Rheolwr Rhaglen, Dalgylch Arddangos Afon Teifi
Dyddiad cau: 1 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 8: £52,268 - £57,726 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Dalgylch Arddangos Afon Teifi, Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203892
Y rôl
Gan weithio ar draws CNC a gyda dros ugain o bartneriaid rhaglen, bydd deiliad y swydd yn arwain datblygiad a gweithrediad Prosiect Dalgylch Afon Teifi, sef rhaglen adfer amgylcheddol ac ymgysylltu arloesol gwerth miliynau o bunnoedd. Rhaid i'r rheolwr rhaglen ddangos sgiliau arweinyddiaeth a bydd yn gyfrifol am gydlynu datblygiad a chyflawni nifer o brosiectau dalgylch tymor byr, canolig a hirdymor. Bydd hyn yn cynnwys cyfrifoldebau rheoli llinell a rheoli pobl drwy ddulliau rhithiol, sicrhau cyllid, gofynion ariannol ac archwilio, rheoli risg, monitro a gwerthuso.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno wrth i chi gael eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jon Goldsworthy ar Jon.Goldsworthy@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain gweithrediad Rhaglen Dalgylch Arddangos Teifi gan gynnwys cyflawni'r prosiectau dalgylch tymor byr, canolig a hirdymor, gan weithio'n agos gyda chydweithwyr perthnasol o fewn CNC, a phartneriaid prosiect a chyflawni.
- Sicrhau bod llywodraethu'r rhaglen yn briodol yn unol â phroses a gweithdrefnau Swyddfa Rheoli Portffolio CNC ac â methodoleg PRINCE2 neu Fethodoleg Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus (MSP).
- Darparu gwasanaeth rheoli rhaglenni a phrosiectau arbenigol, proffesiynol i reoli rhaglenni a phrosiectau amlddisgyblaethol, uchel eu gwerth gydag arbenigedd penodol mewn prosiectau adfer amgylcheddol a threftadaeth.
- Rheoli tîm rhaglen ganolog sy'n gyfrifol am reoli ariannol, cyfathrebu, cydlynu ymgysylltiad â phobl, adrodd ar gynnydd, a rheoli a chefnogi staff pellach (hyd at 20) yn rhithwir ar draws timau eraill CNC ac a gyflogir gan bartneriaid rhaglen.
- Cydweithio â sectorau allweddol, rhanddeiliaid ac uwch gydweithwyr allanol, Gweinidogion, gwleidyddion a swyddogion (ar lefel Cymru a'r DU) a dylanwadu arnynt i sicrhau bod Rhaglen Dalgylch Arddangos Teifi yn cyflawni ei hamcanion ac yn goresgyn unrhyw rwystrau.
- Sicrhau bod rheolaeth ariannol, gan gynnwys strategaethau caffael ar gyfer gwasanaethau allanol, yn cydymffurfio â pholisi 'Rheoli ein harian' CNC.
- Darparu eiriolaeth gref ac effeithiol ar gyfer gwella ansawdd dŵr, adfer afonydd a manteision cymdeithasol ledled Cymru, gan gefnogi’r gwaith o gyflawni'r strategaeth ymgysylltu â phobl a'r gofynion ariannu.
- Gweithredu fel prif bwynt cyswllt rhwng swyddogion monitro a chynghorwyr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, cyllidwyr allanol eraill, swyddogion Llywodraeth Cymru a grwpiau llywodraethu CNC.
- Cofnodi’r hyn a ddysgwyd o'r rhaglen arloesol hon fel y gellir ei ehangu gan ddod â manteision lluosog i systemau afonydd eraill yng Nghymru, y DU a thu hwnt.
- Dirprwyo ar gyfer cydweithwyr Rheoli pan fo angen.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud ag ansawdd dŵr, adfer afonydd ac arferion rheoli tir; Gyrwyr polisi Cymru, Llywodraeth y DU; a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru.
- Gwybodaeth fanwl o gamau gweithredu ac ymyriadau adfer amgylcheddol, gan gynnwys atebion allweddol sy'n seiliedig ar natur.
- Cymhwyster proffesiynol/technegol cydnabyddedig megis Prince 2 neu brofiad perthnasol cyfatebol mewn rheoli prosiect.
- Profiad o reoli rhaglenni a phrosiectau, gan gynnwys rheoli cyllideb, rheoli staff, rhaglennu gwaith, a phrofiad o ariannu treftadaeth naturiol.
- Profiad o arwain, rheoli a chefnogi timau prosiect amlddisgyblaethol mewn prosiectau/rhaglenni cymhleth.
- Profiad o gyd-gynhyrchu, cyd-gyflwyno, dulliau ymgynghori cyhoeddus, negodi ac ymgysylltu â phobl.
- Sgiliau gweithio a chyfathrebu effeithiol fel tîm gyda'r gallu i ysgrifennu adroddiadau technegol clir, cryno.
- Profiad o ddatblygu ceisiadau am gyllid gan gynnwys gwybodaeth am asesiad Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF)
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
- Dymunol: Lefel C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.