Cyfarfod cyhoeddus CNC 16 Gorffennaf 2025
Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno ymuno arsylwi ar y sesiwn gyhoeddus drwy Dimau ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol gyda'r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol orffen. Cofiwch y gall amseru agenda newid ar y diwrnod ac felly i sicrhau bod cwestiynau'n cael eu clywed, cyflwynwch y rhain ymlaen llaw erbyn dydd Llun am 5pm i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar ddiwrnod y cyfarfod, felly cyflwynwch unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at sylw Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.
Amser y cyfarfod: 14:00-17:00 - Dydd Mercher 16 Gorffennaf 2025
Agenda
| Amser | Eitem | 
|---|---|
| 14:00 (5 munud) | Materion Rhagarweiniol Eitem 1. Dechrau'r cyfarfod 
 Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant | 
| 14:05 (5 munud) | Eitem 2. Adolygu’r cofnodion a chofnod y camau gweithredu 2A. Adolygu cofnodion y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar 21 Mai Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a’r cofnod o gamau gweithredu | 
| 14:10 (10 munud) | Gosod y sefyllfa Eitem 3. Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y cadeirydd Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: NODI diweddariad y cadeirydd i’r bwrdd | 
| 14:20 (20 munud) | Eitem 4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr Noddwr a chyflwynydd: Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Crynodeb: NODI’R sefyllfa bresennol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r bwrdd ar y prif weithgareddau Cyfeirnod y papur: 25-07-B08 | 
| 14:40 (20 munud) | Llywodraethu, Risg a Sicrwydd Eitem 5. Adroddiadau diweddaru’r pwyllgorau a’r fforymau Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau 
 Cyfeirnod y papur: 25-07-B09 
 Cyfeirnod y papur: 25-07-B10 
 Cyfeirnod y papur: 25-07-B11 
 Cyfeirnod y papur: 25-07-B12 
 Crynodeb: NODI’R wybodaeth ddiweddaraf gan bwyllgorau’r bwrdd a fforymau CNC, o fewn a thu allan, a’r cyfarfodydd a gynhaliwyd | 
| 15:00 (20 munud) | Cyflawni ein cynllun Eitem 6. Adroddiad Perfformiad Cyllid Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Crynodeb: CYMERADWYO’R sefyllfa ariannol ddiweddaraf Cyfeirnod y papur: 25-07-B13 | 
| 15:20 (15 munud) | Egwyl | 
| 15:35 (40 munud) | Eitem 6. Adroddiad Perfformiad Cyllid Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid Crynodeb: CYMERADWYO’R sefyllfa ariannol ddiweddaraf Cyfeirnod y papur: 25-07-B13 | 
| 16:15 (10 munud) | Eitem 8. Adroddiad chwarterol ar lesiant, iechyd a diogelwch (adroddiad blynyddol) Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Charlotte Morgan, Rheolwr Llesiant, Iechyd a Diogelwch Crynodeb: CYMERADWYO’R adroddiad blynyddol Cyfeirnod y papur: 25-07-B15 | 
| 16:25 (5 munud) | Eitem 9. Unrhyw fater arall | 
| 16:30 (10 munud) | Eitem 10. Sut wnaethon ni berfformio yn y cyfarfod hwn? Noddwr: Syr David Henshaw, Cadeirydd Crynodeb: Adolygiad o’r cyfarfod | 
| 16:40 | Cau'r cyfarfod | 
| 16:40 (20 munud) | Sesiwn Holi ac ateb gyhoeddus | 
| 17:00 | Cau'r cyfarfod cyhoeddus |