Cyrff amgylcheddol yng Nghymru a Lloegr yn ceisio barn ar ddyfodol ardal uchaf Dyffryn Hafren

Cwm Hafren wedi gorlifo yn ystod Storm Babet

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru ochr yn ochr â Chyngor Sir Amwythig a Chyngor Sir Powys wedi rhyddhau eu cynnig ar y ffordd y bydd cynlluniau’n cael eu datblygu i sicrhau bod afon Hafren yn ddalgylch afon mwy bywiog a chydnerth.

Dros y chwe wythnos nesaf maent yn gwahodd y gymuned i rannu eu barn ar y dull hir dymor ar gyfer yr ardal trwy ymgynghoriad newydd. Bydd yn nodi gweledigaeth ar gyfer afon Hafren ac yn amlinellu dull arfaethedig o ddatblygu strategaeth a fydd yn cyfrannu at leihau perygl llifogydd a gwella diogelwch dŵr. Bydd y strategaeth hefyd yn cefnogi cymunedau a byd natur yn lleol ac yn rhoi hwb i’r economi leol.

Lleisiwch eich barn ar yr ymgynghoriad erbyn dydd Mawrth 21 Mai.

Gall ymatebwyr yng Nghymru ymateb yn Gymraeg yma: https://bit.ly/SVWMSCYM0424

Gall ymatebwyr yng Nghymru ymateb yn Saesneg yma: https://bit.ly/SVWMSENG0424

Gall ymatebwyr yn Lloegr ymateb yma http://consult.environment-agency.gov.uk/west-midlands/svwms

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal gan Gynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (SVWMS), sy’n cael ei arwain gan bartneriaeth rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd, CNC, Cyngor Sir Amwythig a Chyngor Sir Powys. Mae’n cael ei ddatblygu mewn ymateb i lifogydd sylweddol yn afon Hafren yn y degawdau diwethaf sydd wedi difrodi cartrefi a busnesau, wedi effeithio ar seilwaith lleol ac wedi amharu ar deithio.  Nod y prosiect hwn yw amddiffyn dros 3,000 o gartrefi a 1,000 o fusnesau yn well rhag perygl llifogydd ar draws dalgylch ardal uchaf afon Hafren yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r prosiect hefyd yn ceisio cefnogi'r gwaith o reoli adnoddau dŵr hirdymor, am fod cyfnodau hirfaith o dywydd sych yn ddiweddar wedi arwain at yr angen i weithredu i leihau'r difrod amgylcheddol a wneir gan lifau dŵr isel. Fel enghraifft o’r eithafion hyn, gwelwyd llifogydd yn y gaeaf yn 2022 a sychder yn nalgylch Hafren Uchaf o fewn cyfnod o wyth mis, gyda dŵr daear a chronfeydd dŵr yn cael eu defnyddio i gynnal y bobl a’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu ar y cyflenwad dŵr a ddarperir gan afon Hafren.

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn, mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn mabwysiadu dull adfywiol, sy’n golygu y bydd ymyriadau’n ceisio cyfrannu’n gadarnhaol at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac atal dirywiad mewn bioamrywiaeth, tra'n darparu buddion sylweddol o ran perygl llifogydd. Bydd yn ymchwilio i ymyriadau gan gynnwys mesurau rheoli perygl llifogydd naturiol sy'n arafu llif y dŵr i fyny'r afon megis plannu coed neu greu argaeau sy'n gollwng; arferion ffermio a rheoli tir amgen yn ogystal ag atebion wedi'u saernïo megis adeiladu ardaloedd storio dŵr llifogydd ac argloddiau.

Mae tîm Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren eisoes wedi gwneud gwaith cwmpasu i ddeall yn well faint o ymyriadau sy’n seiliedig ar natur a faint o ymyriadau wedi'u saernïo y gallai fod eu hangen i reoli dŵr yn effeithiol ar draws yr ardal, i fyny’r afon o Amwythig.

Dywedodd David McKnight, Rheolwr Perygl Llifogydd ac Arfordirol Asiantaeth yr Amgylchedd “Mae cyflawni Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn ateb hirdymor i reoli dŵr yn gynaliadwy, ac rydym ar ddechrau taith gymhleth i gyflawni ein gweledigaeth. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu a phrofi opsiynau ar y cyd â phartneriaid a chymunedau ledled Cymru a Lloegr yn 2024 wrth i ni ddechrau’r ymgynghoriad. Rydyn ni am glywed gan bob ardal o gymuned afon Hafren wrth i ni gychwyn ar y rhaglen drawsnewid sydd ei hangen ar y dalgylch er mwyn iddo allu addasu i’n hinsawdd newidiol a pharhau i ffynnu.”

Dywedodd Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Canolbarth Cymru:

"Gall effaith llifogydd fod yn hynod ddinistriol i gymunedau, ac mae realiti'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid i ni addasu i dywydd eithafol yn y dyfodol.

"Rydym yn bartner i Gynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren oherwydd mae ganddo'r potensial i wella ein gwaith i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau yng ngogledd Powys tra hefyd yn darparu buddion pwysig i natur a'r amgylchedd.

"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam pwysig wrth ddysgu am yr hyn sy'n bwysig i gymunedau ar draws y dalgylch, a bydd yn dylanwadu ar sut rydym yn symud ymlaen i amddiffyn pobl a'r amgylchedd lleol."

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 21 Mai 2024.

Os oes angen copi papur o'r ymgynghoriad arnoch, ffoniwch Asiantaeth yr Amgylchedd ar 03708 506 506 i ofyn am gopi o'r wybodaeth wedi ei bostio neu ei e-bostio.