Lleoliad Profiad Gwaith Myfyrwyr Sir Benfro
Mae hwn yn gyfle Profiad Gwaith i Fyfyrwyr a gynigir i helpu'r myfyriwr/myfyrwyr ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad.
Mae'n caniatáu i'r tîm sy’n gyfrifol am y lleoliad rannu eu gwybodaeth a chael profiad o weithio gyda phobl ifanc wrth hyrwyddo CNC a'r sector amgylcheddol ehangach.
Teitl y lleoliad |
Lleoliad Profiad Gwaith Myfyrwyr Sir Benfro |
Cyfarwyddiaeth |
Gweithrediadau Gogledd a De |
Tîm |
Pobl a Lleoedd y De Orllewin |
Nifer o leoliadau |
2 |
Rheolwr y lleoliad |
Cara Wilson Swyddog Pobl a Lleoedd De Orllewin Cara.l.wilson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 07977188270 |
Dyddiad dechrau |
2 Gorffennaf 2024 |
Dyddiad gorffen |
12 Gorffennaf 2024 |
Patrwm gwaith |
Dydd Mawrth i ddydd Gwener, 4 diwrnod yr wythnos am bythefnos. |
Ble bydd y myfyriwr/myfyrwyr yn cael ei leoli/eu lleoli |
Hwlffordd, Llys Afon |
Y Gymraeg |
Gellir darparu'r lleoliad hwn drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg gan ddibynnu ar ymgeiswyr a'r swyddogion dan sylw |
Tasgau allweddol y lleoliad |
Cyfle gwych i fynd allan gyda gwahanol dimau yn Sir Benfro i brofi rhywfaint o’r gwaith a’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y sector amgylcheddol yng Nghymru Cefnogi timau Amgylchedd a Rheoli Tir gyda gwaith monitro a chynnal a chadw ar wahanol safleoedd natur |
Gwybodaeth ychwanegol
- Yn addas ar gyfer grwpiau cymysg o fyfyrwyr TGAU i israddedigion - dros 16 mlynedd o leiaf
- Hapus i fod allan ym mhob tywydd
- Casglu a monitro data; gwaith cadwraeth ac ymweliadau safle. Timau amrywiol wedi'u lleoli yn Llys Afon, Hawthorn Rise, Hwlffordd
- Gwahanol safleoedd cynefinoedd o amgylch Sir Benfro, gallai gynnwys coetir, glannau afonydd, tir fferm a’r arfordir. Gall gynnwys tir garw
- Mae angen dillad ac esgidiau addas ar gyfer pob tywydd, dewch â phecyn bwyd gyda chi
Cyflwyno eich cais
Diolch am eich diddordeb yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Anfonwch eich Ffurflen Gais a'ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb gyflawn i Lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y dyddiad cau, gan ddefnyddio rhif y lleoliad fel cyfeirnod
Bydd rheolwr y lleoliad yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus i drafod y camau nesaf. Gall hyn fod mewn e-bost, dros alwad ffôn neu drwy wahoddiad ar gyfer cyfweliad anffurfiol. Os byddwch yn aflwyddiannus byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi ac yn esbonio pam.