Mae cael gwared o gored Honddu yn rhoi hwb i bysgod bregus

Mae prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gael gwared ar gored ddiangen ar Afon Honddu, ger Aberhonddu, wedi agor 20km o gynefin i helpu eogiaid i gyrraedd mannau bridio pwysig. 

Adeiladwyd y gored yn y 60au i fonitro a rheoli llif afonydd er mwyn lleihau perygl llifogydd. Ond mae wedi achosi rhwystr sylweddol i eogiaid a physgod mudol eraill, sy'n nofio i fyny'r afon i chwilio am welyau graean i silio. Mae'r rhwystrau hyn hefyd yn arafu pysgod ifanc wrth iddynt symud yn ôl i lawr yr afon ar eu teithiau i'r môr.

Mae datblygiadau mewn technegau mesur llif yn golygu nad oes angen rhai coredau bellach a gellir cael gwared ohonynt fel bo afonydd yn dychwelyd i gyflwr mwy naturiol.  Rhwystrau sy’n atal pysgod mudol yw un o'r prif resymau pam y mae afonydd yn methu â chyrraedd statws ecolegol da fel y'i diffinnir gan reoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Gyda chydweithrediad a chefnogaeth Cyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae'r prosiect hefyd wedi darparu gwelliannau i'r gymuned leol. Mae hyn yn cynnwys ehangu llwybr troed a gosod meinciau newydd fel y gall pobl fwynhau'r golygfeydd allan dros yr afon.

Meddai Dr Ben Wilson, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd CNC:

"Mae maint a chyfradd colli bioamrywiaeth ledled y wlad yn cyflymu, ac mae hyn yn effeithio ar rywogaethau sy'n dibynnu ar ein hadnoddau naturiol.
"Mae ein hafonydd a'r rhywogaethau maen nhw'n eu cynnal o dan bwysau cynyddol oherwydd newid hinsawdd a llygredd. O ganlyniad, mae rhywogaethau eiconig fel eogiaid yn prinhau yn anffodus, ac mae angen i ni gymryd camau brys i'w cynorthwyo.
"Un o'r pethau gorau y gallwn ni eu gwneud yw cael gwared ar unrhyw rwystrau artiffisial sy'n eu hatal rhag gwneud eu ffordd i fyny, ac i lawr yr afon.  Mae cael gwared ar y gored hon yn rhoi gwell mynediad i eogiaid at y dŵr oer, glân a'r cynefin o ansawdd sydd ei angen arnynt i oroesi. "

Meddai Stephen Butcher, Swyddog Cefn Gwlad a Hamdden Awyr Agored, Cyngor Sir Powys:

"Mae hon yn ardal boblogaidd iawn i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, gyda theithiau cerdded cylchol a llwybrau teithio actif ym mhob rhan o’r coetir ar hyd glan yr afon a thrwy'r dyffryn coediog.
"Mae cydweithio wedi golygu bod nifer o fanteision wedi cael eu cyflawni, gyda Chyngor Sir Powys yn darparu coed heintiedig a gafodd eu cwympo, i’w defnyddio a’u gosod i helpu i atgyfnerthu'r arglawdd newydd.
"Mae meinciau wedi cael eu gosod er mwyn i bobl fwynhau'r golygfeydd newydd, ac wrth i'r llwybrau mynediad ehangu, mae’n fwy posibl i drigolion ac ymwelwyr gyrraedd pen uchaf coetir Priory Grove. Mae'r manteision hyn wedi bod yn boblogaidd ymysg y trigolion lleol."

Dechreuodd y gwaith cynllunio ar gyfer y prosiect yn 2019, a chafodd ei gwblhau'r haf hwn.

Cyfanswm y gost oedd tua £250,000 a chafodd ei ariannu gan Raglen Gyfalaf Argyfyngau Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen yn cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys gwaith i adfer mewndir, adfer mwynfeydd metel, pysgodfeydd, ansawdd dŵr a choedwigoedd cenedlaethol.

Y flwyddyn ariannol hon, mae CNC wedi ymrwymo i wario £25m drwy Raglen Gyfalaf Argyfyngau Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys £1.2m ar gyfer prosiectau pysgodfeydd ledled Cymru.