Cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Cyflawni Strategol
Diben
Mae'r Pwyllgor Cyflawni Strategol yn cefnogi'r Bwrdd drwy graffu ar gyflawni yn erbyn Amcanion Llesiant CNC, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau.
Rôl y Pwyllgor yw herio’r Bwrdd, a rhoi sicrwydd strategol iddo, ynghylch a yw'r Tîm Gweithredol yn cyflawni'r blaenoriaethau cywir, ac yn creu'r amodau sy'n angenrheidiol i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol, o fewn parodrwydd cymeradwy'r Bwrdd i dderbyn risg.
Mae'r Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu manwl i roi prawf ar hyder o ran cyflawni, effeithiolrwydd systemau a chydlyniad strategol, ac yn rhoi cyngor i'r Bwrdd ar risgiau allweddol, cyfaddawdau a meysydd lle mae angen pennu cyfeiriad. Mae hefyd yn chwarae rôl wrth lunio a rhoi prawf ar safbwyntiau strategol CNC mewn perthynas â chyflawni ei Amcanion Llesiant.
Nid yw'r Pwyllgor yn ailadrodd trafodaethau perfformiad ar lefel y Bwrdd ond mae’n ymgymryd â'r gwaith dadansoddi manwl sy'n sail i sicrwydd y Bwrdd a’i broses o wneud penderfyniadau.
Cwmpas
Mae'r Pwyllgor yn un o bwyllgorau ffurfiol y Bwrdd. Ei rôl yw craffu, herio a rhoi sicrwydd ar lefel strategol. Nid yw'n gwneud penderfyniadau ar lefel weithredol nac yn rheoli gweithrediadau.
Mae'r Pwyllgor yn gweithredu ar drothwy strategol, gan edrych ar draws cyflawni sefydliadol, rheoleiddiol ac ar sail lleoedd trwy lens cyfannol system gyfan, Cymru gyfan a thraws-sefydliadol. Mae'n canolbwyntio ar a yw dulliau cyflawni CNC yn ddigon cydgysylltiedig, uchelgeisiol a chredadwy i gyflawni canlyniadau ar y cyflymder angenrheidiol yng nghyd-destun yr argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd.
Sut mae’r Pwyllgor yn gweithio:
- mae’n ceisio sicrwydd gan y Tîm Gweithredol, y Byrddau Portffolio Gweithredol a'r fframwaith rheoli perfformiad;
- nid yw'n dyblygu goruchwyliaeth y Bwrdd o'r Cynllun Corfforaethol, gwaith Pwyllgorau Byrddau eraill ar bynciau penodol, na chyfrifoldeb y Tîm Gweithredol am reoli o ddydd i ddydd;
- nid yw'n ymgymryd â rheolaeth weithredol
Mae'r Pwyllgor yn cael sicrwydd gan y Tîm Gweithredol a'r Byrddau Portffolio ond nid yw'n dyblygu nac yn ymestyn eu rôl. Mae'n canolbwyntio ar a yw cyflawni ar draws portffolios ar y cyd yn ddigonol i gyflawni canlyniadau sefydliadol.
Mae'r Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu manwl, blaengar i gefnogi’r Bwrdd i wneud penderfyniadau a bydd yn osgoi dyblygu trafodaethau'r Bwrdd drwy ganolbwyntio ar hyder o ran cyflawni, effeithiolrwydd systemau ac ysgogwyr perfformiad sylfaenol, yn hytrach nag ailadrodd adroddiadau perfformiad arferol.
Cyfrifoldebau
I gefnogi'r Bwrdd, bydd y Pwyllgor Cyflawni Strategol yn gwneud y canlynol:
Perfformiad, canlyniadau a hyder o ran cyflawni
- Darparu rôl craffu strategol ar lwybrau perfformiad a chyflawni, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau tymor hir
- Cynnal trafodaethau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a deifio dwfn lle bydd hyn yn datgloi cyflymder, yn dileu rhwystrau neu'n gwella cydlyniad ar lefel system.
- Defnyddio sicrwydd Gweithredol i nodi lle mae materion portffolio neu raglenni yn arwydd o risgiau ehangach i hyder o ran cyflawni neu ganlyniadau.
- Adolygu dangosyddion strategol sy'n adlewyrchu canlyniadau hirdymor, ledled Cymru;
- Craffu ar fetrigau perfformiad aml-flynyddol, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a llwybrau cyflawni;
- Archwilio dangosyddion arweiniol sy'n sail i gyflawni yn erbyn yr Amcanion Llesiant;
- Profi cryfder y sylfaen dystiolaeth a ddefnyddir i asesu hyder o ran cyflawni;
- Asesu a yw ymyriadau presennol yn ddigonol i gyflawni canlyniadau a fwriadwyd ar y cyflymder gofynnol
Themâu cyflawni strategol a chanlyniadau system
- Darparu goruchwyliaeth strategol a her ar themâu cyflawni traws-sefydliadol allweddol sy'n hanfodol i gyflawni Amcanion Llesiant CNC.
- Mae hyn yn cynnwys profi a yw dulliau strategol, rhaglenni ac ymyriadau system yn gydlynol, yn ddigon uchelgeisiol ac yn cyd-fynd â chyflawni canlyniadau hirdymor ledled Cymru.
- Bydd y Pwyllgor yn ystyried effeithiolrwydd cyflawni ar draws meysydd megis defnydd tir, diogelu'r amgylchedd, a blaenoriaethau sefydliadol mawr, gan gynnwys sut mae'r rhain yn rhyngweithio i gefnogi adferiad natur, gwydnwch yr hinsawdd a lleihau llygredd.
- Bydd hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a phrofi safbwyntiau strategol drwy herio dulliau sy'n dod i'r amlwg, sicrhau aliniad â'r Cynllun Corfforaethol, ac ystyried goblygiadau, risgiau a chyfaddawdau tymor hir.
Rheoleiddio, llygredd a chanlyniadau amgylcheddol
- Darparu goruchwyliaeth strategol o berfformiad rheoleiddio, gan ystyried tueddiadau tymor hir, risgiau sy'n dod i'r amlwg ac effeithiau system yn hytrach nag achosion unigol.
- Archwilio a yw dulliau rheoleiddio yn effeithiol o ran cefnogi ymdrechion i leihau llygredd, adfer natur a gwydnwch yr hinsawdd, ac a oes angen newidiadau i wella canlyniadau neu gyflymder cyflawni.
Cyflawni drwy ganolbwyntio ar Leoedd a systemau
- Rydym yn datblygu ein sefydliad i sicrhau ein bod yn gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar leoedd. Ein nod yw rhoi anghenion yr amgylchedd, y gymuned, cwsmeriaid a rhanddeiliaid wrth wraidd popeth a wnawn i ddarparu buddion lluosog sy'n cefnogi’r lle ac o fudd iddo.
- Ein rôl yn y pwyllgor hwn fydd craffu ar ein gwaith cyflawni i sicrhau ein bod wedi gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar le drwyddi draw a herio lle teimlwn nad yw hyn wedi digwydd
Risg, cydlyniad ac uwchgyfeirio
- Profi a yw cymhwyso parodrwydd i dderbyn risg yn cyfyngu ar uchelgais angenrheidiol, arloesedd neu gyflymder cyflawni.
- Cynghori'r Bwrdd lle mae angen uwchgyfeirio risgiau systemig, cyfaddawdau neu densiynau er mwyn diogelu canlyniadau hirdymor a hyder o ran cyflawni. Mae hyn yn cynnwys profi a yw cymhwyso parodrwydd i dderbyn risg yn cydbwyso uchelgais, cyflymder a hyder o ran cyflawni yn briodol, a nodi cyfaddawdau ar draws Amcanion Llesiant.