Adroddiad rheoleiddio blynyddol 2024

2024 mewn ffigurau

Adnoddau dŵr ac ansawdd dŵr

Rydym yn parhau i weithio’n galed i warchod a gwella ansawdd dŵr yng Nghymru. Mae hynny’n golygu cadw llygad ar ein hafonydd, ein llynnoedd a’n harfordiroedd, mynd i’r afael â llygredd, a chymryd camau gweithredu pan fydd problemau. Rydym hefyd yn rheoli faint o ddŵr sy’n cael ei gymryd o’r amgylchedd, yn enwedig yn ystod cyfnodau sych, er mwyn sicrhau bod digon i bobl, byd natur a busnesau.

Ein nod yw cadw ein dyfroedd yn iach, cefnogi bywyd gwyllt, a sicrhau bod gan genedlaethau’r dyfodol ddŵr glân a dibynadwy. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld cynnydd mewn digwyddiadau sy’n gysylltiedig â dŵr. Gwnaethon gynyddu asesiadau cydymffurfedd gollyngiadau dŵr 91%, bron ddwywaith nifer yr asesiadau a gynhaliwyd y llynedd.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod gan Gymru ddŵr glân, diogel a chynaliadwy i bawb.

  • 35% o’r holl ddigwyddiadau yn ymwneud â dŵr
  • 3,600 o ddigwyddiadau yn ymwneud â dŵr
  • 1,153 o ddigwyddiadau yn ymwneud â dŵr a fynychwyd gennym ni
  • 1,243 o asesiadau cydymffurfedd wrth ollwng dŵr wedi’u cynnal, sy’n gynnydd o 91% o 2023
  • 190 o asesiadau cydymffurfedd adnoddau dŵr wedi’u cynnal, sy’n gynnydd o 92% o 2023
  • 228 o achosion gorfodi yn ymwneud â dŵr
  • 505 o achosion o dorri amodau gorfodi yn ymwneud â dŵr

Gwastraff a diwydiant

Rydym yn rheoleiddio gwastraff a diwydiant i leihau effeithiau amgylcheddol a sicrhau cydymffurfedd â chyfreithiau. Rydym yn ymateb i ddigwyddiadau gwastraff, yn monitro gweithgareddau anghyfreithlon fel llosgi gwastraff, ac yn goruchwylio trwyddedau i sicrhau bod pawb yn dilyn y rheolau. Rydym yn rheoli cofrestriadau ac esemptiadau cludwyr gwastraff, a meysydd twf.

Yn 2024, cynyddodd nifer y digwyddiadau gwastraff fwy na 1,600. Digwyddiadau lefel isel oedd y rhan fwyaf, er bod cyfradd presenoldeb uwch mewn digwyddiadau lefel uchel. Llosgi gwastraff oedd y broblem fwyaf cyffredin, ac yna safleoedd gwastraff anghyfreithlon, yn debyg i’r hyn a welwyd yn 2023. Canfuwyd llawer o achosion o beidio â chydymffurfio â thrwyddedau, y rhan fwyaf ohonynt yn rhai mân, a chafodd bron pob problem gyda thrwyddedau gosod yr effaith amgylcheddol leiaf posibl.

Er gwaethaf mwy o ddigwyddiadau wedi’u hadrodd, gostyngodd nifer yr achosion sy’n gysylltiedig â gwastraff a reolir o’i gymharu â’r llynedd, gan ein helpu i ddiogelu adnoddau naturiol Cymru.

  • 45% o’r holl ddigwyddiadau yn ymwneud â gwastraff
  • 4,688 o ddigwyddiadau yn ymwneud â gwastraff
  • 513 o ddigwyddiadau yn ymwneud â gwastraff a fynychwyd gennym ni
  • 16,577 o drwyddedau wedi’u rhoi i gludwyr gwastraff a broceriaid/delwyr
  • 427 o asesiadau cydymffurfedd ar gyfer gweithrediadau gwastraff wedi’u cwblhau
  • 182 o achosion gorfodi yn ymwneud â gwastraff wedi’u cau
  • 477 o achosion o dorri amodau gorfodi yn ymwneud â gwastraff
  • 51 o safleoedd Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr yng Nghymru yn 2024, 24 yn yr haen uchaf a 27 yn yr haen isaf

Tir, bioamrywiaeth a physgodfeydd

Rydym yn gwarchod tir, bioamrywiaeth a physgodfeydd. Mae ein rheolaeth yn sicrhau iechyd ecosystemau ac yn mynd i’r afael â diraddio tir. Rydym yn monitro bioamrywiaeth ac yn diogelu rhywogaethau a chynefinoedd dan fygythiad. Mewn pysgodfeydd, rydym yn rheoleiddio arferion ac yn rheoli poblogaethau pysgod yn nyfroedd Cymru. Trwy adfer cynefinoedd a chadwraeth rhywogaethau, rydym yn gwella tirweddau naturiol a bioamrywiaeth yng Nghymru.

Yn 2024, gostyngodd digwyddiadau coedwigaeth, a chynyddodd digwyddiadau pysgodfeydd. Arhosodd gweithgarwch trwyddedu rhywogaethau’n gyson, tra cynyddodd ymholiadau o flwyddyn i flwyddyn. Tyfodd gwiriadau cydymffurfedd ffermio dwys 27%. Datgelodd gostyngiad mewn gwiriadau trwydded pysgota â gwialen gyfradd osgoi fach o 3% ar draws mathau.

  • 423 o ddigwyddiadau yn ymwneud â choedwigaeth
  • 309 o ddigwyddiadau yn ymwneud â physgodfeydd
  • 1,898 o drwyddedau rhywogaethau ar waith
  • 471 o gydsyniadau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a 408 o ganiatadau ar waith
  • 1,560 o wiriadau trwydded gwialen a lein wedi’u cwblhau (cyfradd osgoi o 3%)
  • 296 o achosion gorfodi yn ymwneud ag amaethyddiaeth wedi’u cau
  • 69 o achosion gorfodi yn ymwneud â physgodfeydd wedi’u cau
  • 23 o achosion gorfodi yn ymwneud â bioamrywiaeth wedi’u cau
  • 650 o archwiliadau cydymffurfedd o ran rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol wedi’u cwblhau

Ymateb i ddigwyddiadau a gorfodi

Mae’n bwysig cofio y gall ein hymdrechion gorfodi weithiau ymestyn ar draws sawl cyfnod adrodd. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd ein swyddogion yn cymryd rhan mewn ymchwiliadau cymhleth, yn enwedig y rhai sy’n cysylltu ag asiantaethau eraill fel yr heddlu ac awdurdodau lleol. O ganlyniad, efallai y bydd bwlch hirach rhwng y digwyddiad cychwynnol a datrysiad terfynol yr ymateb gorfodi. Rydym yn eich annog i fod yn ofalus wrth werthuso ein perfformiad gorfodi yn seiliedig yn unig ar nifer y canlyniadau gorfodi ac erlyniadau.

Yn 2024, cynyddodd adroddiadau am ddigwyddiadau yn sylweddol, gan gynnwys llygredd a throseddau bywyd gwyllt. Gwnaethon gefnogi’r gwasanaethau brys mewn nifer o ddigwyddiadau. Arweiniodd camau gorfodi newydd at gyhuddiadau ac erlyniadau gyda dirwyon sylweddol, er yn is nag yn 2023. Er mwyn hyrwyddo atal, gwnaethom gyhoeddi cyngor, hysbysiadau, llythyrau rhybuddio a rhybuddiadau.

Ein ffocws yw hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol, annog cydymffurfedd, a chynorthwyo sefydliadau ac unigolion gyda’u cyfrifoldebau.

  • 10,383 o ddigwyddiadau a adroddwyd i ni
  • 46% oedd y cynnydd yn nifer y digwyddiadau a adroddwyd i ni o 2023
  • 2,118 o ddigwyddiadau wedi’u mynychu gennym
  • 20% o ddigwyddiadau wedi’u mynychu gennym
  • 876 o achosion wedi’u cwblhau
  • 619 o gwmnïau yn wynebu camau gorfodi
  • 636 o unigolion yn wynebu camau gorfodi
  • 80 o erlyniadau gyda 112 o gyhuddiadau
  • 1,145 o achosion lle rhoddwyd cyngor a chyfarwyddyd, cynnydd o 149% o 2023
  • 39% oedd y cynnydd mewn rhybuddiadau ffurfiol, i 36

Llifogydd, cronfeydd dŵr a’r môr

Rydym yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli perygl llifogydd, sicrhau diogelwch cronfeydd dŵr a diogelu ein hamgylcheddau morol. Mae ein gwaith llifogydd yn cynnwys monitro a rhagweld digwyddiadau, cynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd, a gweithio law yn llaw â chymunedau i’w helpu i baratoi ar gyfer llifogydd ac ymateb iddynt yn effeithiol. Rydym yn sicrhau diogelwch cronfeydd dŵr trwy archwiliadau rheolaidd a thrwy orfodi rheoliadau yn ddiwyd i atal problemau posibl. Yn y sector morol, rydym yn monitro ansawdd dŵr, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn rheoleiddio gweithgareddau pysgota a datblygu, gan warchod cynefinoedd a hyrwyddo defnydd cynaliadwy o adnoddau morol.

Yn 2024, cynyddodd digwyddiadau llifogydd, ond arhosodd y cyfraddau ymateb yn gyson, gyda digwyddiadau lefel isel yn bennaf ac ychydig yn gofyn am gamau brys. Bu gostyngiad bach yn nifer y trwyddedau llifogydd o 2023 ac roedd gostyngiad bach yn nifer y trwyddedau morol a roddwyd.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar amddiffyn cymunedau ac ecosystemau a rheoli adnoddau’n gynaliadwy.

  • 260 o ddigwyddiadau yn ymwneud â llifogydd
  • 205 o drwyddedau llifogydd gweithredol yn 2024
  • 59 o wiriadau cydymffurfedd ar gyfer trwyddedau perygl llifogydd wedi’u cwblhau
  • 54 o achosion o dorri amodau gorfodi yn ymwneud â llifogydd
  • 95% o’r gwiriadau a gwblhawyd yn cydymffurfio â gofynion y drwydded
  • 42 o achosion gorfodi yn ymwneud â llifogydd wedi’u cau
  • 178 o drwyddedau morol wedi’u rhoi
  • 405 o gyforgronfeydd dŵr mawr yn cael eu rheoleiddio gennym yn 2024

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad rheoleiddio blynyddol llawn ar gyfer 2024, gan gynnwys:

  • sut rydym yn categoreiddio digwyddiadau  
  • ein dulliau gorfodi a chosbi
  • astudiaethau achosion gorfodi
  • trwyddedu ein gweithgareddau ein hunain
  • canlyniadau erlyn
Diweddarwyd ddiwethaf