Newid (amrywio) trwydded gyfredol ar gyfer gollwng elifion masnach neu gymysg

Os nad oes trwydded gennych eisoes i waredu elifion masnach neu gymysg, darganfyddwch sut i wneud cais am un. 

Darganfyddwch sut i drosglwyddo’ch trwydded i rywun arall

Darganfyddwch sut i ildio’ch trwydded

Mathau o newid (amrywiad) y gallwch eu gwneud i’ch trwydded

Mae yna 4 gwahanol fath o newid y gallwch eu gwneud i’ch trwydded: Gweinyddol, Mân, Arferol a Sylweddol. Caiff pob un ei ddisgrifio isod. Os ydych yn ansicr pa fath o newid yr ydych yn cynllunio i’w wneud, argymhellwn eich bod yn defnyddio’n gwasanaeth cynghori cyn-ymgeisio ar gyfer Trwyddedau Amgylcheddol.

Amrywiad gweinyddol

Ar gyfer cywiriadau neu newidiadau bach i’r drwydded, megis:

  • enw neu gyfeiriad ond lle nad yw’r endid cyfreithiol wedi newid
  • Cyfeirnod Grid Cenedlaethol i wella cywirdeb
  • gwallau teipograffyddol
  • dyddiad cychwyn trwydded
  • newid lleoliad y man gwaredu lle nad oes gofyn am asesiad technegol newydd

Mân amrywiad

Ar gyfer newidiadau sydd angen rhyw fewnbwn technegol gan CNC, er enghraifft ceisiadau i leihau cyfaint gollyngiad lle nad oes gofyn am adolygiad o sylweddau presennol nag asesiad cynefinoedd.

Amrywiad arferol

Ar gyfer newidiadau sy’n gofyn am fewnbwn technegol gan CNC, er enghraifft ceisiadau i

  • newid lleoliad man gwaredu sy’n gofyn am adolygiad o unrhyw sylwedd presennol neu asesiad cynefinoedd
  • newid cyfaint neu ansawdd (neu gynnwys) gollyngiad a heb fod angen asesiad newydd o derfynau allyriadau ar gyfer sylweddau penodol.

Amrywiad sylweddol

Lle mae gofyn am asesiad arwyddocaol, gan gynnwys newid cyfaint neu newid ansawdd gollyngiad a bod angen asesiad newydd o derfynau allyriadau ar gyfer sylweddau penodol.

Sylweddau penodol yw:

  • llygryddion peryglus ar gyfer gweithgareddau gollwng dŵr
  • sylweddau peryglus neu lygryddion nad ydynt yn beryglus ar gyfer gweithgareddau dŵr daear

Sut i wneud cais i newid eich Trwydded Amgylcheddol i ollwng elifion masnach neu gymysg

I newid Trwydded Amgylcheddol i ollwng elifion masnach neu gymysg, bydd angen i chi gwblhau ein ffurflen gais ar-lein C6

 

 

Os bydd angen cyngor arnoch cyn gwneud cais am drwydded defnyddiwch ein gwasanaeth cynghori cyn-ymgeisio  

Ffioedd a thaliadau

Bydd angen i chi dalu ffi i newid eich trwydded amgylcheddol.

Mae newidiadau gweinyddol i’ch trwydded yn costio £363

Ar gyfer pob newid arall bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio i newid y Drwydded Amgylcheddol hon sy’n gwahaniaethu yn ôl y cyfaint y byddwch yn ei ollwng a ble mae’ch elifion wedi’u trin yn cael eu gollwng.

Os byddwch yn gollwng i ddŵr wyneb (mae hyn yn golygu afonydd, ffosydd, llynoedd, pyllau, camlesi, morydau neu’r môr) y ffi ymgeisio yw:

Ar gyfer gollyngiadau o lai na 5000 litr (5 metr ciwbig) y dydd:                                                          

  • Mân amrywiad: £691
  • Amrywiad arferol: £1,893
  • Amrywiad sylweddol: £2,923

Ar gyfer gollyngiadau rhwng 5000 a 20,000 litr (5 i 20 metr ciwbig) y dydd:

  • Mân amrywiad: £1,025
  • Amrywiad arferol: £3,007
  • Amrywiad sylweddol: £4,706

Ar gyfer gollyngiadau o 20,000 litr (20 metr ciwbig) neu fwy y dydd:         

  • Mân amrywiad: £1,661
  • Amrywiad arferol: £5,126
  • Amrywiad sylweddol: £8,096

Os byddwch yn gollwng i’r ddaear (mae hyn yn golygu gwneud gollyngiad i faes draenio neu system ymdreiddio) y ffi ymgeisio yw:  

Ar gyfer gollyngiadau o lai na 5000 litr (5 metr ciwbig) y dydd:                    

  • Mân amrywiad: £662
  • Amrywiad arferol: £1,795
  • Amrywiad sylweddol: £2,767

Ar gyfer gollyngiadau rhwng 5000 a 15,000 litr (5 i 15 metr ciwbig) y dydd:            

  • Mân amrywiad: £977
  • Amrywiad arferol: £2,846
  • Amrywiad sylweddol: £4,449

Ar gyfer gollyngiadau o 15,000 litr (15 metr ciwbig) neu fwy y dydd:                                       

  • Mân amrywiad: £1,576
  • Amrywiad arferol: £4,846
  • Amrywiad sylweddol: £7,647

Ffi Asesiadau Cynefinoedd

Os yw eich gollyngiad yn agos i safle cynefin Ewropeaidd cydnabyddedig bydd angen i ni gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) fel rhan o asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn golygu ffi ychwanegol.

Ar gyfer gollyngiadau i ddŵr wyneb y ffi am asesiad cynefinoedd yw £4,951

Ar gyfer gollyngiadau i’r ddaear y ffi am asesiad cynefinoedd yw £4,671

Am ragor o wybodaeth ar pryd y gall fod gofyn am yr asesiadau hyn ewch i’n tudalen we ‘Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer eich Trwydded Amgylcheddol’

Ffi Asesiad Risg Amgylcheddol

Os yw eich gollyngiad i ddŵr wyneb yn cynnwys cemegion ac elfennau peryglus gall fod angen i ni gwblhau Asesiad Risg Amgylcheddol fel rhan o asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol o £4806.

Am ragor o wybodaeth ar y cemegion ac elfennau peryglus hyn a phryd y gall fod angen yr asesiadau hyn ewch i’n tudalen we ‘Asesiadau Risg Amgylcheddol ar gyfer gollyngiadau dŵr’

Ceisiadau â manylder annigonol i fynd ymlaen

Os byddwn yn dychwelyd eich cais oherwydd manylder annigonol ac felly methu mynd ymlaen tu hwnt i’r cam gwneud yn briodol, byddwn yn cadw 10% o’r ffi ymgeisio. Byddwn ond yn dychwelyd cais ar ôl rhoi cyfle yn gyntaf i chi ddarparu gwybodaeth sydd ar goll.

Os byddwch yn penderfynu tynnu eich cais am drwydded yn ôl

Os byddwch yn tynnu’ch cais am drwydded yn ôl ar ôl i ni ei wneud yn briodol byddwn yn cadw 100% o’r ffi ymgeisio. Os byddwch yn penderfynu tynnu’n ôl cyn i ni symud ymlaen o’r cam gwneud yn briodol, byddwn yn cadw 10% o’r ffi ymgeisio.  

Ffi flynyddol

Gall newid eich trwydded hefyd olygu newid i’ch tâl blynyddol. Dyma’r tâl am ein costau am gynnal ac adolygu eich trwydded, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded.  

Darllenwch ragor am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl am drwyddedu amgylcheddol.

Diweddarwyd ddiwethaf