Cynorthwy-ydd Cyngor Morwrol

Dyddiad cau: 27 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 4, £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Gwasanaethau Morol  / Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203487

Y rôl

Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth technegol wrth asesu a rheoli ymatebion i ymgynghoriadau gwaith achos morol yn ymwneud â chynigion datblygu o fewn yr amgylchedd morol ac arfordirol.  Bydd ganddynt gyfrifoldeb uniongyrchol am reoli ymatebion i waith achos morol risg is. Byddant yn cefnogi Ymgynghorwyr Morol ac Uwch Gynghorwyr Morol i reoli a darparu cyngor gwaith achos morol o'r dechrau i'r diwedd gan gynnwys achosion proffil uchel o bwys cenedlaethol a darparu cyngor i Ymchwiliadau Cyhoeddus. Bydd deiliad y swydd yn rhan o’r Tîm Cyngor a Rheoli Ardal Forol, sy’n dîm cyfeillgar a chefnogol iawn. Bydd deiliad y swydd yn rhan o’r Tîm Cyngor a Rheoli Ardal Forol, sy’n dîm cyfeillgar a chefnogol iawn.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Charlotte Gjerlov ar Charlotte.Gjerlov@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Casglu a darparu cyngor allanol ar gyfer ymholiadau cyn ymgeisio, ymgynghoriadau gwaith achosion morol neu gefnogi’r ddarpariaeth honno gan gydweithwyr lefel uwch ar achosion cymhleth a thechnegol, gan sicrhau bod cyngor CNC yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei ddarparu’n brydlon
  • Gweinyddu’r ddarpariaeth Gwasanaeth Cyngor Dewisol
  • Cyfrannu at baratoi gwybodaeth mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor CNC
  • Datblygu a chynnal perthynas effeithiol gyda chwsmeriaid fel bo’n briodol
    Cadw cofnodion archwiliadwy o achosion wrth iddynt fynd drwy’r prosesau trwyddedu
  • Trefnu a chadw cofnod o lwyth gwaith sylweddol
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am dechnegau a dulliau asesu effaith amgylcheddol, yn enwedig o fewn yr amgylchedd morol
  2. Gwybodaeth am gynllunio datblygiadau a phrosesau trwyddedu morol
  3. Yn gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda chwsmeriaid, egluro materion cymhleth a sicrhau cefnogaeth drwy ddylanwadu
  4. Yn gallu dadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd, datrys problemau a gwneud penderfyniadau da.
  5. Yn gallu ysgrifennu dogfennau clir a chryno
  6. Yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf