Defnyddio’r Dull STAR wrth wneud cais am swydd

Defnyddiwch y dull STAR i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad a restrir yn rhan 'Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau' yr hysbyseb swydd.

Mae'r dull STAR yn ffordd o drefnu eich enghreifftiau i'ch helpu i esbonio’r hyn ydych chi wedi'i wneud a beth ydych chi wedi'i ddysgu:

  • Sefyllfa - Eglurwch y cyd-destun. Beth oedd yn digwydd ar y pryd?
  • Tasg - Disgrifiwch y nod neu'r cyfrifoldeb oedd gennych yn y sefyllfa honno.
  • Gweithredu - Canolbwyntiwch ar yr hyn a wnaethoch chi. Byddwch yn benodol ynglŷn â'ch rôl a'ch penderfyniadau.
  • Canlyniad - Dangoswch beth ddigwyddodd o ganlyniad i'ch gweithredoedd. Rhannwch unrhyw ganlyniadau, cyflawniadau neu'r hyn y gwnaethoch ei ddysgu.

Sut i ddefnyddio STAR

Gall dilyn STAR yn rhy lythrennol arwain at atebion generig neu rai sydd wedi cael eu sgriptio'n ormodol. Yn lle hynny, defnyddiwch STAR fel canllaw hyblyg i helpu i lunio eich ymateb. Dyma sut i'w ddefnyddio'n effeithiol:

  1. Dewiswch enghreifftiau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen yn y rôl
  2. Canolbwyntiwch ar yr hyn y gwnaethoch chi’n bersonol ei gyfrannu, nid dim ond yr hyn a wnaeth y tîm
  3. Adroddwch y stori mewn ffordd naturiol yn hytrach na labelu pob adran fel 'sefyllfa' neu 'tasg'
  4. Cadwch eich enghreifftiau'n glir a chadw’r ffocws. Anelwch at gael ychydig o baragraffau byr, nid tudalen gyfan
  5. Gallwch ddefnyddio enghreifftiau o waith â thâl, rolau gwirfoddol, addysg neu brofiadau personol - cyn belled â'u bod yn berthnasol ac yn dangos yn glir beth y gallwch ei wneud

Enghraifft : Dywedwch wrthym am amser pan wnaethoch chi ddangos sgiliau arweinyddiaeth

Yn fy rôl marchnata digidol flaenorol, roedd niferoedd y rhai oedd yn cofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau yn isel iawn ac nid oeddent yn cael llawer o sylw gan y gynulleidfa. Gofynnwyd i mi ddod o hyd i ffordd o gynyddu diddordeb ac ehangu ein sylfaen tanysgrifwyr. Fe wnes i ddod â'r tîm marchnata at ei gilydd i archwilio syniadau ffres. Arweiniais y gwaith o gynllunio a lansio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol newydd a oedd yn canolbwyntio ar gynnwys unigryw i danysgrifwyr. O ganlyniad, cynyddodd y nifer oedd yn cofrestru i dderbyn y cylchlythyr 25% dros gyfnod o dri mis. Arweiniodd llwyddiant y dull at fabwysiadu'r model ymgyrch gan adrannau eraill.

Diweddarwyd ddiwethaf