29 Gorffennaf: Cyfarfod Cyhoeddus Bwrdd CNC

Arsylwi ar-lein

Fel aelod o’r cyhoedd, gallwch ymuno â chyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.

Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar y diwrnod.

Agenda

Amser Eitem

09:00
(30 munud)

Sesiwn Cyfarwyddwyr 

9:30
(5 munud)

Eitem 1. Agor y Cyfarfod

  • Croeso
  • Datganiad Buddiannau
  • Egluro trefn y cyfarfod

Noddwr a Chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau buddiannau

9:35
(5 munud)

Eitem 2. Adolygu Cofnodion a’r Log Camau Gweithredu

  • 2A. Adolygu Cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd a gynhaliwyd ar 20 Mai
  • 2B. Adolygu’r Log Camau Gweithredu a Phenderfyniadau Cyhoeddus 

Noddwr a Chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a'r Log Camau Gweithredu

9:40
(10 munud)

Eitem 3. Diweddariad gan y Cadeirydd 

Noddwr a Chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd

9:50
(20 munud)

Eitem 4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr 

Noddwr a Chyflwynydd: Ceri Davies, Prif Weithredwr

Crynodeb: NODI y sefyllfa bresennol a diweddaru'r Bwrdd ar weithgareddau allweddol

Cyfeirnod papur: 26-07-B01

10:10
(20 munud)

Eitem 5. Diweddaru Adroddiad y Pwyllgorau

Noddwyr a Chyflwynwyr: Cadeiryddion Pwyllgorau

Pwyllgor neu ffora sydd wedi gyfarfod ers Bwrdd diwethaf:

  • Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg – 4 Mehefin ac 8 Gorffennaf (Cyfarfod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon) – Cyfeirnod papur: 26-07-B03 & 26-07-B14
  • Pwyllgor Cyllid – 2 Gorffennaf – Cyfeirnod papur: 26-07-B11
  • Fforwm Rheoli Tir Cymru – 6 Mehefin
  • Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – 11 Mehefin – Cyfeirnod papur: 26-07-B02
  • Pwyllgor Pobl – 24 Mehefin – Cyfeirnod papur: 26-07-B04
  • Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru – 7 Gorffennaf
  • Pwyllgor Cyflawni Strategol – 13 Gorffennaf

Pwyllgor neu ffora nad ydynt i gyfarfod tan ar ôl Bwrdd:

  • Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – Dim Cyfarfod (Llafar)
  • Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd – Dim Cyfarfod (Llafar)
  • Pwyllgor Ystad Tir – Dim Cyfarfod (Llafar)
  • Fforwm Pysgodfeydd Cymru
  • Fforwm Rheoli Dŵr Cymru

Crynodeb: NODI y diweddariadau gan Bwyllgorau'r Bwrdd a Fforymau CNC, mewnol ac allanol, a chyfarfodydd a gynhaliwyd

10:30
(10 munud)

Eitem 6. Adroddiad Perfformiad Cyllid

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid

Crynodeb: CYMERADWYO’R sefyllfa ariannol ddiweddaraf

Cyfeirnod papur: 26-07-B06

10:45
(10 munud)

Eitem 7. Datganiad Caethwasiaeth Fodern Blynyddol

Noddwr a Chyflwynydd: Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

Crynodeb: CYMERADWYO y Datganiad Caethwasiaeth Fodern Blynyddol

Cyfeirnod papur: 26-07-B05

10:55
(10 munud)

Egwyl

11:05
(20 munud)

Eitem 8. Adroddiad Llesiant, Iechyd a Diogelwch

Noddwr: Louise White, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Cyfleusterau a’r Fflyd
Cyflwynydd: Charlotte Morgan, Rheolwr Llesiant, Iechyd a Diogelwch

Crynodeb: CYMERADWYO yr Adroddiad Blynyddol Llesiant, Iechyd a Diogelwch

Cyfeirnod papur: 26-07-B07

11:25
(20 munud)

Eitem 9. Adroddiad Chwarterol Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes – Ch1

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Polisi a Thystiolaeth
Cyflwynwyr: Arweinwyr Amcanion Llesiant; Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a PMO

Crynodeb: CYMERADWYO yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 y Cynllun Busnes 2026/27. Cymryd NODYN o'r Adroddiad Perfformiad Mewnol a chymryd NODYN o'r prif risgiau cyflawni a'r mesurau lliniaru a nodwyd yn yr adroddiad.

Cyfeirnod papur: 26-07-B08

11:45
(10 munud)

Eitem 10. Sut wnaethom ni yn y cyfarfod hwn?

Noddwr: Neil Sachdev, Cadeirydd

Crynodeb: Adolygiad o'r cyfarfod

11:55
(5 munud)

Eitem 11. Unrhyw Fater Arall

12:00

Cloi’r Cyfarfod Cyhoeddus

12:00
(45 munud)

Cinio

Cyfieithu ar y pryd yn ystod y cyfarfod byw ar-lein

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.

Gofynion o ran porwr a system

Defnyddiwch fersiwn diweddaraf eich porwr gwe i sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn yn ystod y sesiwn. Rydym yn argymell defnyddio Microsoft Edge neu Google Chrome. Peidiwch â defnyddio Internet Explorer, gan na fydd yn gweithio gyda Microsoft Teams.

Diweddarwyd ddiwethaf