Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Datganiad Ardal Gogledd Orllewin Cymru

Cwch ar lyn

Adnoddau naturiol Cymru sydd yn darparu llawer o’n hanghenion sylfaenol- aer i’w anadlu, dŵr i’w yfed, a bwyd i’w fwyta.

Maent yn cynnig egni, ffyniant, a diogelwch.

Maent yn ein hamddiffyn, yn gwella ein hiechyd yn ogystal â safon ein bywydau.

Rhaid i ni reoli a defnyddio ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gydlynol os ydym am i bobl fuddio ohonynt.

Mae Deddf Amgylchedd Cymru yn cynnig cyfle i ni wneud hynny trwy gydweithio ag eraill i greu Datganiad Ardal ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru.

Byddent yn amlinellu;

  • Yr adnoddau naturiol sydd ym mhob ardal a’r buddion y maent yn eu cynnig

  • Yr heriau a’r cyfleoedd allweddol sydd i’w cael ar lefel leol

  • Sylfaen o dystiolaeth gyffredin sy’n cynnwys gwybodaeth, data a thystiolaeth

Byddent yn gymorth i ni ddeall cyflwr a thueddiadau adnoddau naturiol yr ardal, y pwysau sydd arnynt, yn ogystal â’r buddion y maent yn eu cynnig.

Bydd Datganiadau Ardal yn cynnig y wybodaeth y mae pobl ei angen i reoli eu hadnoddau naturiol yn fwy effeithlon.

Proffil Ardal

Mae’r ardal hon yn cynnwys:

  • Ardaloedd eang o arfordir ac ucheldir, sef prif nodweddion yr ardal, ynghyd ag iseldir, pentrefi, a threfi

  • Mae nifer o fynyddoedd yr ucheldir yn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri, gyda rhagor o rostir uchel ymhellach i’r dwyrain yng Nghonwy

  • Ardaloedd arfordirol megis Penrhyn Llŷn, sydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac Ynys Môn, sydd â chyfran fawr o’i harfordir o fewn AHNE Môn

  • Mae iseldir cefn gwlad Arfon, Dwyfor, a Chonwy yn cyferbynnu â’r ardaloedd datblygedig a’r priffyrdd sy’n dilyn arfordir y Gogledd

Gweler map ffiniau ein datganiad ardal.

Ein sefyllfa bresennol

Rydym yn cydgasglu’r dystiolaeth sydd gennym sy’n ymwneud â’n hadnoddau naturiol.

Rydym wedi dechrau cydweithio gydag arbenigwyr i drafod ein hadnoddau naturiol, yr ardaloedd gwahanol a’u rhinweddau, y dulliau o’u gwarchod, a’r rhesymau dros ddefnyddio’r dulliau hynny.

Ein hamcanion

Trwy gydweithio ag eraill gallwn adnabod y buddion (gwasanaethau ecosystem) a gynigir gan ein hadnoddau naturiol.

Byddwn yn gweithio ag eraill er mwyn deall sut y gall Datganiadau Ardal unigol gyfrannu at gyflawniad y Blaenoriaethau Cenedlaethol allweddol, gan ymateb i heriau a manteisio ar y cyfleoedd i wella’r rheolaeth o adnoddau naturiol Cymru. Bydd hyn yn cynnwys adnabod yr hyn y gallwn ni oll ei wneud i gyfrannu at y broses (gan gynnwys canfod dulliau newydd o gydweithio).

Un o’r heriau allweddol yw sut y gallwn ni gasglu, dadansoddi, a rhannu’r wybodaeth yma gyda phartneriaid ar ffurf sy’n ddefnyddiol iddynt. Rydym yn arbrofi gyda dulliau gwahanol (digidol, adroddiadau, gweithdai, ayyb.) a bydd partneriaid yn ein helpu gyda hyn.

Sut i gyfrannu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’u partneriaid angen pobl o bob sector, sefydliad, a chymuned i gyfrannu at ddatblygiad Datganiadau Ardal.

Trwy gydol y broses, byddwn yn croesawu unrhyw fenter gan bartneriaid i lunio a gwella ymwybyddiaeth o Ddatganiadau Ardal gan ddefnyddio eu rhwydweithiau.

Pe hoffech gyfrannu, cysylltwch ag un o arweinwyr Datganiad Ardal neu gwblhau’r arolwg ar-lein 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.