Lleoliad a safle

Mae coedwig Margam yn ymestyn dros 2,117Ha ac mae wedi ei lleoli i'r gorllewin o dref Maesteg gerllaw traffordd yr M4 ac i'r dwyrain o waith dur Port Talbot. 

Mae'r goedwig yn cynnwys tri bloc ar wahân o goedwig sy'n agos at ei gilydd. Enwau'r blociau hyn yw: Cwm Cynffig a Chraig yr Aber a Bryn. Mae coedwig Margam i gyd o fewn ffin awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot.

Amcanion

  • Amrywio cyfansoddiad y rhywogaethau yn y goedwig er mwyn cynyddu gwydnwch i blâu a chlefydau wrth adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

  • Cynyddu'r ardaloedd a nodwyd fel rhai i'w teneuo o fewn y cynllun teneuo pum mlynedd er mwyn galluogi'r system goedamaeth fach ei heffaith i gael ei rheoli ac i blanhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol gael eu hadfer.

  • Cynyddu amrywiaeth adeileddol trwy reoli'r system goedamaeth fach ei heffaith pan fo'n briodol ac ystyried graddfa, maint ac amseru unrhyw fannau wedi’u llwyrdorri, gan osgoi cwympo unrhyw lennyrch cyfagos. Dylid cadw unrhyw gnydau conwydden hynach pan fo'n bosibl er mwyn cadw adeiledd y goedwig a'i botensial cynhyrchiol.

  • Gwella cysylltedd cynefinoedd trwy gynnal a gwella coetiroedd hynafol rhannol naturiol ac adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol, yn unol â'r polisi blaenoriaethu strategol. Hwyluso ehangiad coetiroedd brodorol lle y bu'n rhaid cynaeafu'r prif gnwd o larwydd cyn eu hamser. Mae ailgyflenwi'r ardaloedd hyn yn flaenoriaeth allweddol wrth fynd ymlaen, i sicrhau na chollir unrhyw orchudd coedwig net o ganlyniad. Mae lle i ehangu ac amrywio adrannau llydanddail o'r coetir i gynorthwyo'r ddarpariaeth o gynefinoedd lle'n bosibl.

  • Defnyddio cyfleoedd i ddod o hyd i goetiroedd llydanddail er mwyn cysylltu cynefinoedd perthi a gwella gwydnwch.

  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiad pren trwy'r cynllun a ddefnyddir i gwympo coed a'r dewis o rywogaethau i'w hailgyflenwi.

  • Defnyddio'r rhwydwaith ffordd, marchogaeth a pharth glannau'r afon presennol er budd bioamrywiaeth, trwy greu cysylltiadau â chynefinoedd agored a safleoedd coetir hynafol.

  • Parhau i reoli'r boblogaeth o geirw o fewn Coedwig Margam er mwyn osgoi'r effeithiau ar Fioamrywiaeth a photensial y goedwig i gynhyrchu.

  • Cynnal cynhyrchiad sefydlog o bren i gyflenwi Sector Prosesu Coedwigoedd a Phren Cymru.

  • Cynnal gorchudd y goedwig ledled yr uned rheoli coedwigoedd at ddibenion dal a storio carbon.

  • Cynnal a gwella'r defnydd hamdden a wneir o'r coetir a'r ddarpariaeth o fynediad drwyddo.

  • Bydd nodweddion treftadol a diwylliannol yn cael eu nodi er mwyn osgoi difrod.

  • Rhaid cynnal gorchudd y coetir yn ddigonol at ddibenion rheoli llifogydd naturiol er mwyn lleihau llif dŵr wyneb.

  • Buddsoddi mewn Rheoli Adnoddau Dŵr Naturiol er mwyn lleihau'r perygl o ddyfroedd llifogydd yn torri trwy'r A48 a'r 320 o dai a nodwyd yn y dalgylch isaf.

  • Cynllunio maint ac amseru llennyrch cwympo ac ailgyflenwi coed er mwyn osgoi'r effeithiau ar ansawdd y dŵr.

  • Chwilio am gyfleoedd i ddarparu cysylltedd rhwng Coedwig Margam a Pharc Margam, ynghyd â Choedwig Afan.

  • Archwilio camau gweithredu gyda chyrff cyhoeddus eraill trwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i fynd i'r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghoedwig Margam a'r ardal ehangach er mwyn osgoi symud y broblem i rywle arall. Mae hyn yn cynnwys lladrata pren a pheiriannau / offer cynaeafu.

  • Mae tresmasu anghyfreithlon gan gerbydau ac anifeiliaid yn ystyriaeth bwysig sy'n effeithio fwyfwy ar sut y mae'r coetiroedd hyn yn cael eu rheoli, nawr ac yn y dyfodol.

Sylwadau neu adborth 

Os oes gennych sylwadau neu adborth yn ymwneud â Chynllunio Adnoddau Coedwigoedd, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwigoedd ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Map lleoliad PDF [822.9 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf