Arbenigwyr CNC ar lwyfan Cynhadledd Tystiolaeth Forol Cymru

Kirsten Ramsay, Arweinydd Tîm Cyngor Ecosystemau Morol ac Arfordirol CNC, yw un o’r siaradwyr agoriadol yng Nghynhadledd Tystiolaeth Forol Cymru eleni. Yma, mae’n esbonio pwrpas y gwaith a sut mae ymchwil yn gallu llywio penderfyniadau polisi a rheoli sy’n cael eu gwneud yn amgylchedd morol Cymru.

Mae arbenigwyr o dîm morol Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ymlaen at drafod amrywiaeth o bynciau yng Nghynhadledd Tystiolaeth Forol Cymru gan sôn sut rydyn ni wedi gweithio gyda phartneriaid ymchwil i feithrin ein gwybodaeth am yr amgylchedd morol.

Mae dod â phobl ynghyd mewn cynhadledd fel hon yn bwysig iawn gan ei fod yn darparu fforwm lle gallwn drafod ffyrdd o gynnal ymchwil a fydd yn bwydo i benderfyniadau polisi a rheoli a fydd yn gwarchod ein hamgylchedd morol.

Ymhlith y siaradwyr o CNC mae Kate Lock, Uwch Arbenigwr Asesu Morol CNC a Natasha Lough, Ymgynghorydd Arbenigol Ecoleg Môr CNC, a fydd yn siarad am dystiolaeth o effeithiau ar fôr-wyntyllau pinc o amgylch Ynys Sgomer a sut bydd hyn yn darparu gwybodaeth i’n helpu i reoli’r rhywogaeth.

Bydd Matt Green, sy’n Uwch Swyddog Asesu Amgylcheddol Morol i CNC, yn siarad am sut mae rhaglenni hirdymor i fonitro gwaddodion gwely’r môr hirdymor unigryw yn cynnig dealltwriaeth o iechyd ein bywyd morol gwych yng Nghymru. Mae creaduriaid gwaddodion gwely’r môr yn ddangosyddion gwych o ystod o lygryddion a mathau eraill o darfu amgylcheddol.

Bydd Tom Stringell, Prif Ymgynghorydd Arbenigol ar Rywogaethau Morol CNC, yn cyflwyno’r astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Sea Watch Foundation a Phrifysgol Bangor yn archwilio presenoldeb morfilod, dolffiniaid, llamidyddion (teulu’r morfil) a rhywogaethau adar môr yn y moroedd o amgylch Cymru.

Mae Jake Davies yn gweithio ar Brosiect SIARC (Siarcod yn Ysbrydoli Gweithredu ac Ymchwil gyda Chymunedau), prosiect amlddisgyblaethol dan arweiniad CNC a Chymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) mewn partneriaeth â 19 o sefydliadau, sy’n cydweithio â chymunedau, pysgotwyr, ymchwilwyr a’r llywodraeth. Yn ei sesiwn, bydd Jake yn trafod dulliau’r prosiect i wella’r ddealltwriaeth o siarcod a chathod môr ym moroedd Cymru.

Yn y cyfamser, bydd Hannah Lee, swyddog cymunedol gyda Phrosiect SIARC, yn siarad am y prosiectau sydd ar waith i gynyddu natur gynhwysol y prosiect i gefnogi amrywiaeth ehangach o bobl i ymddiddori mewn cadwraeth forol.

A bydd Kathryn Hughes, uwch ymgynghorydd CNC ar gyfer y datganiad ardal forol, yn trafod llythrennedd morol, gan gyflwyno tystiolaeth o arolwg llythrennedd morol a gomisiynwyd gan Defra mewn cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth yr Alban a’r Ocean Conservation Trust.

Mae’r Gynhadledd Tystiolaeth Forol ar 27, 28 a 29 Chwefror 2024 yn cael ei chynnal gan Platfform yr Amgylchedd Cymru, gyda Llywodraeth Cymru a CNC, yng Nghanolfan Rheolaeth Bangor, ac mae modd ei chyrchu ar-lein yn ogystal.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru