Adroddiad blynyddol cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 2020 - 2021

Crynodeb gweithredol

Croeso i grynodeb Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2020 i 2021. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut yr ydym wedi gweithredu'n polisïau a datblygu'n Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020–2024 trwy weithio ar y cyd ag 11 sefydliad cyhoeddus arall yn ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau''r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r gwaith yr ydym wedi'i wneud dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae rhai o uchafbwyntiau'r flwyddyn yn cynnwys y canlynol:

  • Cyhoeddi a lansio'n Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020–2024
  • Ein partneriaeth â Phartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru
  • Prosiect Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2021
  • Sicrhau bod ein gwefan a'n mewnrwyd yn hygyrch
  • Dod yn aelodau o'r rhwydwaith cenedlaethol Cyflogwyr i Ofalwyr
  • Datblygu'n rhwydwaith niwroamrywiaeth newydd
  • Dathlu dyddiau amrywiaeth drwy gydol y flwyddyn a chodi ymwybyddiaeth ohonynt
  • Cymryd rhan yn y digwyddiad Pride ar-lein
  • Adnewyddu ein hachrediad Hyderus o ran Anabledd

Fel sefydliad, rydym yn gweithio ar draws Cymru gyfan, gan weithio gyda sefydliadau eraill, aelodau o'r cyhoedd, cymunedau a phartneriaid yn ddyddiol. Rydym am sicrhau y gall pawb ddweud eu dweud yn y gwaith yr ydym yn ei wneud a bod eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi, a sicrhau y caiff eu barn ei hadlewyrchu yn y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud.

Mae gennym Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy’n cynnwys cynrychiolwyr staff o bob rhan o'r sefydliad. Caiff y fforwm ei gadeirio gan Gyfarwyddwr Gweithredol ein Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Corfforaethol. Mae'r fforwm yn cynnwys un o aelodau'n Bwrdd, aelod o'r Tîm Gweithredol sy'n Hyrwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a chynrychiolwyr o'r undebau llafur.

Mae gennym saith rhwydwaith staff yn eu lle, sy'n cwrdd yn rheolaidd, gan ddarparu cymorth i staff a dilyn dull rhagweithiol o hyrwyddo'u rhwydwaith. Mae COVID-19 wedi bod yn brawf i'r mwyafrif o bobl, ac mae ein rhwydweithiau wedi darparu cymorth hanfodol i'w haelodau, gan sicrhau bod rhywun ar gael i siarad â nhw ac i'w cefnogi trwy adeg anodd.

Dros y flwyddyn nesaf, er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio gyda chynulleidfa fwy amrywiol, byddwn yn datblygu ein gwaith yn y maes hwn trwy ein Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021. Fel rhan o'r prosiect, byddwn yn tanategu'r Amcanion Cydraddoldeb Strategol a llunio cynllun gweithredu ar gyfer 2021–2024. Darllenwch ein Amcanion Cydraddoldeb Strategol a rennir. Diben y Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant fydd ymgysylltu â'n staff, ein rhanddeiliaid, a'n cwsmeriaid, gan sicrhau ein bod yn cyrraedd calon pob cymuned yng Nghymru, gan helpu pobl ddeall pwy ydym, yr hyn yr ydym yn ei wneud, a sut y gallant gyfrannu i'n gwaith.

Cefndir

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ystyried yr effaith y mae ein gwaith, ein polisïau a'n gwasanaethau yn eu cael ar bobl eraill, ac mae hyn yn cynnwys ein gweithlu ni ein hunain. I grynhoi, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i'r angen i wneud y canlynol:

  • Cael gwared ar gamwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon, ynghyd â mathau eraill o ymddygiad a waherddir gan y Ddeddf.
  • Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r bobl hynny nad ydynt yn eu rhannu.
  • Meithrin cydberthnasau da rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r bobl hynny nad ydynt yn eu rhannu.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn anghyfreithlon camwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â “nodwedd warchodedig”. Mae'r nodweddion gwarchodedig fel a ganlyn:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Rydym hefyd yn ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru fel yr amlinellir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, sy'n pennu y bydd cyrff a restrir yn ymgymryd â'r canlynol:

  • Adroddiadau monitro blynyddol
  • Cynlluniau cydraddoldeb strategol
  • Gosod amcanion
  • Casglu a dadansoddi gwybodaeth am gydraddoldeb
  • Casglu gwybodaeth am gydraddoldeb ymhlith defnyddwyr y gwasanaeth
  • Gwybodaeth am gydraddoldeb yn y gweithlu a gwahaniaethau mewn tâl ymhlith y gweithlu
  • Ymgynghori ac ymgysylltu
  • Asesu effaith
  • Hyfforddiant staff
  • Caffael
  • Hygyrchedd

Nid yw'r Ddeddf Cydraddoldeb yn cynnwys unrhyw ddyletswyddau o safbwynt hybu a defnyddio'r Gymraeg, ac, yn hytrach, mae'r dyletswyddau hyn wedi'u hamlinellu ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae ein Safonau'r Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol bod yr iaith yn cael ei hystyried ymhob un o'n prosesau gwneud penderfyniadau, a'i bod yn cael ei chynnwys fel ystyriaeth yn ein Hasesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, gan sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal.

Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2020–2024

Cafodd ein hamcanion strategol lefel uchel newydd eu datblygu drwy gydweithio ag 11 o sefydliadau cyhoeddus eraill fel rhan o Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru. Gwnaethom gydweithio i ddatblygu amcanion cydraddoldeb lefel uchel a rennir yn unol ag argymhellion gan y Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Llywodraeth Cymru.

Mae gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu'n Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020–2024 yn ysbryd y pum dull o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd yr wyth amcan strategol a rennir yn helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau ledled Cymru a nodwyd yn yr adroddiad “A yw Cymru'n Decach?” (2018) gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Cymeradwywyd yr amcanion gan Fwrdd CNC ym mis Medi 2020, a chawsant eu cyhoeddi ar ein gwefan yn unol â’r hyn sy’n ofynnol gennym yn ôl Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Cafodd y digwyddiad a gynlluniwyd ar gyfer lansio'r amcanion yn gyhoeddus ei ganslo yn sgil COVID-19. Lansiwyd yr amcanion gan Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog, ar 1 Mawrth 2021 yn ystod digwyddiad ar-lein. Gwnaethom ategu'r lansiad hwn trwy gyflwyno digwyddiad hyrwyddo wedi'i alinio ag ef ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys cyhoeddi gwerth wythnos o erthyglau ar draws ein mewnrwyd. Bu cysylltiad rhwng y lansiad hwn hefyd â digwyddiadau lle cynigiwyd cyfle i staff a'n cymunedau ymgysylltu ag CNC ynghylch Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021.

Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru

Yn ogystal â datblygu'n Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar lefel uchel ar y cyd â'r 11 sefydliad arall, mae cynlluniau ar waith i gydweithio'n fwy ar brosiectau eraill yn y dyfodol, gan rannu arfer da, syniadau a ffyrdd o weithio er mwyn ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach yn ein harferion gwaith. Bydd y grwpiau gorchwyl a gorffen yn ymdrin â'r meysydd canlynol, y mae'r bartneriaeth wedi cytuno arnynt ar gyfer 2021–22:

  • Adnoddau dynol – amrywiaeth a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau
  • Caffael
  • Grŵp data
  • Mewnwelediad

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol 2020–2024

Mae'r Bwrdd am hybu ein gwaith ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach ac yn sylweddol, wedi i'n sefydliad lansio'i werthoedd yn ddiweddar; rydym am fynd y tu hwnt i'r dull a dderbynnir yn gyffredinol mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Darllenwch ddiweddariadau rhwydwaith CNC ar gyfer ein Gwerthoedd. Rydym yn cydnabod y bydd sefydliad sy'n wirioneddol amrywiol yn fwy arloesol, cynhyrchiol a llwyddiannus ar gyfer gweithwyr ac ar gyfer pobl Cymru. Bydd y gwaith hwn yn cefnogi'n nodau eraill, e.e. ein nodau ac amcanion mewn perthynas â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, trwy ddefnyddio ffurfiau amrywiol i gyfathrebu'n agored â holl aelodau'r cyhoedd yn y dyfodol.

Yn gweithio ar draws Cymru gyfan, rydym yn ymgynghori â'r cyhoedd yn rheolaidd, ond rydym yn awyddus i ymgysylltu â chynulleidfa ehangach a mwy amrywiol, ac rydym am ddod o hyd i ffyrdd o ymgysylltu'n weithredol â grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, trwy eu gwahodd i ddweud eu dweud mewn perthynas â'n gwaith.

Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein nodau, a dod o hyd i ffyrdd gwell o ymgysylltu â chynulleidfa amrywiol sy'n cynrychioli cyfansoddiad Cymru, dros y chwe mis nesaf byddwn yn cyflwyno'n Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021 gyda chymorth gan ddarparwr allanol. Bydd y prosiect yn helpu'r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer ymgorffori a sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd y sefydliad, gan olygu y daw cynhwysiant i fod yn nodwedd annatod o'n dull arferol o weithio. Bydd y canlyniadau'n ein helpu i ddeall ac ymgysylltu â'n cymunedau sy'n fwy amrywiol, a'n huchelgais yw denu gweithlu sy'n gynrychiadol o'r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu yma yng Nghymru.

Mae amcanion y prosiect fel a ganlyn:

 Cyfleu ein gweledigaeth, ein hegwyddorion a'n cynllun gweithredu o safbwynt cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn ffordd ystyrlon

  • Datblygu cynllun strategol ar gyfer mis Ebrill 2021 tan fis Mawrth 2024 sy'n ymgorffori ffyrdd amrywiol a chynhwysol o weithio
  • Datblygu strategaeth ymgysylltu i gefnogi'r cynllun gweithredu tair blynedd
  • Creu sefydliad sydd â natur gynhwysol ac amrywiol wrth reddf
  • Llunio cynllun ymgysylltu a gweithredu y mae’n rhaid iddo sicrhau bod yr agweddau mewnol ac allanol yn cael eu ‘datblygu’ ar y cyd, mewn ffordd gydlynol, er mwyn cefnogi gwaith cyflenwi'r gwasanaeth, cwsmeriaid, cynrychiolaeth fewnol o safbwynt y gymuned, a'r sylfaen gwsmeriaid

Caiff y prosiect hwn ei gwblhau, a bydd amcanion a chynllun gweithredu wedi'u llunio, erbyn diwedd mis Mehefin 2021, a bydd yn helpu i nodi amcanion a chynllun gweithredu ar gyfer cynyddu'n gweithgareddau mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn fewnol ac yn allanol, a hynny'n sylweddol.

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb 2020–2022

Cafodd y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ei ddatblygu i gefnogi'n Hamcanion Cydraddoldeb Strategol er mwyn helpu i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chydraddoldeb o fewn i fwy o'n gwaith ac o fewn i'n hymrwymiad i gydraddoldeb. Gan ystyried y cyfyngiadau COVID-19, a lansiad y Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, rydym am gymryd y cam nesaf a datblygu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb gydag ymgysylltiad gan ein staff, ein cwsmeriaid a'n cymunedau. Felly mae ein cynllun gweithredu gwreiddiol wedi'i integreiddio yn y cynllun gweithredu ar gyfer 2021–22, ac rydym yn canolbwyntio ar ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021. Caiff y cynllun gweithredu ei gyhoeddi ym mis Medi 2021, a bydd yn helpu i gyflawni'n Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020–2024, ynghyd ag amcanion y bobl yr ymgynghorwyd â nhw.

Polisïau

Mae pob un o'n polisïau'n cael ei adolygu'n rheolaidd, ac mae hyn hefyd yn rhan o'n gwaith o gyflwyno'n Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, ar y cyd â Stonewall, er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio geiriau ac ymadroddion priodol yn ein polisïau, gweithdrefnau ac arweiniad.

Hygyrchedd y wefan

Fel sefydliad y sector cyhoeddus, bu'n ofynnol i ni gyflawni gofynion Rheoliadau Hygyrchedd Gwefannau 2018 erbyn mis Medi 2020. Caiff ein cydymffurfiaeth â'r rheoliadau ei monitro gan Wasanaeth Digidol Llywodraeth y DU, a chaiff unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio eu cyhoeddi, ynghyd â'n henw a chopi o'i benderfyniad.

Cynhaliodd y Tîm Cyfathrebu Digidol archwiliad o'r rhan fwyaf o'r wefan, ac mae cwmni allanol wedi darparu adroddiad ar faterion sy'n ymwneud â hygyrchedd y gwnaeth eu darganfod ar ein gwefan. Caiff gwelliannau pellach eu cyflwyno dros y 12 mis nesaf er mwyn gwneud ein gwefan yn fwy hygyrch.

Mae arweiniad ar gael ar gyfer cyhoeddi cynnwys ar ein gwefan trwy dempledi a ffurflenni, a hynny ar ffurf hygyrch. Mae Word 2010 yn cynnwys offeryn gwirio hygyrchedd sy'n amlygu gwybodaeth nad yw'n hygyrch, ac sy’n cynnig awgrymiadau a syniadau ar gyfer gwneud y gwaith yn fwy hygyrch.

Fel sefydliad, rydym yn dymuno bod cynifer o bobl yn gallu cael mynediad i'n gwefan â phosibl, ac mae'r gwaith hwn yn golygu gwella defnyddioldeb y wefan i bob un o'n cwsmeriaid, gan gynnwys pobl ag anghenion ychwanegol o ganlyniad i ddallineb a nam ar y golwg, byddardod a cholled clyw, anableddau dysgu neu gyfyngiadau gwybyddol, symudiad cyfyngedig, anableddau llefaredd neu sensitifrwydd i olau.

Y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r fforwm hwn yn dod â staff ynghyd o bob rhan o CNC, gyda chefnogaeth y Bwrdd, y Tîm Gweithredol a'r Tîm Arwain, y cyfarwyddiaethau, y rhwydweithiau staff, a'r undebau llafur. Mae'r grŵp fforwm yn cwrdd bob chwarter, a chynhelir cyfarfodydd ychwanegol yn ôl y gofyn ar gyfer cyflawni tasgau.

Mae aelodau'r fforwm yn cynnwys y canlynol:

  • Cadeirydd (Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol)
  • Aelod o Fwrdd CNC
  • Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Tîm Gweithredol
  • Un cynrychiolydd o bob cyfarwyddiaeth
  • Un cynrychiolydd ar ran yr undebau llafur i gyd
  • Un cynrychiolydd o bob rhwydwaith staff

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r fforwm wedi croesawu aelodau newydd o bob rhan o'r sefydliad, a bu aelodau'r fforwm yn cydweithio ar brosiectau'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae grŵp o aelodau'r fforwm ynghlwm wrth y gwaith o adolygu'r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a rhoi adborth o safbwynt eu meysydd nhw o'r busnes.

Mae nodau'r Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cynnwys y canlynol:

  • Hyrwyddo diwylliant cadarnhaol mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Dathlu a hyrwyddo llwyddiannau amrediad eang o staff, yn fewnol ac yn allanol, gan hyrwyddo CNC fel un o'r cyflogwyr gorau
  • Gweithredu fel fforwm ymgynghori yn y gwaith o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau newydd, a'r rheiny sydd eisoes yn bodoli
  • Hybu a datblygu amgylchedd sy'n seiliedig ar ymddiried lle gall staff ddatgelu gwybodaeth yn gyfrinachol
  • Dod o hyd i ffyrdd o ymgysylltu'n well â'n cwsmeriaid a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu
  • Darparu cyfleoedd rhwydweithio er mwyn hybu datblygiad personol a phroffesiynol

Rhwydweithiau staff

Mae'r rhwydweithiau'n cael eu cynnal gan staff ar gyfer staff, ac maent yn dod â phobl o bob rhan o'r gweithle ynghyd sy’n uniaethu ag eraill o gefndir neu grŵp tebyg. 

Mae rhwydweithiau staff yn cyflawni swyddogaethau amrywiol, gan gynnwys darparu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio yn gymdeithasol, cefnogaeth gan gymheiriaid a datblygiad personol. Gall rhwydweithiau staff hefyd gyfrannu at y gwaith o ddatblygu ein polisïau a'n harferion gweithio.

Rydym yn cydnabod gwerth grwpiau sy'n trefnu eu hunain mewn creu amgylchedd sy'n parchu amrywiaeth ymhlith staff ac sy'n eu galluogi i ddwyn y budd a mwynhad gorau posibl o gymryd rhan yn y gweithle.

Anelwn at gefnogi'r rhwydweithiau hyn drwy wneud y canlynol:

  • Annog rheolwyr i ryddhau gweithwyr er mwyn iddynt allu cymryd rhan ynddynt
  • Hyrwyddo'r rhwydweithiau i weithwyr newydd ac i'r bobl sydd eisoes yn gweithio i'r sefydliad
  • Gwrando, mewn ffordd gadarnhaol, i unrhyw bryderon gan weithwyr a godir trwy'r rhwydweithiau staff
  • Cymryd rhan mewn mentrau a ddatblygir gan y rhwydwaith staff

Mae gennym saith rhwydwaith staff ar hyn o bryd, fel a ganlyn:

  • Grwpiau defnyddwyr a gynorthwyir (TGCh a Theleffoni)
  • Calon ar gyfer gweithwyr LHDT+
  • Y Gymdeithas Gristnogol
  • Cwtsh (rhwydwaith ar gyfer gofalwyr)
  • Cyfeillion Dementia
  • Rhwydwaith Staff Mwslimaidd
  • Niwroamrywiaeth

Mae un aelod o bob rhwydwaith yn mynychu cyfarfodydd y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac yn darparu diweddariad a chynnig golwg i'r dyfodol ynghylch yr hyn y mae'r rhwydwaith ynghlwm wrtho.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn datblygu dull mwy cydlynol o ran y ffordd y mae rhwydweithiau staff CNC yn cael eu cynnal a'u cefnogi, e.e. trwy ddilyn calendr ar gyfer hyrwyddo digwyddiadau a sianeli ar Microsoft Teams er mwyn hwyluso cydweithio a datblygu ffordd fwy strwythuredig o weithio ar y cyd.

Gan ddechrau o fis Ionawr 2021 ymlaen, mae pob un o'n rhwydweithiau'n derbyn gwahoddiad i roi cyflwyniad yn ystod y cwrs sefydlu ar gyfer aelodau newydd o staff. Mae hwn yn gam pwysig wrth sicrhau bod staff newydd yn ymwybodol o ba rwydweithiau sydd yma, a pha gefnogaeth sydd ar gael iddynt, a hynny'n gynnar yn eu gyrfa â ni. Bydd hyn yn helpu i hybu amrywiaeth yn y sefydliad a helpu staff newydd i feithrin ymdeimlad o berthyn yn y sefydliad.

Ceir gwybodaeth am bob un o'n rhwydweithiau, a'u dibenion, yn diweddariadau rhwydweithiau CNC.

Cymorth CNC a diwrnodau codi ymwybyddiaeth

Cymerodd y rhwydweithiau staff ran weithredol mewn codi ymwybyddiaeth ynghylch nifer o'r gweithgareddau a restrir isod.

Yn ystod y pandemig COVID-19 yn 2020, gwnaethom brofi nifer o newidiadau yn ein dulliau arferol o weithio ac o godi ymwybyddiaeth. Gwnaethom ddeall yr hyn a oedd yn cael effaith ar staff ac argaeledd yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, gwnaethom barhau i godi ymwybyddiaeth yn chwarterol yn lle’n fisol. Ein nod, yn ystod 2021, fydd cynyddu’r lefel cyfranogiad yn raddol a threfnu digwyddiadau yn unol â llesiant ein staff.

Chwarter 2

  • Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia - 17 Mai
  • Diwrnod Gweledigrwydd Pobl Panrywiol - 25 Mai
  • Wythnos Gofalwyr, gyda sgyrsiau a sesiynau ‘paned i ofalwyr’ cefnogol - 8 i 14 Mehefin
  • Taith rithwir o gwmpas mosg - 19-21 Mehefin 2020 

Chwarter 3

  • Wedi noddi a chymryd rhan yn nigwyddiad Wythnos Ar-lein Fawr Pride Cymru - Awst 2020

Chwarter 4

  • Diwrnod Coffáu Trawsryweddol - 20 Tachwedd
  • Diwrnod Hawliau Gofalwyr Cenedlaethol, a gwnaethom ymuno â’r rhwydwaith cenedlaethol Cyflogwyr i Ofalwyr ar yr un diwrnod - 26 Tachwedd 2020
  • Diwrnod y Corachod, gan godi ymwybyddiaeth o ddementia trwy gynnal bore coffi a sesiwn codi ymwybyddiaeth o gynllun Cyfeillion Dementia, ynghyd â chodi arian - Rhagfyr 2020

2020

  • Diwrnod Canser y Byd, Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, a Diwrnod Dim Smygu

Adolygu'r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae'r adolygiad yr ydym yn ei gynnal o'r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn sicrhau bod gennym asesiad mwy cadarn yn ei le sy'n amlinellu'r hyn sy’n ofynnol gennym yn ôl Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn glir, ac sy'n ein helpu i'w gyflawni. Gyda gweithrediad y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010, roedd yn amserol ein bod yn adolygu'n Hasesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb fel ei fod yn cynnwys y ddyletswydd hon. Nid ydym yn gorff cyhoeddus a enwir, y mae'n ofynnol iddo weithredu Adrannau 1 i 3 o'r ddyletswydd er mwyn lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol, ond, yn wirfoddol, rydym yn cynnal asesiadau o'r effaith er mwyn llywio penderfyniadau ac i gyflwyno tystiolaeth o gyflawni'r ddyletswydd.

Mae'r ystyriaethau y dylid eu rhoi i hawliau dynol ac i blant a phobl ifanc hefyd wedi'u cynnwys, y mae gan yr olaf hawliau dynol penodol a warentir gan Siarter y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae'n annog gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad i ymrwymo i Siarter y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac i wella'u dull o gynllunio a chyflenwi eu gwasanaethau.  

Mae'r asesiad y bu'n destun adolygiad yn fwy cadarn wrth sicrhau'r canlynol:

  • Bod diben y newid/penderfyniad/gwaith mewn perthynas â pholisi wedi'i amlinellu'n glir
  • Bod y bobl hynny y cafwyd effaith arnynt wedi'u cynnwys ac y rhoddwyd sylw gofalus i'w safbwyntiau o'r cychwyn
  • Bod effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl wedi'u nodi
  • Bod cynlluniau yn eu lle ar gyfer lleddfu neu leihau unrhyw effaith negyddol
  • Bod unrhyw effeithiau cadarnhaol o ganlyniad i'r newid/penderfyniad/gwaith mewn perthynas â pholisi wedi'u nodi
  • Bod cynlluniau ar waith i fonitro effaith y cynnig

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn ymwreiddio ymwybyddiaeth bellach o'r angen i gynnal asesiad, sydd wedi'i godi yn ystod ein briff misol rheolaidd i reolwyr hefyd. Cynhaliwyd 22  Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall

Yn sgil effaith COVID-19 yn ystod 2020, bu i Stonewall atal y broses o gyflwyno'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle ar gyfer 2021. Eleni, fel rhan o'r Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, byddwn yn adolygu'r ffordd orau o gefnogi'n staff trwy wella cydraddoldeb. O ganlyniad i'r gwaith yr ydym yn ei wneud mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y sefydliad, rydym yn gobeithio y bydd cyfle i gydweithio ymhellach â Stonewall mewn rhyw ffordd yn y dyfodol.

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Mae “Hyderus o ran Anabledd” yn gynllun sydd wedi'i gynllunio i'n helpu i recriwtio a chadw pobl anabl ynghyd â'u sgiliau a'u doniau. Mae'n rhoi gwarant i bobl ag anableddau sy'n ymgeisio am swyddi gwag yn ein sefydliad y byddant yn derbyn gwahoddiad i gyfweliad cyn belled â'u bod yn bodloni'r gofynion isaf o ran meini prawf sgiliau'r rôl. Cafodd cynllun cyflogwyr y llywodraeth ei atal yn 2020 yn sgil effaith COVID-19. Byddwn yn gweithio gydag arweinwyr y cynllun gyda'r nod o ail-achredu’r sefydliad ym mis Mai 2021. Mae bod yn aelod o'r cynllun yn ei gwneud yn bosibl i ni gael mynediad i garfan o ddoniau ehangach ac i ddwyn budd o'u sgiliau.

Hunanddatgelu

Rydym yn gofyn i’n pobl hunanddatgelu yn wirfoddol eu manylion personol fel ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, ffydd, cred neu ddim cred, ac ymrwymiadau gofalu yn gyfrinachol a'u cofnodi yn ein system adnoddau dynol ganolog. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i ddeall ym mha ffordd y mae ein gweithlu'n cynrychioli amrywiaeth ymhlith pobl Cymru. Hyd yn hyn, mae 68.4% o aelodau'n staff wedi hunanddatgelu, sy'n ymddangos yn ganran lai na’r llynedd, ond mae 94 aelod o staff yn fwy wedi hunanddatgelu oherwydd y cynnydd yng nghyfanswm aelodau'r gweithlu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn anelu at gynyddu nifer y staff sy'n hunanddatgelu, a hynny trwy iddynt ymgysylltu â Phrosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021, a thrwy welliannau yn y cyfathrebu ac arweiniad ar gyfer pob rheolwr ac aelod o staff. Yn ogystal â'n helpu i gyflawni’r hyn sy’n ofynnol gennym yn ôl Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, bydd hyn yn sicrhau bod gennym bolisïau cynhwysol a chadarn yn eu lle, ynghyd â chymorth a rhwydweithiau staff cynhwysol. Anogir staff newydd i hunanddatgelu fel rhan o'r cyflwyniad ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a roddir yn ystod eu cwrs cynefino.

Cyfraddau cwblhau'r broses hunanddatgelu – Ionawr 2021

Ystadegau datgelu fesul cyfarwyddiaeth Nifer y datgeliadau a gwblhawyd Nifer y datgeliadau nas cwblhawyd Cyfanswm Canran y datgeliadau a gwblhawyd Canran y datgeliadau nas cwblhawyd

Gweithrediadau

858

425

1,283

38.40%

19.00%

Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

408

172

580

18.20%

7.70%

Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

119

55

174

5.30%

2.50%

Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

74

32

106

3.30%

1.40%

Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

71

23

94

3.20%

1.00%

Cyfanswm

1,530

707

2,237

68.40%

31.60%

 

Recriwtio

Rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Ionawr 2021, gwnaethom dderbyn 3,554 o geisiadau ar gyfer swyddi gwag ar draws CNC. Fel rhan o'n hymrwymiad i'r amcanion strategol ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac i Brosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021, ein nod fydd denu ceisiadau o bob rhan o'n cymunedau er mwyn sicrhau ein bod yn adlewyrchu amrywiaeth ein poblogaeth yng Nghymru.

Mae ystadegau recriwtio yn dangos dadansoddiad pellach o ystadegau rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Ionawr 2021.

Cyfnod cynefino ar gyfer staff newydd

Yn ystod pob cwrs cynefino, rhoddir cyflwyniad ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i staff newydd. Mae'r cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar yr hyn y mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei olygu i ni fel sefydliad, yn hytrach na'r ddeddfwriaeth sydd yn ei lle: h.y. pa mor bwysig yw denu gweithlu mwy amrywiol o safbwynt dod â phobl ynghyd sydd o gefndiroedd a diwylliant amrywiol ac sydd â sgiliau, syniadau, credoau, galluoedd, anableddau, ac anghenion iechyd gwahanol, a ffyrdd newydd o weithio, i'n helpu i gyflawni ein rôl a'n cyfrifoldebau fel sefydliad. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i gael gweithlu sy'n fwy cynrychiadol o'r cymunedau amrywiol sydd gennym yma yng Nghymru, gan sicrhau ein bod yn deall eu hanghenion yn well, ac, o ganlyniad, yn darparu gwasanaeth gwell i bobl Cymru.

Rhoddir esboniad o'n polisïau cynhwysiant, gan bwysleisio sut mae gweithle cynhwysol yn arwain at weithle hapus lle mae pob gweithiwr yn teimlo'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i fod yn perthyn, ei fod yn cael ei drin yn deg, ac yn derbyn cyfleoedd a chymorth cyfartal i gyflawni ei rôl.

Dadansoddiad o'r staff

Mae'r dadansoddiad yn dangos, fel sefydliad, bod angen gwneud gwaith cynllunio’r gweithlu er mwyn rhagweld newid a chynllunio ar gyfer sicrhau bod sgiliau, profiadau a chymwyseddau yn eu lle ar gyfer y swyddi cywir ar gyfer y dyfodol. Mae'r Uwch-gynghorydd Arbenigol, Datblygu Sefydliadol, yn gweithio ar yr ail iteriad ar hyn o bryd, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddadansoddi a chynllunio'r gweithlu. Yn ddiweddar, gwnaethom adolygu'n polisïau a gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, secondiadau a phenodiadau cyfnod penodol. Roedd ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan o'r broses, a chynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer pob un o'r tri maes er mwyn helpu i nodi a oedd unrhyw agweddau camwahaniaethol ar ein polisïau a gweithdrefnau, neu unrhyw agweddau a allai peri rhoi unrhyw un â nodwedd warchodedig dan anfantais. Bydd ein Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021 yn canolbwyntio ar feysydd allweddol mewn perthynas â demograffeg ein poblogaeth staff gyfredol, ac ar ddod o hyd i'r ffordd orau o sicrhau ein bod yn adlewyrchu'r cymunedau ledled Cymru yn y dyfodol.

Chwefror 2021: 2237 o aelodau o staff

Dadansoddiad rhywedd

  • Menywod 45.2%
  • Gwrywod 54.8%

Mae'r data cyffredinol ar gyfer CNC yn cynnig cydbwysedd ar y cyfan. Ceir llai o fenywod rhwng Gradd 7 a Gradd 11.

Demograffeg oedran

Mae 29.6% (663) o'r demograffeg oedran rhwng 45 a 55 oed

O safbwynt oedran, dyma gyfran fwyaf y boblogaeth staff yn CNC. Bydd gan y ddemograffeg hon o staff flaenoriaethau gwahanol o ran:

  • Y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • Cyflog a buddion

Trefniadau gweithio

  • Amser llawn mewn cyflogaeth 84.9%
    Rhan-amser mewn cyflogaeth 15.1%

Dadansoddiad o'r rhain:

Amser llawn

  • Menywod 33.5%
  • Gwrywod 51.4%

Rhan-amser

  • Menywod 11.7%
  • Gwrywod 3.4%

Ceir cyfran uwch o staff rhan-amser mewn sefydliadau o faint tebyg i CNC ar draws llywodraeth y DU o'i chymharu ag CNC. Gallai hyn ddangos y gellid archwilio ymdrechion pellach i hwyluso gweithio'n hyblyg.

Ar gyfer y rhan fwyaf o'r gweithwyr rhan-amser, bydd angen gwneud gwaith dadansoddi pellach er mwyn deall beth yw'r angen o safbwynt CNC a sut y gall ddenu a chadw'r bobl â'r doniau y mae'n ofynnol ganddynt allu gweithio'n hyblyg, ynghyd â sicrhau bod y bobl hyn yn adlewyrchu'n cymunedau.

Gyfrifoldebau gofalu

  • 24.2% o weithwyr â chyfrifoldebau gofalu

Mae bron chwarter o'r aelodau o staff wedi nodi bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu. Bydd angen gwneud gwaith dadansoddi pellach i ddeall y ffordd orau o gefnogi'n staff yn CNC.

Rydym yn darparu'r gefnogaeth ganlynol ar hyn o bryd:

  • Wythnos gofalu am ofalwyr 8-14 Mehefin
  • Y Tîm Llesiant, Iechyd a Diogelwch
  • Arweiniad i ofalwyr
  • Polisi gweithio'n hyblyg
  • Gweminarau Care First rheolaidd
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr
  • Y rhwydwaith Cwtsh
  • System gyfeillio
  • Cyfathrebir gwybodaeth i ofalwyr yn fewnol ar y fewnrwyd ac ar Yammer

Yn y tri grŵp nesaf yn CNC, mae'r gyfran o'r aelodau o staff sy'n adlewyrchu'r boblogaeth ledled Cymru yn llai na'r hyn a welir yn ein cymunedau.

  • 1.5% o weithwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol (BAME)
  • 24% o weithwyr yn siaradwyr Cymraeg rhugl
  • 2.36% o weithwyr wedi hunanddatgelu eu bod yn fenyw/dyn hoyw, yn ddeurywiol neu arall

Mae'r Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrthi'n cynnal grwpiau ffocws ac arolygon cyhoeddus a staff yn ddwyieithog, gan gyrraedd cymunedau amrywiol er mwyn llywio argymhellion gwybodus i'w cytuno â'r Bwrdd.

Un o nodau'r prosiect yw gwella cyfleoedd yn CNC i ddenu ceisiadau sy'n cynrychioli ein cymunedau ledled Cymru orau.

Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, 31 Mawrth 2020

Caiff ein gwybodaeth am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ei chasglu ar 31 Mawrth bob blwyddyn er mwyn cydymffurfio â methodoleg Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017.

Dangosodd ein dadansoddiad o'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fod ein prif ffigur yn 2.5% ar 31 Mawrth 2020. Mae'r ffigur hwn yn llai na'r 5.3% a adroddwyd yn 2019.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 15.5% oedd y bwlch cyflog yn y DU gyfan ar gyfer yr un cyfnod, sy'n llai na'r ffigur 17.4% ar gyfer 2019.

Crynodeb o'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn CNC

Canlyniadau 2020

Chwartel Canran y gwahaniaeth yn 2019 Canran y gwahaniaeth yn 2020 Nifer y gweithwyr gwrywod Nifer y gweithwyr menywod Canran y gweithwyr gwrywaidd Canran y gweithwyr benywaidd
Chwartel is -10.20 -13.50% 267 231 54% 46%
Chwartel canol is -1.20 -12.80% 265 231 53% 47%
Chwartel canol uwch -14.60 -7.40% 257 238 52% 48%
Chwartel uwch -51.40 -38.40% 307 189 62% 38%


Cyfradd yr awr (cyfwerth ag amser llawn) sylfaenol

Mesur Gwrywod (1096) Menywod (889) Canran y gwahaniaeth yn y cyflog sylfaenol
Cymedr £17.82 £17.43 -2.20%
Canolrhif £17.68 £17.14 -3.20%


Cyfanswm cyfradd yr awr (cyfwerth ag amser llawn) sylfaenol

Mesur Gwrywod Menywod Cyfanswm canran y gwahaniaeth
Cymedr £17.92 £17.48 -2.50%
Canolrhif £17.68 £17.14 -3.10%

 

Ar sail diffiniadau CThEM o fenywod a gwrywod mewn perthynas â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, mae'r dadansoddiad yn dangos bod 62% o wrywod mewn rolau rhwng rhan uchaf Gradd 6 a Gradd 11, o gymharu â 38% o fenywod.

Mae menywod yn ennill 97c am bob £1 mae dynion yn ei hennill wrth gymharu cyfanswm cymedr y cyflogau fesul awr. Mae'r cyfanswm cymedr ar gyfer swyddi ar Radd 6 neu is yn golygu bod menywod yn ennill 44c am bob £1 y mae dynion yn ei hennill.

Wrth gymharu cymedr y cyflogau fesul awr, mae cymedr cyflog menywod fesul awr 2.5% yn llai na dynion. Gwelwyd gwelliant ers y flwyddyn flaenorol o ganlyniad i benodi menywod i nifer o swyddi uwch-arweinyddol.

Fodd bynnag, bu gwelliant ers 2018, ac, wrth i ni ddatblygu, caiff gwaith pellach ei wneud i ddeall y bwlch, a'i wella. Byddwn yn parhau i fonitro'n cynnydd yn rheolaidd wrth gynnal ein hadolygiad o'r raddfa gyflog.

Cwynion

Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwnaethom dderbyn tair cwyn mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fel a ganlyn, yr oedd dwy ohonynt yn ymwneud â'r un mater: -

  1. Derbyniwyd dwy gŵyn gan aelodau o'r cyhoedd mewn perthynas ag enw a ddefnyddiwyd ar gyfer offeryn mwyngloddio, sydd hefyd â chysylltiadau ag addysg ar wahân hiliol yn UDA, ar ran o'n llwybr beicio mynydd.

Oherwydd y pryderon a godwyd, gwnaethom benderfynu tynnu'r plac enw oddi ar y rhan o'r llwybr a dod o hyd i enw arall, mwy priodol, sy'n adlewyrchu hanes mwyngloddio a diwylliant yr ardal, y caiff ei ddefnyddio ar gyfer pen y llwybr. Fel sefydliad, rydym yn ymdrechu i fod yn rhydd rhag rhagfarn a chamwahaniaethu, ac rydym yn angerddol ynghylch sicrhau bod  cydraddoldeb ac amrywiaeth yn flaenllaw yn ein blaenoriaethau.

  1. Derbyniwyd un gŵyn mewn perthynas â'r ddeddf sy'n gwahardd pysgota am eogiaid gydag abwyd gan fod y sawl a'i nododd o'r farn ei bod yn camwahaniaethu'n uniongyrchol yn erbyn adran o enweirwyr anabl, gan dynnu'r opsiwn i bysgota i ffwrdd ohonynt oherwydd eu hanabledd.

Wedi ystyried y materion yn ofalus, a hynny cyn ac ar ôl ymgynghori yn eu cylch, diwygiodd CNC ei gynnig fel mai'r effaith gyffredinol yw cynnal cyfleoedd i genweirwyr, nad oes dewis ganddynt ond pysgota gydag abwyd, wneud hynny. Mae CNC o'r farn fod hyn yn sicrhau bod effeithiau is-ddeddfau Cymru gyfan ar genweirwyr sy'n llai abl yn gorfforol yn gymesur ac wedi'u cyfiawnhau yn wrthrychol.

Casgliad

Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn yn dangos bod COVID-19 wedi cael effaith ar lawer o feysydd a fyddai'n gysylltiedig â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y busnes – er enghraifft, bu cyfyngiadau ar ein gwaith mewn perthynas ag achrediadau allanol a digwyddiadau ar gyfer hyrwyddo ac ymgorffori cydraddoldeb ymhellach er mwyn cefnogi rhaglenni ehangach i sicrhau llesiant ein staff.

Mae'r rhwydweithiau'n ennill tir, ac mae'r Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y cyd yn edrych ymlaen at gynllunio sut y gallwn gefnogi staff yn 2021.

Mae'r adolygiad o'r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei alinio â Phrosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021, gan sicrhau y bydd yn cefnogi staff a rheolwyr o safbwynt mabwysiadu dull cynhwysol yn eu gwaith, yn fewnol ac yn allanol, er mwyn sicrhau na fydd neb yn dioddef camwahaniaethu nac o dan anfantais o ganlyniad i'n gwaith.

Mae ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau o ganlyniad i Raglen Newid y Sefydliad, a arweiniodd at gynnydd yn nifer y menywod a fu'n llwyddiannus wrth gael eu penodi i rolau uwch nag a ddigwyddodd yn y sefydliad yn flaenorol. I leihau'r bwlch ymhellach, bydd angen i fenywod gael rolau ar lefel y Tîm Gweithredol a'r Tîm Arwain yn y sefydliad.

Mae canfyddiadau ein dadansoddiad staff yn dangos bod angen dadansoddi lefel amrywiaeth ein sefydliad ymhellach, drwy'r Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, er mwyn ein helpu i adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ble mae rhai o'n swyddfeydd mwyaf wedi'u lleoli. Bydd Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021 yn ein helpu i nodi unrhyw rwystrau a all fod yn ein dulliau cyfathrebu o ran ymgysylltu â'n cymunedau mwy amrywiol ac anos eu cyrraedd, a'n helpu i ddenu gweithlu mwy amrywiol ar gyfer y dyfodol. Caiff adroddiad sy'n cynnwys argymhellion a chynllun gweithredu ei gyflwyno i'r Bwrdd yn ystod haf 2021.

Diweddariadau rhwydweithiau CNC

Grwpiau defnyddwyr a gynorthwyir (TG a theleffoni)

Mae'r rhwydwaith yn dod â staff ynghyd, o bob rhan o'r sefydliad, sy'n defnyddio meddalwedd gynorthwyol sy'n eu galluogi i gael mynediad i raglenni cyfrifiadurol safonol CNC.  Mae gan staff sy'n defnyddio meddalwedd gynorthwyol anghenion sy'n deillio o gyfyngiadau ar symudedd neu gyfyngiadau gweledol, colli clyw, neu anghenion unigol eraill sy'n gofyn am feddalwedd neu addasiadau arbenigol. 

Mae'r Grŵp Defnyddwyr a Gynorthwyir yn fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng defnyddwyr ac adran TGCh CNC, gan sicrhau bod rhaglenni cyfrifiadurol yn hygyrch i ddefnyddwyr ar hyn o bryd ac y byddant yn parhau i fod felly yn y dyfodol.  Mae'r rhwydwaith yn profi hygyrchedd y rhaglenni cyfrifiadurol y mae'r defnyddwyr a gynorthwyir presennol yn eu defnyddio, ynghyd â thechnoleg ychwanegol y gall fod ei hangen arnynt.  Mae'r rhwydwaith hefyd yn cysylltu defnyddwyr y meddalwedd gynorthwyol gyda'i gilydd, ac yn gweithio i hybu a chael dealltwriaeth well o'r defnydd a wneir o feddalwedd gynorthwyol.

Mae 28 defnyddiwr a gynorthwyir yn gweithio ar draws y sefydliad ar hyn o bryd, sy'n cwrdd yn fisol.

Trefnwyd cwrs hyfforddiant ar gyfer defnyddwyr a gynorthwyir ar ddefnyddio'r pecyn “Microsoft Teams” a gyflwynwyd yn ddiweddar ac sydd newydd gael ei lansio ar draws y sefydliad. Helpodd hyn o ran nodi ychydig o broblemau ar gyfer y defnyddwyr, yr oedd yr adran TGCh wedi gallu eu datrys, gan sicrhau nad oedd defnyddwyr a gynorthwyir dan anfantais, a'u bod yn gallu gwneud defnydd llawn o'r pecyn hwn. Mae'r rhwydwaith hefyd ynghlwm wrth y gwaith o brofi meddalwedd TGCh yn rheolaidd cyn ei chyflwyno er mwyn sicrhau ei bod yn gweddu i anghenion defnyddwyr.

Rhoddir hyfforddiant i bob aelod o staff newydd a phresennol y nodwyd ei bod yn ofynnol iddo ddefnyddio technoleg ar gyfer defnyddwyr a gynorthwyir, a hynny yn ôl ei angen defnyddiwr penodol.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd y rhwydwaith yn parhau i gwrdd bob yn ail mis, a phrofi unrhyw gymwysiadau cyfrifiadurol newydd, neu gymwysiadau a brynwyd ac sydd angen eu profi gyda thechnoleg gynorthwyol, er mwyn sicrhau eu bod yn gweddu i anghenion defnyddwyr.

Rhwydwaith Staff Mwslimaidd

Cafodd y rhwydwaith hwn ei lansio ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio yn y sefydliad sydd naill ai'n arfer y ffydd Fwslimaidd neu a hoffai ddarganfod mwy am Islam, cwrdd â phobl newydd, a dangos ei fod yn gefnogol.

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan bwysig o'r ffordd yr ydym yn gweithio, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein sefydliad mor amrywiol â'r amgylchedd o'n cwmpas.

Mae wyth aelod ar hyn o bryd, ond oherwydd y nifer fach o weithwyr Mwslimaidd, dim ond un aelod o'r grŵp sy'n weithredol o ran codi ymwybyddiaeth o'r ffydd Fwslimaidd yn gyffredinol yn y sefydliad. Rydym yn gobeithio y bydd y cyflwyniad ar y rhwydwaith, fel rhan o'n rhaglen gynefino, yn helpu i gynyddu'r aelodaeth.

Cafodd fideo ei greu ar gyfer gŵyl CNC ar wisgo'r nicab a gorchuddion wyneb yn ystod y pandemig COVID-19. Eglurodd hwn arwyddocâd gwisgo'r nicab o safbwynt menywod Mwslimaidd.

Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, cafodd dolen i daith rithwir o gwmpas mosg ei rhannu â staff CNC trwy Yammer. Rhoddodd hyn y cyfle i staff ddilyn taith rithwir y tu mewn i fosgiau ar draws y DU, ac i gael dealltwriaeth well o'r ffydd Mwslimaidd o safbwynt dynion a menywod.  Cafwyd adborth cadarnhaol gan y bobl hynny a gymerodd ran.

Mae cyflwyniad o'r enw “Cred, Adnoddau Naturiol ac Islam” wedi'i ddrafftio ar gyfer aelodau Bwrdd ac uwch-reolwyr CNC er mwyn cynnal sesiwn codi ymwybyddiaeth ar eu cyfer.

Cwtch (rhwydwaith ar gyfer gofalwyr)

Cafodd rhwydwaith Cwtch ei sefydlu ym mis Hydref 2019 gyda'r nod o wneud mwy i gydnabod, cefnogi a gwerthfawrogi ein cydweithwyr sy'n gofalu am bobl eraill a'u hanwyliaid.

Mae croeso i ofalwyr, a'r bobl hynny sydd â diddordeb mewn cefnogi cydweithwyr, ymaelodi. Mae aelodau'r rhwydwaith yn cwrdd ar-lein bob chwe wythnos, ac mae rhwng 25 a 30 ohonynt yn mynychu pob cyfarfod, sy'n cael ei gadeirio gan un o aelodau ein Tîm Arwain.

Mae gan Cwtch gysylltiadau â'n grwpiau amser i siarad ar gyfer Cyfeillion Dementia a llesiant, ac mae hefyd yn rhan o'r Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae gan y rhwydwaith grŵp Yammer gweithredol sy'n cynnwys tua 60 o aelodau, a thudalen fewnrwyd sy'n cynnig arweiniad a gwybodaeth am les a budd-daliadau ar gyfer gofalwyr, ac esboniad o'r cymorth sydd ar gael gan CNC.

Mae'r grŵp wedi treulio'i ychydig o fisoedd cyntaf yn ystyried pynciau fel y canlynol:

  • Pwysigrwydd datgan rolau gofalwyr – pam byddai rhywun, o bosib, yn dewis peidio â chofrestru fel gofalwr – er enghraifft, a yw pobl yn teimlo bod y gymdeithas yn ystyried bod gofalu'n rhywbeth negyddol sy'n eu gwneud nhw'n llai dibynadwy neu broffesiynol, a yw'n well ganddynt gadw eu bywyd cartref a'u bywyd gwaith ar wahân, a yw pobl bob amser yn sylweddoli eu bod nhw'n ofalwyr oherwydd gall hyn ddigwydd o ganlyniad i newid graddol, neu fod gofalu'n ofyniad achlysurol? Y ffyrdd bosibl sydd ar gael i ni o ran rhoi cymorth i bobl gydnabod y rôl hon a thynnu unrhyw rwystrau.
  • Sut y gallwn sicrhau bod gofalwyr a gofalu'n fwy ‘weladwy’ (creu lle diogel wrth barchu cyfrinachedd) – gan ddefnyddio blogiau mewnrwyd, postiadau Yammer, cyfeirio gweithwyr newydd at y grŵp fel rhan o'u cyfnod cynefino, yr wythnos gofalwyr ac ati.
  • Ffyrdd o gefnogi ein gofalwyr, boed hynny'n emosiynol neu mewn ffordd ymarferol – gallai hyn fod trwy lwybrau ffurfiol megis ein polisïau, gweithio'n hyblyg, a thrwy gysylltiadau â'r Strategaeth Cydraddoldeb, a thrwy ffyrdd mwy anffurfiol fel yr egwyliau te ‘paned i ofalwyr’ a’r system gyfeillio. Mae gennym hefyd gysylltiadau da â'r grŵp Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
  • Cynhaliwyd yr Wythnos Gofalwyr rhwng 8 a 14 Mehefin 2020, sef y cyntaf ers ffurfio'r rhwydwaith Cwtsh. Roedd gan y rhwydwaith bresenoldeb cryf ar y fewnrwyd yn ystod yr wythnos honno, gan roi gwybod i bobl am y rhwydwaith a hyrwyddo sesiynau dyddiol a oedd yn cynnwys trafodaeth am y cymorth y mae CNC yn ei roi i ofalwyr, sgwrs gan Fforwm Rhieni/Gofalwyr Abertawe, sesiwn ar ddementia a thechnoleg, a sesiynau ‘paned i ofalwyr’ (gofalu am bobl hŷn a'r gair sy'n dechrau gydag “A”). Cynhaliwyd blogiau i ofalwyr ar y fewnrwyd, a rhannodd pobl eu profiadau personol o ofalu ac o gydbwyso hynny gyda'u bywyd gwaith. Yn ystod yr wythnos honno, gwnaeth CNC addewid cyhoeddus i barhau i ddarparu lle cefnogol yn ein sefydliad lle gallwn ddangos cydnabyddiaeth o'r bobl hynny yn CNC sy'n gofalu am eu hanwyliaid am amrywiaeth o resymau, ac i ddarparu mwy o gyfleoedd ar gyfer y bobl hynny y gallai fod am ddarganfod rhagor.
  • Ar 26 Tachwedd, a hynny i gyd-ddigwydd â Diwrnod Hawliau Gofalwyr, daethom yn aelodau o'r rhwydwaith cenedlaethol Cyflogwyr i Ofalwyr, ac rydym bellach yn rhan o Hwb Cymru, ynghyd â sefydliadau cyhoeddus eraill. Mae Cyflogwyr i Ofalwyr yn cynorthwyo cyflogwyr i gefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, ac i greu gweithleoedd sy'n hwylus i ofalwyr. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i'r rhwydwaith a'r sefydliad gael mynediad i'w arweiniad a'i ddeunyddiau a chyrsiau hyfforddiant.
  • Mae'r rhwydwaith yn edrych i'r dyfodol yn barhaus, ac mae ganddo gynllun cyfathrebu parhaus sydd wedi canolbwyntio ar ddigwyddiadau fel yr Wythnos Gofalwyr a Diwrnod Hawliau Gofalwyr, ond sydd bellach yn ehangu i adlewyrchu gweithgareddau eraill ac i feddwl sut y gall y rhwydwaith gyrraedd pawb a allai fanteisio ar fod yn aelod ohono. Yn ystod 2021, bydd y rhwydwaith yn archwilio sut i ddwyn buddion y rhwydwaith Cyflogwyr i Ofalwyr i'r gweithwyr hynny yn CNC sy'n ofalwyr, ac ystyried p'un a ddylid mabwysiadu'r pasbort i ofalwyr yn rhan o'n polisïau a'n gweithdrefnau.

Cyfeillion Dementia

Er gwaethaf y cyfyngiadau symud, daeth 140 o weithwyr a mwy yn Gyfeillion Dementia newydd yn CNC rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2020 o ganlyniad i sesiynau rhithwir a gynhaliwyd ac a gysylltwyd â'r rhaglen gynefino ar gyfer gweithwyr newydd ynghyd â'n gweminarau #TîmCNC i staff. Cysylltwyd y sesiynau rhithwir ‘Gwybodaeth am Gyfeillion Dementia’ â rhaglen gynefino CNC, ac mae pob un o'n gweithwyr newydd bellach yn mynychu sesiwn yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf o ddechrau gyda ni.

Mae dwy sesiwn ‘Codi Ymwybyddiaeth o Gyfeillion Dementia’ wedi'u cynnal, ynghyd â sesiwn fer yn cynnwys taith CNC tuag at ddod yn Gymuned Cyfeillgar i Ddementia, yr adnoddau sydd ar gael i staff, a'r disgwyliadau sydd gennym ohonynt i fod yn ‘gyfeillgar i ddementia’ yn eu gwaith.

Mae gan CNC bum Hyrwyddwr Dementia bellach, sy'n gallu cyflwyno sesiynau gwybodaeth naill ai wyneb yn wyneb neu drwy ddefnyddio'r platfform rhithwir newydd.

Mae gwaith Cyfeillion Dementia yn parhau i gael ei gynrychioli yn ystod cyfarfodydd ein Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a bu sesiwn paned rhithwir ‘gofalu am bobl hŷn’ yn rhan o raglen wythnos o ddigwyddiadau gan ein rhwydwaith Cwtsh yn ddiweddar.

Wrth i rywfaint o brosiectau ailddechrau, byddwn yn gallu ymgorffori nodweddion sy'n gyfeillgar i ddementia yn ein gwaith unwaith yn rhagor, gan gynnwys y canlynol, er enghraifft:

Ffordd Goedwig Cwm-carn – mae gwaith tirlunio ar waith i ddatblygu wyth ardal hamdden sydd wedi'u lleoli ar hyd Ffordd Goedwig Cwm-carn. Mae nodweddion hygyrch wedi'u hymgorffori ar hyd y cynllun cyfan, gan gynnwys llwybrau ac ardaloedd picnic hygyrch, llwybrau cerdded cylchol, amrediad o ddodrefn chwarae hygyrch, toiledau hygyrch, ac arwyddion Braille sy'n hwylus i bobl â dementia ar gyfer y tu allan a'r tu mewn i bob toiled.  

Gardd dementia Trelái – o ganlyniad i gyfarfod ar y cyd gyda’r bwrdd iechyd, bydd CNC yn ariannu ac yn helpu i gynllunio gardd i'r synhwyrau yn Nhrelái, Caerdydd, a bydd yn cyflwyno ‘cais canlyniad strategol’ am gyllid maes o law.

Mae CNC wedi ymuno â grŵp dementia ‘golau glas’ ar draws Cymru gyfan er mwyn rhannu dysgu a'r arferion gorau. Y gwasanaeth ambiwlans sy'n ei gydlynu, ac mae'n cynnwys cynrychiolaeth gan yr heddlu a'r gwasanaeth tân yn ogystal. Mae'n amlwg bod digwyddiadau eleni wedi cael effaith ar allu aelodau'r fforwm i fynychu cyfarfodydd, ond, o edrych ymlaen, byddant yn darparu diweddariadau am eu mentrau hwylus i ddementia ac yn rhannu'r arferion gorau.

Mae Tîm Gweithredol CNC wedi cefnogi gwaith y sefydliad i ddod yn bartner mewn prosiect hwylus i ddementia newydd, ar sail “gwyddoniaeth dinasyddion”, a gaiff ei gydlynu trwy Brifysgol Bangor.

Mae ymchwilwyr sy'n gweithio ym Mangor wedi cyflwyno cais i UKRI er mwyn datblygu model “gwyddoniaeth dinasyddion” ar gyfer pobl sydd â dementia a’u gofalwyr, er mwyn asesu amrediad o safleoedd a lleoliadau dros Gymru gyfan dros gyfnod o dair blynedd, a rhoi adborth arnynt. Bydd grwpiau bach o bobl sy'n byw gyda phobl sydd â dementia yn defnyddio ap ar gyfer ffôn neu lechen sydd wedi'i ddatblygu'n arbennig i bennu sgôr i fannau mewnol ac awyr agored, gan gynhyrchu adroddiadau cryno i gynrychiolwyr y safleoedd a'r cyfranogwyr eu trafod, er mwyn adolygu'r adborth, nodi blaenoriaethau, a chynllunio a gweithredu gwelliannau (lle bo hynny'n bosibl). Bydd egwyddorion y prosiect yn canolbwyntio ar rwydweithiau cymunedol a dysgu'n barhaus. Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith â'r gwaith yr ydym eisoes wedi'i ddechrau o safbwynt gwahodd adborth ar gyfleusterau ein canolfannau ymwelwyr.

Mae grŵp y prosiect wedi sicrhau cefnogaeth gan leoliad gofal iechyd (Ysbyty Tremadog), lleoliad trefol (Dinas a Sir Abertawe), a chymuned wledig (Porthmadog), ac CNC bellach, fel sefydliad sy'n rheoli mynediad i leoliadau awyr agored sy'n gysylltiedig â llesiant.

Ynghyd â'r partneriaid prosiect eraill, ac os bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen, byddwn yn sicrhau mai'r flaenoriaeth flaenaf bydd cydymffurfio â chyfyngiadau COVID-19 a rheoli diogelwch y cyhoedd a staff – ac mae amrediad o opsiynau ar gael o safbwynt y dyddiadau y cesglir data dros gyfnod tair blynedd y prosiect, a'r dulliau o wneud hynny, er mwyn gwneud hyn yn bosibl. Rydym yn aros i glywed a yw'r cais am gyllid wedi'i gymeradwyo.

Rhwydwaith Calon i weithwyr LHDT+

Mae'r rhwydwaith Calon, i weithwyr LHDT+, yn darparu cymorth, arweiniad a chyfleoedd i rwydweithio ar gyfer aelodau o staff LHDT+ yn CNC a gweithwyr sydd am gefnogi pobl LHDT+ a chydraddoldeb.

Mae ganddo 50 o aelodau ffurfiol ar hyn o bryd, gyda 120 o aelodau staff yn dilyn tudalen Calon ar Yammer.  Nid oes unrhyw gyfarfoydd ffurfiol, ond cynhelir galwadau achlysurol drwy gydol y flwyddyn.

Gwnaethom goffáu'r Diwrnod Coffáu Trawsryweddol (20/11/20), noddi Wythnos Ar-lein Fawr Pride Cymru (Awst 2020), ac annog staff i gymryd rhan yn arolwg Cynllun Gweithredu LDHT Stonewall Cymru (Awst 2020), Diwrnod Gweledigrwydd Pobl Panrywiol (26/5/20), a'r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia (17/5/2020).

Mae'r rhwydwaith yn bwriadu cyhoeddi arweiniad ar ddefnyddio rhagenwau personol yn y sefydliad, dathlu diwrnodau gweledigrwydd rhyngwladol eraill, a chyfrannu at gyflwyno Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, y cafodd ei atal oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

Y Gymdeithas Gristnogol

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r rhwydwaith wedi parhau i fwynhau cwmni a chyd-gymorth o fewn y rhwydwaith staff drwy ein tudalennau ar Yammer, sy'n grŵp preifat trwy wahoddiad – dim ond er mwyn atal y ffrwd awtomatig o negeseuon rhag llethu defnyddwyr eraill Yammer sy'n tynnu sylw i ffwrdd o brif ddiben “busnes” Yammer. Mae croeso i gyfranogwyr gweithredol, ac arferwyr sydd â diddordeb yn yr hyn y mae'r rhwydwaith yn ei wneud, ymaelodi. Cynhelir cyfarfodydd yn bythefnosol yn ystod amser cinio.

Yn ystod y cyfarfodydd, mae aelodau'r rhwydwaith yn rhannu cyd-gymorth trwy astudio a thrafod y Beibl, a gweddïo. Nid yw llawer o'n haelodau wedi cwrdd wyneb yn wyneb, ond maent yn teimlo bod cysylltiad rhyngddynt, fel cydweithwyr, drwy hyn. Mae'r rhwydwaith hefyd wedi ystyried ei bod yn bwysig gweddïo dros lesiant ein sefydliad, ac mae staff wir yn gwerthfawrogi cyfraniad CNC i'w llesiant yn y gweithle drwy ei gwneud yn bosibl i rwydweithiau staff weithredu yn y ffordd hon, ac, o ganlyniad, creu gweithlu hapus ac amrywiol lle gall staff fod “yr hyn yr ydynt” a gadael i bobl eraill fod “yr hyn yr ydynt hwy”.

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn wahanol ac anodd iawn i bawb, gan ystyried yr heriau o ymdopi â'r effaith barhaus ar ein bywydau yn sgil y pandemig COVID-19. O safbwynt rhwydwaith staff y Gymdeithas Gristnogol, mae'r gefnogaeth barhaus y mae CNC wedi'i darparu wedi bod yn bwysicach nag yn flaenorol.

Mae 30 aelod ar hyn o bryd, sy'n gynnydd bach, ond o ganlyniad i'r ffaith i ni orfod gweithio gartref, mae hyn wedi hwyluso cynnydd yn niferoedd yr aelodau sy'n cymryd rhan yn y cyfarfodydd a gynhelir. Mae'r “egwyl coffi a gweddi” a gynhelir am 20 munud bob bore Llun, y bu'n gyfarfod wyneb yn wyneb y byddai llond llaw o bobl yn ei mynychu mewn ystafell gyfarfod yn Aberystwyth, bellach wedi dod yn gyfarfod rhithwir mwy sy'n ei gwneud yn bosibl i ni ymgasglu, o bob rhan o Gymru, i weddïo/addoli a rhannu cyd-gymorth ac mae hynny wedi bod yn achubiaeth i bawb sydd wedi gorfod ynysu. Unwaith eto, mae mwy o bobl yn mynychu'r cyfarfodydd amser cinio pythefnosol. Heb y rhwydwaith staff hwn, byddai'r deg mis diwethaf wedi bod yn gyfnod llawer anos. Mae'r rhwydwaith yn diolch yn fawr iawn i CNC am gyfrannu at lesiant staff ac am hwyluso'r rhwydweithiau staff hyn.            Mae pawb yn CNC sydd wedi dioddef colled neu salwch, a tharfu difrifol ar eu bywydau o ganlyniad i'r pandemig, yng nghalonnau a gweddïau aelodau'r rhwydwaith.

Niwroamrywiaeth

Mae hwn yn rhwydwaith newydd a sefydlwyd ym mis Hydref 2020 o ganlyniad i lawer o ddiddordeb a gweithgarwch yn y grŵp Niwroamrywiaeth ar Yammer.

Cychwynnodd grŵp o staff niwroamrywiol y rhwydwaith er mwyn rhoi mynediad i gydweithwyr niwroamrywiol eraill, eu rheolwyr, a chydweithwyr sydd ag aelodau o'r teulu sy'n niwroamrywiol i wybodaeth ddefnyddiol a darparu lle i ofyn cwestiynau. Mae'r rhwydwaith yn agored i bob aelod o staff.

Nod y rhwydwaith yw helpu CNC i ddod yn weithle mwy cynhwysol ac i wireddu ymrwymiad y sefydliad i sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant, lleihau'r stigma ynghylch niwroamrywiaeth, a sicrhau bod staff yn teimlo'n ddiogel, a'u bod wedi'u grymuso ac yn wybodus.

Mae 21 o aelodau'r rhwydwaith yn cwrdd yn fisol ar hyn o bryd.

Mae un o aelodau'r rhwydwaith wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwroamrywiol ar-lein fel rhan o'n sesiynau gweminar bob dydd Mercher, ac mae'r rhain wedi bod yn boblogaidd iawn. Mae nifer o reolwyr wedi'u mynychu, gan eu helpu i gael dealltwriaeth well o'r cyflwr, ynghyd â'r hyn y gallan nhw, fel rheolwyr, ei wneud i helpu aelodau o staff a lleihau'r straen arnynt mewn unrhyw ffordd.

Cynhaliwyd cwrs ‘Cyflwyniad i Niwroamrywiaeth’ o ddwy awr ar ddechrau mis Rhagfyr. Mynychodd 15 aelod o staff y cwrs ar-lein, a chafwyd adborth cadarnhaol a ddangosodd fod gan y bobl a fynychodd ddealltwriaeth well o'r ffyrdd gwahanol yr ydym yn meddwl ac yn deall, a'r sgiliau gwahanol yr ydym i gyd yn meddu arnynt ac sydd mor bwysig eu cael mewn gweithle cynhwysol ac amrywiol.

Mae aelodau'r rhwydwaith yn y broses o ddrafftio calendr o'u gwaith ar gyfer y 12 mis nesaf. Mae'r rhwydwaith yn cynnal trafodaethau â'r Tîm Cyfathrebu Digidol ar hyn o bryd er mwyn creu tudalen ar y fewnrwyd a fydd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a chefnogol ar gyfer staff a rheolwyr.

Ystadegau hunanddatgelu ar gyfer 2020 – 2021

Gweler yr ystadegau hunanddatgelu ar gyfer 2020 – 2021

Ystadegau recriwtio

O'r recriwtio a wnaed yn fewnol, roedd 312 o geisiadau, gofynnodd pedwar ymgeisydd am gyfweliad a warentir a derbyniodd tri ymgeisydd gyfweliad a warentir. Cyfrifwyd y ddemograffeg o safbwynt cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y dadansoddiad staff cyffredinol.

Mae'r data hyn yn seiliedig ar 3,554 o geisiadau am swyddi gwag a gyflwynwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Ionawr 2021.

Mae'r pynciau'n seiliedig ar y cwestiynau a ofynnwyd ar ffurflen gais allanol CNC yn yr adran â'r teitl “Ffurflen Monitro Cydraddoldeb Recriwtio”.


Beth yw eich rhywedd?

Rhywedd Cyfanswm

Gwryw

2027

Benyw

1490

Dim cofnod

26

Anneuaidd neu Rhyngrywiol

6

Gwell gennyf beidio â dweud

4

Rhyweddhylifol

1

A yw eich hunaniaeth o ran rhywedd yn cyd-fynd â’r rhyw a bennwyd ichi adeg eich geni?

Hunaniaeth o ran rhywedd Cyfanswm

Ydyw

3520

Gwell gennyf beidio â dweud

21

Dim cofnod

8

Nac ydyw

5

Beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol?

Cyfeiriadedd rhywiol Cyfanswm

Heterorywiol/Strêt

3140

Dim cofnod

132

Deurywiol

115

Gwell gennyf beidio â dweud

86

Dyn hoyw

50

Dynes hoyw / Lesbiad

29

Arall

2

Pa gyfrifoldebau gofalu sydd gennych?

Gyfrifoldebau gofalu Cyfanswm

Dim

2985

Prif ofalwr plant (dan 18 oed)

363

Ail ofalwr

159

Gwell gennyf beidio â dweud

24

Dim cofnod

13

Prif ofalwr person mewn oed (65 oed a hŷn)

4

Prif ofalwr teulu

3

Prif ofalwr person mewn oed (dan 65)

1

Prif ofalwr plant anabl (dan 18 oed)

1

Gofalwr maeth

1

Beth yw eich Hil?

Hil Cyfanswm

Gwyn Prydeinig

3298

Grŵp ethnig arall

123

Dim cofnod

41

Cymysg/grwpiau aml-ethnig

27

Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig

26

Asiaidd/Asiaidd Prydeinig

24

Gwell gennyf beidio â dweud

15

Beth yw eich crefydd, cred neu ddiffyg cred?

Crefydd, cred neu ddiffyg cred Cyfanswm

Heb ffydd na chred

2289

Mae gen i ffydd neu gred

1083

Gwell gennyf beidio â dweud

172

Dim cofnod

10

Ydych chi’n eich ystyried eich hun yn anabl?

Anabledd Cyfanswm

Nac ydw

3433

Ydw

86

Gwell gennyf beidio â dweud

18

Dim cofnod

17

Gwarantu cyfweliad

Gofynnwyd am warantu cyfweliad Cyfanswm

Na

3491

Do

59

Dim cofnod

4

Beth yw eich grŵp oedran?

Grŵp oedran Cyfanswm

16-24

1020

25-34

1239

35-44

568

45-55

340

56-65

107

Dim cofnod

271

Gwell gennyf beidio â dweud

9

Diweddarwyd ddiwethaf