Ymweliadau hygyrch

Gall pawb fwynhau llawer o’n coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol waeth beth fo’u gallu.

Mae ein llwybrau cerdded hygyrch yn dilyn llwybrau gwastad neu lwybrau pren sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.

Mae gan rai safleoedd lwybrau cerdded a beicio cynhwysol ar gyfer defnyddwyr offer addasol – gwyliwch ein ffilmiau i benderfynu a yw llwybr yn addas ar gyfer eich offer chi.

Mae ein holl ganolfannau ymwelwyr, caffis a thoiledau yn hygyrch.

Diweddarwyd ddiwethaf