Cerdded yn yr haf: manteision iechyd a chyngor

Ein cynghorydd iechyd, Steven Meaden, sy’n rhannu manteision teithiau cerdded yn yr haf a sut i ofalu am eich iechyd ar ddiwrnodau poeth, heulog.

Wrth i dymor yr haf fynd rhagddo, mae lliwiau rhyfeddol byd natur yn dod yn fyw, gan ein gwahodd i gamu allan ac ymgolli yn eu harddwch. Un o'r gweithgareddau mwyaf pleserus a hygyrch yn ystod y cyfnod hwn yw mynd am dro.

P'un a ydych chi'n cerdded trwy barc, yn crwydro ar hyd traeth, neu'n archwilio llwybr coedwig, mae cerdded yn yr haf yn cynnig nifer o fanteision ar gyfer iechyd corfforol a lles cyffredinol.

Yr amgylchedd naturiol sy'n newid o hyd

Gyda dyfodiad yr haf, oriau golau dydd hirach a thymheredd uwch, mae'r amgylchedd naturiol yn gweddnewid gyda’r llystyfiant yn wyrdd ac ir, myrdd o flodau'n blodeuo a bywyd gwyllt yn ffynnu.

Mae'r newid anhygoel hwn yn yr amgylchedd naturiol yn wahoddiad i archwilio a chysylltu â natur trwy deithiau cerdded.

Manteision cerdded o ran iechyd

Mae mynd am dro rheolaidd yn ystod yr haf nid yn unig yn gyfle i ymhyfrydu yn ysblander natur ond mae hefyd yn cynnig manteision sylweddol o ran iechyd a lles. Dyma rai o fanteision allweddol cerdded:

Ffitrwydd corfforol

Mae cerdded yn ymarfer aerobig ag effaith isel sy'n gwella iechyd cardiofasgwlaidd, yn cryfhau'r cyhyrau, ac yn gwella hyblygrwydd. Mae'n cynyddu cyfradd curiad eich calon, a thrwy hynny mae’n gwella cylchrediad y gwaed a chynhwysedd yr ysgyfaint.

Gall teithiau cerdded rheolaidd hefyd gyfrannu at reoli pwysau, gan leihau'r risg o gyflyrau cronig fel gordewdra, diabetes, a chlefyd y galon (Lee et al., 2020).

Gwella hwyliau

Mae natur yn cael effaith ddwys ar ein lles meddyliol, a gall cerdded ynghanol prydferthwch yr haf godi’r ysbryd a gwella hwyliau.

Mae gwaith ymchwil gan Berman et al. (2012) wedi dangos bod treulio amser mewn amgylcheddau naturiol, gan gynnwys parciau a choedwigoedd, yn lleihau lefelau straen ac yn gwella gweithrediad gwybyddol.

Gall y cyfuniad o ymarfer corff, awyr iach a golygfeydd a synau natur yn ystod teithiau cerdded yr haf helpu i leddfu pryder a rhoi hwb i hapusrwydd cyffredinol.

Hwb fitamin D

Mae golau'r haul yn un o brif ffynonellau fitamin D, sy'n hanfodol ar gyfer cynnal iechyd esgyrn a chefnogi’r system imiwnedd. Mae cerdded yn yr awyr agored yn ystod yr haf yn gadael i olau'r haul gyrraedd eich croen, gan helpu’r fitamin hanfodol hwn i syntheseiddio (Holick, 2017).

Fodd bynnag, mae'n hanfodol sicrhau cydbwysedd ac osgoi gormod o gysylltiad â golau'r haul. Gall gwisgo eli haul, het a sbectol haul, a cherdded yn ystod oriau’r bore neu gyda'r nos amddiffyn eich croen tra byddwch yn elwa o olau’r haul.

Gofalu am eich iechyd a'ch lles yn yr haf

Er y gall cerdded yn yr haf fod yn hyfryd, mae'n hanfodol cymryd rhagofalon penodol i sicrhau bod eich iechyd a'ch lles yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Dyma rai awgrymiadau pwysig i'w cofio:

Dŵr

Gall tymheredd uwch a mwy o weithgarwch corfforol yn ystod teithiau cerdded arwain at golli dŵr.

Cariwch botel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio ac yfwch ddigon o hylifau cyn, yn ystod, ac ar ôl eich teithiau cerdded. Cofiwch gymryd llymaid o ddŵr yn rheolaidd, hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo'n sychedig, er mwyn cynnal y lefel briodol o ddŵr yn eich corff (NHS Inform, 2019).

Gwisgwch yn briodol

Dewiswch ddillad ysgafn, anadladwy sy'n caniatáu ar gyfer cylchrediad aer ac anweddiad lleithder. Dewiswch ffabrigau o liw golau sy'n adlewyrchu golau’r haul a gwisgwch het lydan a sbectol haul i amddiffyn eich hun rhag yr haul.

Mae gwisgo esgidiau cyfforddus gyda chefnogaeth ddigonol yn hanfodol i atal anafiadau traed a phothelli (Coleg Podiatreg, 2023).

Yr adeg o’r dydd

Ceisiwch osgoi cerdded yn ystod rhan boethaf y dydd, fel arfer rhwng 10 am a 4 pm pan fydd pelydrau'r haul ar eu cryfaf. Yn lle hynny, trefnwch eich teithiau cerdded yn gynnar yn y bore neu'n hwyr gyda'r nos i fwynhau tymereddau oerach a lleihau'r risg o salwch sy'n gysylltiedig â gwres (www.ramblers.org.uk, 2023).

Dewch o hyd i lwybr cerdded

P'un a ydych yn chwilio am daith gerdded gysgodol yn y goedwig, Gwarchodfa Natur Genedlaethol i'w harchwilio, neu daith i'r traeth, fe welwch lawer o lefydd i gerdded ar ein gwefan Ar Grwydr.

Mae arwyddbyst ar ein llwybrau cerdded o'r dechrau i'r diwedd ac maent wedi'u graddio i roi syniad o’u lefel, felly gallwch ddewis llwybr sy'n addas i chi a pheidio â mynd ar goll ar hyd y llwybr.

Mae ein llwybrau cerdded hygyrch yn addas i bawb gan gynnwys pobl â chadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio ac mae gan lawer ohonynt feinciau neu fannau gorffwys eraill ar hyd y llwybr.

Os ydych chi eisiau gwybod beth sydd yn eich ardal chi, gallwch ddefnyddio ein map rhyngweithiol i ddod o hyd i goetiroedd, gwarchodfeydd, llwybrau a thir mynediad agored yn eich ardal chi.

Ble bynnag y byddwch yn dewis cerdded, gofalwch am yr awyr agored drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad: cofiwch ofalu am natur a pheidio â gadael unrhyw olion o'ch ymweliad fel y gall pawb elwa o fyd natur.

Felly, ewch amdani! Ewch allan yr haf hwn a darganfod y manteision anhygoel a ddaw o dreulio amser ym myd natur yn ystod misoedd yr haf.

Cyfeiriadau

Berman, M. G., Jonides, J., a Kaplan, S. (2012). The cognitive benefits of interacting with nature. Psychological Science, 19 (12), 1207-1212.

Coleg Podiatreg (2023) Coleg Brenhinol Podiatreg

Holick, M. F. (2017). The vitamin D deficiency pandemic: Approaches for diagnosis, treatment, and prevention. Reviews in Endocrine and Metabolic Disorders, 18(2), 153-165.

Lee, I. M., Shiroma, E. J., Lobelo, F., Puska, P., Blair, S. N., a Katzmarzyk, P. T. (2012). Effect of physical inactivity on major non-communicable diseases worldwide: An analysis of burden of disease and life expectancy. The Lancet, 380(9838), 219-229.

NHS Inform (2019) Hydration | NHS inform. Nhsinform.scot

Y Cerddwyr (2023) Summer walking – 5 ways to stay safe in the heat

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru