ORML2233 - Trwydded morol ar gyfer fferm wynt alltraeth sefydlog o'r enw Awel y Môr

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009

RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007

HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD RHEOLEIDDIOL

TRWYDDED MOROL AR GYFER FFERM WYNT ALLTRAETH SEFYDLOG O’R ENW AWEL Y MÔR

Hysbysir trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymgymryd â phenderfyniad rheoleiddiol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol) o ran y prosiect uchod.

Yn unol â Rheoliad 10 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.

Mae copi ysgrifenedig o'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru. Neu drwy e-bostio CNC i permittingconsultations@cyfoethnaturiol.cymru. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais ORML2233.

Os gofynnir am gopïau caled, efallai bydd yn rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Diweddarwyd ddiwethaf