Diweddariad: Ymateb aml-asiantaeth i dân i ffatri ar Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug

Mae'r ymateb aml-asiantaeth yn parhau yn dilyn y tân mewn ffatri ar Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug a'i effaith ar yr amgylchedd.

Dywedodd Lyndsey Rawlinson o Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Yn dilyn y tân yn y Ffatri Synthite rydym wedi monitro’r Afonydd Alun a Dyfrdwy i ddeall yr effaith a gallwn gadarnhau bod cemegyn o’r enw fformaldehyd wedi mynd i’r Afon Alun.
“Mae ein gwaith monitro wedi cadarnhau nad ydym bellach yn gofyn i bobl beidio mynd ger yr Afon Alun.
“Bydd monitro rownd y cloc yn parhau ac rydym mewn cysylltiad parhaus â’n partneriaid aml-asiantaeth, gan gynnwys y gwasanaethau brys, adrannau iechyd, llywodraeth leol a chwmnïau dŵr, wrth i ni barhau i gydweithio i leihau effaith y tân ar y gymuned a’r amgylchedd.”

Mae gweithrediadau diffodd tân wedi eu gohirio ers neithiwr ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn parhau i gadw llygad.