
Rydym yn darparu profi a dadansoddi amgylcheddol o ansawdd uchel gan staff proffesiynol a phrofiadol sy’n gweithio i safonau uchel y diwydiant – sydd wedi’i achredu gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig, corff achredu cenedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig i ISO/IEC 17025:2005
Mae ein tîm gwasanaethau dadansoddi wedi'i lleoli yn ein labordy newydd, sef Gwasanaethau Dadansoddi Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mhrifysgol ac yn cynnig amrywiaeth eang o waith dadansoddi.
Dadansoddi dŵr
- Rydym yn cynnal profion ar amrywiaeth o ffynonellau dŵr megis llynnoedd ac afonydd er mwyn bwrw golwg ar y lefelau chwynladdwyr a phlaladdwyr sy’n mynd fewn i gyrsiau dŵr, a’r effaith andwyol y gall hyn ei gael ar yr ecosystem, gan arwain at achosion o lygredd, megis lladd pysgod
- Rydym yn profi 2,000 o samplau o dyfroedd ymdrochi yn erbyn safonau’r Comisiwn Ewropeaidd, pob haf
Dadansoddi Pridd
- Profion Pridd – cynnal profion maint Gronynnau drwy ddefnyddio dulliau hidlo traddodiadol a Diffreithiad Laser
- Hefyd mae’n bosibl gwneud dadansoddiad Carbon, Hydrogen a Nitrogen ar samplau Pridd a matricsau eraill os dymunir
Dadansoddi Biota
- Profi samplau biota megis pysgod cregyn i fesur gwenwyndra metel trwm o ganlyniad i fiogroniad ym meinwe cnawd
Dadansoddi Gwaddod
Dadansoddir metelau mewn Gwaddodion Morol i safon dosbarth blaenllaw, gan ddefnyddio lefel isaf o ddatgeliad drwy ICPMS, ICPOES a CVAF.
Dadansoddi goddefol
Rydym yn cynnig Gwasanaeth Samplu Goddefol arbenigol , sy’n cynnig dull mwy sensitif o nodweddu cyrsiau dŵr am wahanol lygryddion megis plaladdwyr, cemegau diwydiannol, metelau a rhai maetholion.
Mae samplu goddefol yn darparu gwell darluniad o’r ardal sy’n cael ei samplu, gan fod y ddyfais samplu yn cael ei adael yn y lleoliad am amser nodweddiadol o 2 i 4 wythnos yn hytrach na chipolwg ceir o sampl traddodiadol. Mae dehongli data yn allweddol gyda’r dechneg hon ac rydym yn darparu cymorth arbenigol gan ein Harbenigwyr Technegol a Gwyddonwyr cymwysedig .
Gwasanaethau dadansoddi arall
Mae gennym arbenigedd ac adnoddau yn ein labordy newydd i fedru ehangu ein gwasanaethau a datblygu agweddau mwy masnachol, drwy ymestyn ystod y gwasanaethau dadansoddol a gynigiwn. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion profi a dadansoddi.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe gan gynnig gwell sgiliau a synergeddau o’r Brifysgol a’r Gwasanaethau Dadansoddi.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych ddiddordeb mewn dadansoddiad arbennig neu ymchwil ar y cyd, cysylltwch â ni.
Drwy’r post at:
Gwasanaethau Dadansoddi CNC (NRWAS)
Llawr 2, Tŵr Faraday
Prifysgol Abertawe
Singleton
SA2 8PP