Uwch swyddog, Rheoleiddio Gwastraff
Dyddiad cau: 27 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 31st Mawrth 2026
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203759
Y rôl
Mae 'Strategaeth Mwy nag Ailgylchu' Llywodraeth Cymru yn gynllun i wireddu'r economi gylchol yng Nghymru, ac mae’n tynnu sylw at y ffaith nad yw ein llwybr tuag at economi ddi-wastraff, carbon isel erioed wedi bod mor bwysig. Felly, mae'n gyfnod cyffrous i reoleiddio gwastraff!
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd ym mis Ebrill 2024 sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle yng Nghymru wahanu deunyddiau ailgylchadwy yn yr un ffordd ag y mae’r rhan fwyaf o ddeiliaid tai yn ei wneud ar hyn o bryd.
Mae’r rôl hon yn hanfodol i helpu CNC i reoleiddio’r gofynion newydd. Drwy ddefnyddio ein Hegwyddorion Rheoleiddio, byddwch yn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio, yn ymgymryd â chamau gorfodi cymesur ac yn cyflawni nifer o fuddion diriaethol yn sgil ein hymyriadau rheoleiddiol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Kate Jones ar kate.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae’r rôl ar hyn o bryd yn rhan o’r tîm Lleoliadau Rheoleiddio Gwastraff a sefydlwyd i ymateb i’r rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024. Ar hyn o bryd rydym yn rhan o grŵp Polisi a Dull Rheoleiddio'r Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu ond byddwn yn symud i'r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau yn 25/26 i grŵp Gweithrediadau Unwaith i Gymru sydd newydd gael ei ffurfio. Mae'r grŵp newydd yn cael ei ddatblygu mewn ymateb i'r dyletswyddau rheoleiddio newydd sy'n deillio o ddiwygiad deddfwriaethol helaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwastraff.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Gweithredu fel mentor a chynghorydd technegol i aelodau'r tîm.
- Darparu arweiniad arbenigol mewn perthynas â chydymffurfio â safonau amgylcheddol a rheoleiddio.
- Cymryd camau priodol at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Nodi a gweithredu ffyrdd newydd o weithio i wella effeithlonrwydd wrth gyflawni canlyniadau.
- Nodi cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gyda phartïon mewnol ac allanol.
- Datblygu cynlluniau gwaith ar gyfer aelodau tîm sy'n adlewyrchu blaenoriaethau ehangach. (e.e. Waste Steer)
- Cydlynu datblygiad technegol aelodau'r tîm
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau (Ar gyfer rolau gyda chysylltiad union neu gysylltiad cryf yn unig)
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o naill ai weithio mewn diwydiant a reoleiddir neu fel rheoleiddiwr.
- Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan egluro materion ac ennyn cefnogaeth trwy ddylanwadu.
- Cymhwyster cydnabyddedig, gradd neu brofiad cyfatebol
Gofynion y Gymraeg
- · Hanfodol: A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.