Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Mr Arwel Griffiths

Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-022313
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Cryno a system ymdreiddio
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: A4085, Bronfedw, Betws, Garmon, LL54 7YS
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SH 56951 54439
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: system ymdreiddiad i'r ddaear
Math o elifiant: Elifiant carthion triniedi
Cyfaint: 2.7 metr ciwbig y dydd

Arllwysiad arfaethedig o 2.7m³/d o elifiant carthion domestig wedi'i drin o 3 uned wyliau i system ymdreiddio.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus arlein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 29 Mawrth 2024

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais.  Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf