
|
|
Rhybudd llifogyddMae disgwyl llifogydd. Angen gweithredu ar unwaith.
|
|
Rhybudd Llifogydd DifrifolLlifogydd difrifol. Perygl i fywyd.
|
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd llawn gallwch ddewis derbyn Rhybuddion llifogydd - byddwch yn barod. Mae'r rhain yn rhoi rhybudd cynnar o lifogydd posibl.
Gallwch hefyd ddewis cael gwybod pan fydd y rhybuddion yn dod i ben ar gyfer eich ardal.
Optio allan o'r gwasanaeth rhybuddion llifogydd
Gallwch optio allan gwasanaeth trwy ffonio Floodline:
Ffôn: 0345 988 1188
Type talk: 0345 602 6340
Mwy am costau ffonio.
Siaradwch ag unigolyn ynglŷn â hyn
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth rhybuddion llifogydd, sut cawsoch eich ychwanegu, neu beth i'w wneud, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188 neu cysylltwch â ni.