Mae un o rywogaethau adar prinnaf a mwyaf dan fygythiad y DU yn parhau i ffynnu yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd

Bittern At Newport Wetland Nature Reserve

Roedd ar flin diflannu ar un adeg, ond mae un o rywogaethau adar prinnaf a mwyaf dan fygythiad y DU wedi bridio'n llwyddiannus am y bedwaredd flwyddyn yn olynol ar Wastadeddau Gwent yn ne Cymru.

Diolch i flynyddoedd o waith cadwraeth gan swyddogion a gwirfoddolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, mae adar y bwn yn parhau i ffynnu yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd, ac mae chwech o gywion aderyn y bwn wedi'u magu mewn dwy nyth ar wahân yr haf hwn.

Cyn 2020, nid oedd adar y bwn wedi bridio ar Wastadeddau Gwent ers dros 200 mlynedd.

Rheolir y gwlyptiroedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth ag RSPB Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd.

Math o grëyr sy'n byw mewn gwelyau cyrs yn unig yw aderyn y bwn. Ar un adeg, credwyd bod y rhywogaeth wedi diflannu yn y DU ar ôl blynyddoedd o erledigaeth a'i chynefin wedi prysur ddiflannu, ond ers hynny mae poblogaethau wedi dychwelyd i ardaloedd lle mae cynefin gwely cyrs o ansawdd uchel yn dal i fodoli. 

Mae nifer o welliannau i’r gwlyptiroedd dros y blynyddoedd wedi helpu i greu cynefin da i adar y bwn ffynnu, gan gynnwys gwaith rheoli gofalus o’r gwelyau cyrs a chyflwyno ffynonellau bwyd pwysig megis pysgod bach fel rhuddbysgod a llysywennod ifanc.

Mae gwelyau cyrs y gwlyptiroedd hefyd wedi bod yn gynefin gwerthfawr i foda'r gwerni a’r titw barfog, sydd hefyd wedi bridio yn y warchodfa eleni.

Fe wnaeth y pâr gwreiddiol o fodaod y gwerni fagu 12 o gywion rhwng 2016 a 2022. Mae'r fenyw bellach yn 10 oed o leiaf ac nid yw wedi bridio eleni, ond mae pâr newydd o adar iau wedi magu tri chyw.

Dywedodd Kevin Dupe, Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru: 

Mae'n wirioneddol anhygoel gweld cywion aderyn y bwn yn ffynnu ar y gwlyptiroedd, ac yn orchest wirioneddol i'r rhai ohonom sydd wedi bod yn ymwneud â chadwraeth cynefinoedd ar y safle ers amser maith. Mae eu gweld yn ffynnu am y bedwaredd flwyddyn yn olynol yn tystio i'r ymdrech gadwraeth a wnaed gan y tîm, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr niferus.
Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn rhan o Wastadeddau Gwent ac yn cynnwys ystod amrywiol o gynefinoedd isel sy’n darparu cartref pwysig i fywyd gwyllt yn ogystal â bod yn fan gwyrdd gwerthfawr i’r cymunedau cyfagos ac ymwelwyr ei fwynhau.
Mae gwlyptiroedd yn gynefin pwysig sydd angen ein cymorth ni. Yn ogystal â chaniatáu i rywogaethau fel aderyn y bwn ddod yn ôl o ymyl y dibyn, gallant hefyd ein helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd drwy storio carbon niweidiol a dal dŵr llifogydd yn ôl.

Dywedodd Chris Harris, Rheolwr Rhaglen Partneriaeth Tirwedd y Gwastadeddau Byw:

Mae'n galonogol iawn gweld adar y bwn a bodaod y gwerni sy'n magu yn ailymddangos ar y gwastadeddau ar ôl absenoldeb mor hir. Mae’r ffaith bod y rhywogaethau gwlyptir eiconig hyn wedi gallu ail-gytrefu Gwlyptiroedd Casnewydd yn tystio i waith caled CNC, grwpiau cadwraeth a gwirfoddolwyr. Mae hefyd yn dangos gallu rhyfeddol byd natur i adfer, o gael y cyfle, a dylai fod yn ysbrydoliaeth i bawb sy’n gweithio i amddiffyn a gwella Gwastadeddau Gwent.

I gynllunio eich ymweliad â Gwlyptiroedd Casnewydd, ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd