Cyflwyniad i Datganiad Ardal Canolbarth Cymru
Mae’r fioamrywiaeth sy’n cael ei cholli yng Nghanolbarth Cymru yn rhywbeth y mae angen i ni ei wyrdroi ar unwaith. Mae’r thema hon yn edrych ar yr hyn yr ydym yn cynnig ei wneud i wella gwydnwch ac ansawdd ein hecosystemau. O fewn y thema hon, byddwn yn archwilio sut y dylem reoli cynefinoedd yn well er mwyn mynd i’r afael â chydbwysedd bioamrywiaeth drwy wella’r ffordd maent yn cysylltu. Drwy wneud hyn, bydd hyn yn ein helpu i ddechrau mynd i’r afael â’r argyfwng natur yng Nghanolbarth Cymru
Llun gan Peter Lewis
Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.
Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.
Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws.
Wrth weithio ar y thema hon fe wnaethom ymchwilio i’r berthynas bresennol rhwng pobl a’r byd naturiol. Roeddem yn awyddus i ddeall yn well faint yr ydym yn gwerthfawrogi’r amgylchedd naturiol a sut yr ydym yn rhyngweithio gyda’r dirwedd. Sut ydym yn gwneud penderfyniadau sy’n helpu i wneud ein hecosystemau yn fwy cadarn wrth wynebu heriau ac argyfyngau, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd?
Llun gan Rachel Jarvis
Mae’n werth esbonio’r hyn a olygwn gyda gwydnwch bioamrywiaeth ac ecosystemau yn y thema hon. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn disgrifio gwydnwch bioamrywiaeth ac ecosystemau yn ein hadroddiad Natur Hanfodol.
Ystyr bioamrywiaeth yw’r amrywiaeth bywyd ar y ddaear – planhigion, anifeiliaid, ffyngau a micro-organebau.
Mae’n cynnwys amrywiaeth genetig o fewn rhywogaeth sengl, a’r amrywiaeth sy’n bodoli ar draws pob rhywogaeth. Yn ogystal â rhywogaethau, mae bioamrywiaeth hefyd yn cynnwys yr amrywiaeth o ecosystemau lle maent yn byw, sy’n bodoli ar amrediad o raddfeydd, o ficro-gynefin pridd unigol i dirlun cyflawn.
Ecosystemau gwydn yw gallu ecosystemau i ymdopi â phwysau, aflonyddwch a newid – naill ai drwy eu gwrthsefyll, gwella oddi wrthynt neu addasu iddynt.
Mae sicrhau gwydnwch ecosystemau yn golygu gweithio ar raddfa fwy, cysylltiadau ymarferol rhwng lleoedd naturiol , sicrhau bod ganddynt amrywiaeth naturiol uchel, maent mewn cyflwr da a chynyddu eu graddau. Mae bioamrywiaeth yn elfen ategol hanfodol o bob ecosystem wydn. Mae gan bob ecosystem wydn ymarferol, fioamrywiaeth iach, nodweddiadol a chyfoethog yn aml.
Llun gan Rhys Jenkins
Mae tua 30% o dir a dyfroedd Cymru wedi’u dynodi fel safleoedd gwarchodedig sy’n cynnwys llawer o ecosystemau. Mae’r ardaloedd hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol i wella a chynnal gwydnwch ecosystemau ar hyd a lled Cymru, yn arbennig mewn ymateb i’r pwysau amrywiol a roddwn fel pobl ar ein hamgylchedd.
Mae ein hamgylchedd naturiol yn darparu amrediad eang o wasanaethau ecosystem, gan gynnwys:
Er bod dynodi safleoedd yn darparu diogelwch ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau â phwysigrwydd cenedlaethol, mae safleoedd o’r fath yn cael eu darnio a’u hynysu fwyfwy sy’n golygu eu bod yn llai gwydn wrth wynebu newid. Ni all safleoedd dynodedig gynnal eu hunain ar eu pen eu hunain. Mae’r ffordd y mae’r tirlun ehangach yn cael ei reoli, y tir fferm, crynofeydd dŵr, coedwigoedd a’r ucheldir – oll yn chwarae rôl hollbwysig yn cefnogi iechyd hirdymor safleoedd gwarchodedig. Mae angen mwy o ffocws ar ddarparu ‘ardaloedd clustogi’ neu safleoedd ‘carreg gamu’ i ddarparu cysylltiadau ar gyfer natur, a mabwysiadu ymagwedd fwy holistaidd at reoli ein tirlun cyfan. O dan y thema hon, bydd angen i bob un ohonom weithio tuag at sicrhau bod ein tirlun yn cael ei reoli’n briodol ac yn fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn cael eu diffinio fel anifeiliaid neu blanhigion estron sy’n gallu lledaenu y tu hwnt i’w hystod frodorol gan achosi difrod i’r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd neu ein ffordd o fyw. Ystyrir mai rhywogaethau estron goresgynnol yw’r bygythiad mwyaf i’n rhywogaethau a chynefinoedd brodorol ac amcangyfrifir eu bod yn costio £128 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn.
Ymhlith y rhywogaethau estron goresgynnol sydd wedi lledaenu’n helaeth yng Nghanolbarth Cymru mae clymog Japan a Jac y Neidiwr ac maent yn broblem benodol ar hyd Afon Gwy a rhan uchaf dalgylch Afon Gwy, afonydd Wysg, Rheidiol a Theifi. Bu ymgais i reoli clymog Japan yng Nghwm Rheidol, ond yn absenoldeb proses reoli barhaus, mae’r clymog yn dychwelyd yn raddol. Mae rhododendron yn broblem hefyd yng Nghanolbarth Cymru, yn arbennig yn ardal isaf Afon Dyfi ond mae’n achosi effeithiau lleol mewn mannau eraill. Mae’n effeithio ar goetiroedd a safleoedd gwarchodedig.
Y prif feysydd dan sylw yn y thema hon yw:
Drwy roi ffocws penodol i’r thema hon, nid yw’n eithrio unrhyw faterion sy’n datblygu a ffyrdd newydd o fynd i’r afael â materion a allai godi. Yn syml, mae’n ffordd dda o ddechrau gyda set o flaenoriaethau y gellir pennu rhaglenni gwaith a phrosiectau allanol yn eu herbyn a dechrau cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid a phartneriaid.
Llun gan Dafydd Parry
Mae gwneud unrhyw newidiadau cadarnhaol parhaus i’n hamgylchedd yn cymryd amser. Nid oes unrhyw atebion cyflym dros nos. Mae Datganiad Ardal Canolbarth Cymru yn darparu cyfleoedd gwell i ni flaenoriaethau’r ffordd y gallwn gydweithio fel cymdeithas i newid ymddygiad ac agweddau at ein hamgylchedd naturiol.
Drwy ein digwyddiadau ymgysylltu, fe wnaethom ddysgu bod dealltwriaeth fanwl yn bodoli, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o beth mae bioamrywiaeth yn ei olygu a sut y gallwn greu ecosystemau gwydn i gefnogi rhywogaethau, cynefinoedd a phoblogaethau dynol.
Mae cyfleoedd yn parhau i drafod ymhellach sut y gallwn ddechrau ffurfio’r newidiadau hyn, ond os bydd y canlyniadau cywir yn cael eu cyflawni o dan y thema hon, gallwn obeithio gweld:
Yn ogystal â’r uchelgeisiau hyn, bydd y Datganiad Ardal yn sicrhau bod ein gweithredoedd yn gweithio ar draws pob sector - cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, mewn ffyrdd newydd a chydweithredol. Drwy wneud hyn byddwn yn rhoi’r cyfle gorau i economi Canolbarth Cymru ffynnu, a chyflawni anghenion yr amgylchedd naturiol yr un pryd.
Yn seiliedig ar ystod o wybodaeth, gan gynnwys Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), sy’n ffurfio rhan o sylfaen dystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a Blaenoriaethau Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru, fe wnaethom gymryd gwybodaeth hefyd o Gynlluniau Lles Powys a Cheredigion a’r Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus i ganfod beth yw eu blaenoriaethau a chael eu gwybodaeth leol arbenigol.
Fe wnaethom gymryd hanfodion sylfaenol yr hyn yr oeddem ni’n credu yw’r blaenoriaethau tebygol ar gyfer Canolbarth Cymru a gadael i’n rhanddeiliaid ddweud wrthym a oeddem wedi llwyddo, yn ystod gweithdai ymgysylltu gyda rhanddeiliaid allanol a gynhaliwyd yn 2019/20. Dim ond dechrau'r gwaith ymgysylltu yw’r gweithdai hyn a byddwn yn parhau i drafod. Yn yr un modd, bydd ymgysylltiad parhaus yn hollbwysig i ni wrth i’r Datganiad Ardal hwn aeddfedu a datblygu.
Bu cyfanswm o fwy na 125 o gyfranogwyr yn cymryd rhan yn y ddau weithdy, o amrywiaeth eang o gefndiroedd a diddordebau.
Mae’n glir iawn o’r ymgysylltiad hyd yma a’r adolygiad o’r adborth bod y broses Datganiad Ardal yn newydd i bawb sy’n berthnasol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, ac felly bydd angen addasu’r ffordd o weithio i bawb. Mae’r ‘ffordd newydd o weithio’ yn cynrychioli newid arwyddocaol o’r ffordd mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio yn y gorffennol, yn fewnol a gyda’n rhanddeiliaid, ym mhopeth a wnawn.
Y bwriad yw ymgysylltu ymhellach er mwyn helpu rhanddeiliaid i ddeall pam eu bod wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan a beth fydd yn ei olygu iddynt hwy a’r ardal y maent yn byw ac yn gweithio ynddi.
Fe ysgogodd y digwyddiadau ymgysylltu drafodaethau ar y math o brosiectau a meysydd o ddiddordeb y mae ein rhanddeiliaid yn awyddus i weithio arnynt. Rydym yn awyddus i annog a datblygu cyfleoedd i gydweithio. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cymell ac yn galluogi rhanddeiliaid gwahanol i gydweithio i gyflawni canlyniadau a rennir. Ein rôl nesaf fydd cydlynu syniadau wrth symud ymlaen. Rydym yn bwriadu ymgysylltu ymhellach er mwyn helpu rhanddeiliaid i ddeall pam y maent wedi’u gwahodd i gymryd rhan a beth fydd hyn yn ei golygu iddynt hwy a’r ardal maent yn byw a gweithio ynddi. Rydym yn gobeithio datblygu nifer o syniadau yn gynlluniau prosiect y gellir eu cyflawni ar gyfer yr ardal hon.
Rydym yn cynllunio nifer o gyfarfodydd ‘grwpiau cyfoedion’ ar gyfer y gwanwyn yn 2020 gyda phobl allweddol yng Nghanolbarth Cymru. Rydym yn awyddus i annog y rhai sydd wedi cymryd rhan yn ein gweithdai ymgysylltu blaenorol i rannu eu barn ar thema ardal benodol. Bydd hyn yn ein helpu i drafod gyda hwy sut y gallwn ddechrau cynllunio i gyflawni gyda’n gilydd yr hyn yr ydym wedi datgan ein bod eisiau ei gyflawni yn ein Datganiad Ardal.
Nid yw’n rhy hwyr i gymryd rhan os oes gennych brosiect neu syniad da ar gyfer prosiect! Rydym yn disgwyl y bydd cyfleoedd pellach yn dod i’r amlwg wrth i’r broses ymgysylltu barhau.
Mae’n bwysig pwysleisio bod y Datganiad Ardal yn perthyn i bob un ohonom – pawb sydd eisiau cymryd rhan – ac rydym yn awyddus i annog cymaint o bobl â phosibl i ymuno â ni.
Rydym yn ystyried mai rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw helpu i hwyluso a sefydlu grwpiau cyfoedion ar y cam hwn, er mwyn annog a galluogi gwahanol randdeiliaid i ddod at ei gilydd a nodi blaenoriaethau ar gyfer y themâu ardal, y gallant ddatblygu camau gweithredu i’w cyflawni.
Bydd cyfleodd i dderbyn cymorth ariannol drwy system cyllid grant newydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae llawer o gyfranogwyr o'r gwaith ymgysylltu hyd yma wedi sefydlu perthnasoedd gwaith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a gyda’i gilydd. Mae’r broses ymgysylltu yn darparu cyfleoedd pellach i ddatblygu perthnasoedd sefydledig a chreu rhai newydd.
Mae angen dathlu arfer da a dysgu ohono. Gellir gweld hyn eisoes ar draws Canolbarth Cymru yn y gwaith sy’n cael ei arwain gan randdeiliaid. Er mwyn adeiladu ar hyn, mae’r Datganiad Ardal yn gofyn i ni rannu gwybodaeth a dealltwriaeth, a dylunio ffyrdd arloesol i fynd i’r afael â heriau.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi dechrau nodi rhwydweithiau lle gall prosiectau sy’n dilyn llwybrau tebyg uno a chydweithio. Mae bwriad yng Nghanolbarth Cymru i ddod â rhanddeiliaid ynghyd, nad ydynt o bosibl wedi gweithio ochr yn ochr â’i gilydd yn draddodiadol, ond a allai, gyda’i gilydd, gyflawni canlyniadau â buddiannau lluosog.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio drwy 2020 gyda rhanddeiliaid i ddatblygu’r rhwydweithiau hyn a’u sefydlu fel ffordd newydd o weithio yng Nghanolbarth Cymru.
Bydd sgyrsiau yn parhau wrth i gamau nesaf y broses Datganiad Ardal gael eu sefydlu. Bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal a’u teilwra ar gyfer themâu a gweithredoedd penodol. Byddwn hefyd yn ceisio gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu grŵp o bobl o’r un anian er mwyn helpu i gyflawni’r thema hon. Bydd y grŵp hwn yn helpu ac yn cefnogi ei gilydd drwy sefydlu Datganiad Ardal yng Nghanolbarth Cymru fel ffordd newydd o weithio. Byddant yn nodi gwelliannau ac yn creu syniadau prosiect newydd wrth symud ymlaen.
Rydym eisoes wedi nodi cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwella’r thema bioamrywiaeth, gan gynnwys:
Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR), a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio tystiolaeth i asesu adnoddau naturiol Cymru ac mae’n mesur pa mor llwyddiannus mae’r rhain yn cael eu rheoli. Mae Datganiadau Ardal yn rhan allweddol o’r dull rheoli hwn.
Bydd y Datganiad Ardal hwn yn ein galluogi i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth a rennir. Yna gellir cau’r bylchau yn y dystiolaeth honno drwy gydweithio, gan ddefnyddio data sydd ar gael i ddatblygu amcanion pob thema.
Egwyddorion sylfaenol yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, yn eu hanfod, yw elfennau hanfodol y broses Datganiad Ardal. Drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, rydym wedi gallu gweithio gyda’n gilydd i nodi’r themâu ardal ar gyfer Canolbarth Cymru. Mae’r sgyrsiau a’r trafodaethau wedi ein helpu i ddeall yn well y materion a’r pwysau mae gwahanol randdeiliaid, sectorau a chymunedau yn eu hwynebu. Rydym yn gobeithio y bydd y dull gweithredu hwn yn cynrychioli ffordd newydd o weithio i Cyfoeth Naturiol Cymru, gan symud oddi wrth ymgynghoriad a thuag at gydweithrediad ar lawr gwlad, hyd yn oed os bydd hyn yn daith anghyfarwydd i lawer, wrth i ni ddechrau gyda Datganiad Ardal Canolbarth Cymru.
Gallwch ymuno â ni ar Facebook! Mae’r grŵp Facebook hwn yn un ffordd i chi gael y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf am Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru. Gall unrhyw un ymuno â’r drafodaeth ar-lein. Mae’r grŵp wedi’i sefydlu i fod yn grŵp preifat ar hyn o bryd, ond rydym yn eich annog i son amdano ymhlith eich cydweithwyr a’ch cysylltiadau a allai fod yn awyddus i gymryd rhan. Gofynnir tri chwestiwn syml i chi i ymuno â’r grŵp er mwyn ein bod yn sicrhau bod yr aelodau a’r cynnwys yn berthnasol i Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru.
Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau pellach ac yn datblygu grwpiau a sgyrsiau penodol am bob un o Themâu Ardal Canolbarth Cymru. Os ydych eisoes ar ein rhestr bostio, byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â’r rhain. Os hoffech gael eich ychwanegu i’r rhestr, anfonwch e-bost i mid.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dim ond dechrau ar y daith ydym ni wrth i ni weithio gyda phobl i wella’r dulliau o reoli adnoddau naturiol Canolbarth Cymru. Os hoffech fod yn rhan o’r broses hon, cysylltwch â ni.
Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.
Cynefinoedd eang – Canolbarth Cymru (PDF)
Mae’n dangos ardaloedd o’r hyn a ganlyn:
Ardaloedd gwarchodedig – Canolbarth Cymru (PDF)
Map yn dangos ardaloedd o Ddynodiadau Statudol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru: