Ein Coedwigoedd, ein Dyfodol

Mae heddiw (dydd Iau 21 Mawrth) yn Ddiwrnod Rhyngwladol Coedwigoedd, diwrnod i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y gwahanol fathau o goedwig a’u buddion niferus.

Mae thema eleni yn dathlu arloesedd ym maes coedwigaeth a chanfod atebion newydd i greu gwell byd.

I nodi’r diwrnod, dyma Greg Jones, un o’n Uwch Swyddogion Coedwigaeth, i ddweud mwy am sut mae ein timau’n sicrhau bod ein coedwigoedd a’n coetiroedd yn cael eu rheoli’n gynaliadwy, fel y gallant gefnogi arloesedd yn y sector coedwigaeth a chyflawni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rhoi rheolaeth gynaliadwy ar goedwigoedd wrth wraidd yr hyn a wnawn

O’n helpu ni i fynd i’r afael â newid hinsawdd drwy amsugno carbon, darparu cynefinoedd gwerthfawr i blanhigion a bywyd gwyllt, i dyfu a chyflenwi pren sy’n cefnogi cyflogaeth a bywoliaeth yng nghefn gwlad – mae ein coedwigoedd a’n coetiroedd yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol yn ein hamgylchedd a’n heconomi.

Mae’r holl goedwigoedd sy’n cwmpasu Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn cael eu rheoli gan ein timau rhagorol, sef y timau gweithrediadau coedwig a rheoli tir, i sicrhau eu bod yn cyflawni’r cydbwysedd gorau posibl i bobl, i’r amgylchedd, i fywyd gwyllt, ac i gynhyrchu pren cynaliadwy.

Mae rheoli ein coedwigoedd yn gynaliadwy yn golygu rheoli ar gyfer amrywiaeth o amcanion, gan gynnwys cadwraeth er mwyn cefnogi planhigion, bywyd gwyllt a chynefinoedd allweddol, fel y rhai ar hyd cyrsiau dŵr. Asgwrn cefn coedwigaeth gynaliadwy yw integreiddio cynhyrchu pren â chadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd mewn amgylchedd coedwig i bobl Cymru ei fwynhau.

Fel y cyflenwr mwyaf o bren ardystiedig yng Nghymru, rydym yn cynaeafu tua 800,000 m3 o goed o’n coedwigoedd bob blwyddyn, ac mae gan bob un o’n coedwigoedd gynlluniau adnoddau hirdymor sy’n nodi sut y bydd eu cymeriad a’r byd natur o’u mewn yn cael eu rheoli’n gynaliadwy dros y 25 i 50 mlynedd nesaf.

Pren Cymru i gartrefi Cymru

Yn ogystal â darparu cartrefi i fywyd gwyllt Cymru, mae ein coedwigoedd a’n coetiroedd hefyd yn darparu cartrefi i bobl Cymru drwy gynhyrchu pren.

Mae cynhyrchu pren yn gynaliadwy yn un o amcanion craidd yr hyn a wnawn yn y Timau Gweithrediadau Coedwig ac maent yn gweithio gyda’n Tîm Gwerthu Pren i roi pren ar y farchnad. Mae pren yn cael ei werthu wrth ymyl y ffordd neu’n sefyll, lle mae ein staff coedwigaeth yn gweithio gyda phrynwyr coed a’u Rheolwyr Gwaith Coedwig i sicrhau llif cyson o bren o Gymru wedi’i dyfu’n gynaliadwy i felinau llifio ledled Cymru a thu hwnt at wahanol fathau o ddefnydd.

Mae pren yn ddeunydd adeiladu gwych gan ei fod yn hyfryd o amlbwrpas, ysgafn, cryf ac adnewyddadwy. Mae defnyddio pren yn ein cartrefi yn ein helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd am ei fod yn cloi’r carbon yn y coed am flynyddoedd lawer. Am hynny, mae’n adnodd cynaliadwy, adnewyddadwy, carbon-gyfoethog sy’n cefnogi mentrau ar hyd a lled Cymru i adeiladu cartrefi i bobl.

Yn 2022 ymrwymodd Llywodraeth Cymru gyllid o £1.5m i Gyngor Sir Powys i gynnal prosiect 3 blynedd o’r enw Cartrefi o Bren Lleol, sy’n cael ei ddarparu gan Wood Knowledge Wales.

Dywedodd Gary Newman, Prif Weithredwr Wood Knowledge Wales:

Nod y prosiect yw cryfhau gallu Cymru i wrthsefyll ac ymateb i newid hinsawdd yn y dyfodol drwy ehangu’r defnydd o bren a dyfwyd yn lleol mewn tai cymdeithasol i gyflymu’r broses o ddatgarboneiddio’r amgylcheddau naturiol ac adeiledig.
 Mae’r prosiect yn archwilio datblygiadau arloesol ym meysydd rheoli coedwigoedd, prosesu pren, gweithgynhyrchu pren ac adeiladu tai i sicrhau bod mwy o bren o goedwigoedd Cymru yn cael ei ddefnyddio i adeiladu cartrefi sy’n perfformio’n well ar lai o garbon.
Mae’r manteision yn sylweddol. Mae defnyddio mwy o bren a dyfwyd yn lleol i adeiladu yn lleihau allyriadau carbon, yn darparu swyddi gwyrdd ym maes gweithgynhyrchu pren, ac yn gwella ymhellach yr achos dros ehangu coedwigaeth yng Nghymru.
Mae allbynnau’r prosiect Cartrefi o Bren Lleol, ar ffurf astudiaethau achos, offer a chanllawiau, yn bwydo i mewn i ddatblygiad Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren gyntaf Llywodraeth Cymru. Bydd y strategaeth hon yn sicrhau y bydd pren a dyfir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn cefnogi’r newid i economi carbon isel gydnerth.

Dyfodol coedwigaeth gynhyrchiol yng Nghymru

Mae coedwigoedd Cymru yn adnodd sy’n ysbrydoli ac mae cynhyrchu pren yn cyfrannu at sector prosesu pren a choedwigaeth lewyrchus. Cydnabyddir ei fod yn gwneud cyfraniad allweddol at economi wledig iach a rheoli coedwigoedd ac adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru. 

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i greu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren sy’n gallu datblygu a chynnal cynhyrchiant a phrosesu pren o werth uchel yng Nghymru. Bydd y strategaeth yn ymdrin â sawl agwedd ar ddiwydiant coedwigaeth cynaliadwy, gan hyrwyddo gweledigaeth gyffrous ar gyfer coedwigaeth yng Nghymru.

Bydd y strategaeth ar gyfer pren yn canolbwyntio ar sut gallwn gefnogi’r gadwyn gyflenwi, o feithrinfeydd hyd at y defnydd terfynol o’r pren. Wrth wneud hynny, y nod yw tyfu gwerth y sector yng Nghymru, gan symud tuag at gynhyrchion pren o werth uwch, wedi’u cynhyrchu yng Nghymru, gan wneud y cyfraniad mwyaf posibl i’n helpu i gyrraedd targed sero net 2050. 

Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda’r byd academaidd a diwydiant i wneud y gorau o ddatrysiadau’r genhedlaeth nesaf ar gyfer pren ym maes adeiladu, gan ddefnyddio pren o Gymru mewn strwythurau a chymwysiadau, er enghraifft effeithlonrwydd thermol mewn deunydd insiwleiddio ffibr pren. Dewiswyd y ffocws hwn er mwyn cefnogi’r newidiadau chwyldroadol sydd eu hangen i ddylanwadu ar sut caiff coedwigoedd cynhyrchiol eu rheoli, gan gefnogi marchnadoedd lleol a Chenedlaethol.

Y thema barhaus yw pwysigrwydd coedwigaeth gynhyrchiol. Coedwigaeth gynhyrchiol sy’n falch o fod wedi’i gosod yng nghyd-destun rheoli coedwigoedd amlbwrpas ar gyfer bywyd gwyllt, bioamrywiaeth, hamdden, twristiaeth, iechyd a lles.

Yn 2021 roedd y DU yn dal i fod y mewnforiwr net (sef mewnforion gan dynnu’r allforion) mwyaf ond dau o ran cynhyrchion coedwig, y tu ôl i Tsieina ac UDA[1]. Yng Nghymru, y nod yw gallu dal ati i reoli’r coedwigoedd presennol ar gyfer cynhyrchu pren cynaliadwy, ar yr un pryd ag annog creu coedwigoedd newydd, cydnerth a chynhyrchiol i ateb y galw cynyddol.

Gyda mwy o bwyslais ar ddatblygu’r diwydiant coedwigaeth, mae’n hanfodol bwysig recriwtio a chadw gweithlu coedwigaeth sgilgar. Ochr yn ochr â’r Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren, bydd cynllun sgiliau yn nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau a hyfforddiant, gan hyrwyddo pob agwedd ar goedwigaeth fel gyrfaoedd bywiog sy’n agored i bawb. O dyfu coed o had i reoli coedwigoedd, o gludo pren i felinau ar gyfer ei brosesu a’i gyflenwi i ddylunio cynhyrchion arloesol. Hyn oll i gefnogi economi bren fywiog yng nghanol Cymru.

Dysgwch fwy am Ddiwrnod Rhyngwladol Coedwigoedd ar wefan y Cenhedloedd Unedig

[1] Forestry Statistics and Forestry Facts & Figures - Forest Research

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru