Gwneud cais am swydd
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am swydd gyda ni.
Gallwch wneud cais yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi ddweud y canlynol wrthym:
- enw'r swydd
- cyfeirnod y swydd ar yr hysbyseb
- lefel eich Cymraeg llafar ac ysgrifenedig
Dogfennau y bydd angen i chi eu lanlwytho
- yr hyn y byddwch yn ei gynnig i'r rôl mewn llai na 1500 o eiriau – defnyddiwch y dull STAR
- CV diweddar neu ddogfen yn cynnwys eich hanes gwaith (dewisol)
Peidiwch â chynnwys eich enw yn y dogfennau y byddwch yn eu huwchlwytho fel y gallwn eu hadolygu'n ddienw ac yn ddiduedd.
Diweddarwyd ddiwethaf 11 Maw 2025