Prosiect SIARC yn ennill Prosiect y Flwyddyn Cymru 2023 y Loteri Genedlaethol

Wrth i waith tîm o wyddonwyr morol ymroddedig gael ei enwebu ar gyfer gwobr Prosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol am eu gwaith yn ymchwilio i siarcod sydd mewn perygl oddi ar arfordir Cymru, gadewch i ni edrych ar y rhesymau pam mae Prosiect SIARC (Siarcod yn Ysbrydoli Gweithredu ac Ymchwil gyda Chymunedau; Saesneg: Sharks Inspiring Action and Research with Communities) yn haeddu eich pleidlais

Ddau gan mlynedd yn ôl, adroddodd papur newydd sut roedd dyn wedi dal siarc yn nyfroedd Cymru. Gan fesur mwy nag 1.5m, daeth yn destun siarad.

Gyda'i gorff hir, gwastad a'i liw yr un fath â'r dyfroedd tywyll yr oedd wedi'i dynnu ohonynt, maelgi oedd hwn.

Yn greadur swil, byddai'n treulio ei amser wedi'i gladdu ar wely tywodlyd y môr yn aros i grancod a physgod fynd heibio i fwydo arnynt, gan guddio rhag unrhyw un a oedd yn digwydd bod yn nofio gerllaw.

Yn wir feistr cuddwisg, roedd y creadur dirgel hwn mor brin i'w weld, ymddangosodd yn y penawdau.

Dirgelwch

Fel yn 1917, pan ar draeth yn y Bermo, ar arfordir gogledd Cymru, codwyd pabell i arddangos maelgi a daeth tyrfaoedd ynghyd i’w weld. Gofynnwyd i'r ciw o bobl dalu ffi fechan, gyda'r elw yn mynd at elusen, i ddod yn agos at y creadur dirgel hwn.

Mae'r rhywogaeth hon yn parhau i beri dirgelwch a deffro chwilfrydedd. Nid oes llawer yn hysbys amdano. Mae ei arferion yn gyfrinach iddo fe'i hun.

Ond yr hyn a wyddom yw, yn union fel yr adroddwyd yn y papur newydd hwnnw, fod un o siarcod prinnaf y byd yn fyw ac yn iach ac yn byw oddi ar arfordir Cymru.

Ac nid y maelgi yn unig ydyw.

Mae arfordir Cymru yn gartref i amrywiaeth o fywyd morol, gan gynnwys dros 26 o rywogaethau o siarcod a morgathod – grŵp a elwir yn elasmobranciaid. Mae elasmobranciaid yn rhan bwysig o dreftadaeth naturiol Cymru, gyda phwysigrwydd cadwraeth a diwylliannol sylweddol. Er gwaethaf hyn, ychydig a wyddys am fioleg ac ecoleg llawer o'r rhywogaethau.

Mae tîm Prosiect SIARC yn ceisio newid hyn i helpu'r bywyd gwyllt hwn i ffynnu.

Fel cynghorydd arbenigol mewn ecoleg forol i Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Ben Wray wedi bod yn ymwneud â dysgu mwy am greaduriaid fel y maelgi, er mwyn helpu i’w deall a’u diogelu’n well, ers dros ddegawd.

Ar ôl cael e-bost gan gydweithiwr am brosiect yr oedd yn gweithio arno ar y pryd yn ymwneud â bioamrywiaeth, cynefinoedd a rhywogaethau, tyfodd ei ddiddordeb ymhellach.

“Ces i e-bost am faelgwn yn sôn am yr angen i’w tagio. A dwi'n cofio ei ddarllen yn meddwl, ‘O, maelgwn? Mae hynny'n rhyfedd’, oherwydd mewn bywyd arall roeddwn i'n arfer gweithio hefyd fel hyfforddwr deifio a fideograffydd yn yr Ynysoedd Dedwydd, gan ffilmio maelgwn drwy'r amser,” meddai.

Ben Wray

“Doeddwn i ddim yn siŵr a oedd yr un rhywogaeth yng Nghymru, felly fe wnes i chwilio amdano ar Google wrth ei enw Lladin, Squatina squatina, gan ddarganfod ei fod i’w gael yng Nghymru, ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn wallgof oherwydd dyma'r rhywogaeth rydw i wedi bod yn plymio gyda hi.

“A dyna sut y dechreuodd y cyfan mewn gwirionedd.”

Dechreuwyd ar raglen fach o waith ar gyfer y rhywogaeth brin hon sydd mewn perygl, a oedd yn cynnwys gweithio gyda physgotwyr. Dros amser, arweiniodd at bartneriaeth gyda Chymdeithas Swolegol Llundain a chydweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid eraill, a sefydlwyd Prosiect Maelgi Cymru, a ddaeth yn Brosiect SIARC yn ddiweddarach.

Jake Davies, Sarah Davies a pysgotwr

Roedd Jake Davies, sy’n fab i bysgotwr masnachol ac sy’n arbenigwr technegol ar Brosiect SIARC, eisoes yn gyfarwydd â’r bywyd rhyfedd a rhyfeddol yn ein moroedd ond, yn ystod lleoliad myfyriwr gyda thîm Ben, clywodd am y maelgi am y tro cyntaf.

“Soniodd Ben am y maelgi ac roedd hynny'n eithaf diddorol, i wybod eu bod nhw yma; doedd gen i ddim syniad beth oedd Maelgi bryd hynny, felly dechreuais ymchwilio,” esboniodd Jake.

Dechreuodd gynnal gwaith ymchwil ar wahanol wefannau, fforymau a chyfryngau cymdeithasol, gan adeiladu rhwydweithiau gyda physgotwyr a chymunedau lleol a rannodd wybodaeth am bobl yn gweld maelgwn, a rhoddodd rwydwaith at ei gilydd lle bu rhannu data ar y cyd, yn amrywio o ddata hanesyddol i rai’r presennol.

“Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi casglu’r holl ddata yna ac wedi gwneud llawer mwy o ymgysylltu â’r gymuned ac wedi codi proffil maelgwn oddi ar arfordir Cymru i ddangos i bobl fod gennym ni un o’r siarcod prinnaf oddi ar yr arfordir,” meddai Jake.

“Roedd gennym ni dros 2,000 o gofnodion yn dyddio’n ôl i 1812 a llwyth o gyfeiriadau hanesyddol.”

Arweiniodd sgyrsiau gyda phobl mewn siopau genweirio yn ogystal â physgotwyr at atgofion o adegau pan gafodd maelgwn eu dal, gan helpu’r tîm i greu darlun o’r rhywogaeth yng Nghymru.

Eglurodd Jake: “Trwy'r sgyrsiau gyda physgotwyr, roedden nhw wedyn yn gofyn ‘Beth am gŵn gleision?’ neu ‘Beth am y rhywogaethau siarc eraill hyn na wyddom fawr ddim amdanynt?’”

Tim Project SIARC

O ganlyniad, mae Prosiect SIARC bellach yn canolbwyntio ar chwe rhywogaeth o elasmobranciaid sy’n byw yn nyfroedd Cymru, gan weithio gyda chymunedau lleol a physgotwyr i ennill dealltwriaeth o’r rhywogaethau hyn, ac i gydnabod pwysigrwydd treftadaeth.

Un o'r nifer o bethau y mae tîm y prosiect yn ei wneud yw gweithio gyda dinasyddion-wyddonwyr a phlant ysgol i ysbrydoli, ennyn diddordeb, a chasglu gwybodaeth am yr elasmobranciaid sy'n bresennol oddi ar yr arfordir a rhannu pam eu bod yn bwysig i'n cefnforoedd.

Eglurodd Sarah Davies, Cydlynydd Prosiect SIARC:

“Rhan fawr o hyn yw ein gweithgareddau gwyddoniaeth dinasyddion felly rydym yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Siarcod ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i gynnal Helfeydd Casys Wyau ar draethau lleol, lle gall unrhyw un ymuno i ddysgu a chwilio am blisg wyau siarcod a morgathod, a elwir weithiau yn byrsiau’r fôr-forwyn, sy'n cael eu golchi i fyny ar y traeth.

“Mae’r cyfranogwyr yn helpu i gasglu a chofnodi’r data – ble mae’r plisg wyau a faint ohonynt sydd yno – sy’n ein helpu i ddeall pa rywogaethau sy’n bresennol a ble.

“Cafodd gwirfoddolwyr hefyd eu recriwtio ar gyfer ymchwil archifol – gan sgwrio llyfrgelloedd ac amgueddfeydd i chwilio am yr holl gofnodion hanesyddol hyn,” ychwanegodd.

Ac eto, er gwaethaf yr wybodaeth y mae'r tîm wedi'i chasglu am y siarcod yn nyfroedd Cymru, mae cymaint sy'n anhysbys o hyd am y siarcod a’r morgathod rhyfeddol sy'n byw ar hyd yr arfordir.

Fodd bynnag, mae un peth yn sicr, nid yw maelgwn na'r rhywogaethau eraill o siarcod a morgathod yng Nghymru yn fygythiad i fywyd dynol.

Helfeydd Casys Wyau

Dywedodd Jake, sydd wedi dal fideos o faelgi yn nyfroedd Cymru: “Os gwelwch chi un, mae’n foment anhygoel.

“Os ydych chi'n ddigon ffodus i weld un, yn enwedig o dan y dŵr, oherwydd mai ychydig iawn o bobl sy'n gweld maelgwn, maen nhw'n gwbl ddiniwed. Maen nhw'n treulio llawer o'u hamser wedi'u claddu o dan y tywod neu'r mwd, lle byddan nhw'n aros am fwyd i ddod atynt, fel pysgod bach. Mae’n anhygoel treulio amser yn y dŵr gydag unrhyw un o’r rhywogaethau o siarcod a morgathod sydd i’w cael ar hyd yr arfordir.”

Gall unrhyw un sy’n byw neu’n preswylio yng Nghymru ar hyn o bryd fod yn rhan o Brosiect SIARC drwy fynd i www.prosiectsiarc.com neu ddilyn y gwaith ar Facebook, Instagram neu Twitter.

Ariennir Project SIARC drwy Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru