Mobi-Mat wedi'i osod i roi datrysiad hyblyg i fynediad i'r traeth

Mae mynediad i draeth ar Ynys Môn wedi cael ei wella i ymwelwyr sy'n defnyddio cymhorthion symudedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gosod Mobi-Mat symudol wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu, i wella mynediad i'r traeth yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch.

Gosodwyd y mat ar 28 Gorffennaf ac mae wedi'i leoli mewn ardal lle mae strwythur presennol y twyni yn darparu mynediad gwastad i'r traeth ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Bydd CNC hefyd yn gweithio gydag Uned Cefn Gwlad ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Cyngor Sir Ynys Môn i ddarparu cadeiriau olwyn sy’n addas ar gyfer y traeth a fydd yn caniatáu mynediad i lawr i'r môr.

Bydd y mat yn amddiffyn y llwybr mynediad presennol rhag erydiad annaturiol lle mae ymwelwyr yn cerdded a gellir ei ail-leoli hefyd, os oes angen, oherwydd prosesau naturiol y twyni.

Bydd strwythur y blaendwyni’n cael ei warchod rhag erydiad trwy ddefnyddio ysgol dywod y gellir ei hail-leoli hefyd i weddu i brosesau naturiol.

Dywedodd John Taylor, Arweinydd Tîm Hamdden CNC, Gogledd Orllewin Cymru:

“Mae'r twyni'n rhan o dirwedd ddeinamig a newidiol sy'n ei gwneud hi'n anodd cyrraedd y traeth.

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r mynediad lleiaf rhwystrol i Draeth Llanddwyn gan hefyd barchu prosesau naturiol y system dwyni sy'n cynnal cymaint o rywogaethau pwysig fel gwenynen durio’r gwanwyn. 

“Rydym yn credu y bydd y Mobi-Mat yn darparu ateb hygyrch a hyblyg ar gyfer tymor yr haf.

“Oherwydd bod y dirwedd yn newid yn gyson, mae’n debyg nad hwn fydd yr unig ateb, ac na fydd yn ateb parhaol, i fynediad i'r traeth a byddwn yn monitro pa mor llwyddiannus yw’r mat yr haf hwn.

“Gan fod modd ailddefnyddio'r Mobi-Mat, rydym yn teimlo bod hwn yn ateb da dros dro tra bod CNC yn edrych ar fynediad i'r traeth fel rhan o'i Gynllun Pobl Niwbwrch sydd ar waith.”

Mae’r Mobi-Mat wedi cael ei osod oddeutu 50 metr oddi wrth fynedfa’r llwybr pren presennol ar hyd ffordd y preswylwyr.

Mae Niwbwrch yn safle o arwyddocâd rhyngwladol o ran bioamrywiaeth ac yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru sy'n cynnal amrywiaeth o degeirianau prin, amffibiaid, ymlusgiaid ac infertebratau ac mae'n denu tua 500,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.