Ymchwil arloesol yn taflu goleuni ar ymddygiad eogiaid ifanc

Mae prosiect telemetreg gleisiaid Afon Wysg Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn taflu goleuni ar wybodaeth newydd am ymddygiad gleisiaid (eogiaid ifanc) a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.
Mae Oliver Brown yn arwain prosiect y gleisiaid, ac yn y blog hwn – mewn cydweithrediad â phrosiect Pedair Afon LIFE CNC – mae’n trafod yr ymchwil a’r ymdrechion cadwraeth sy’n cael eu gwneud i’w helpu.
Eogiaid yr Iwerydd yn dirywio
Yn 2023, dangosodd ffigurau fod Cymru wedi cofnodi’r dalfeydd isaf o ran eogiaid yn ei hafonydd (252 o rwydi, 848 o wialen) ers i gofnodion cyson ddechrau yn y 1970au.*
Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 4% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yn fwy pryderus, mae’n dangos gostyngiad o ryw 70% dros y 10 mlynedd diwethaf.
Mae pob un o’r 23 prif afon ag eogiaid yng Nghymru bellach wedi’u categoreiddio fel rhai “mewn perygl”. Mae’r dirywiad hwn i’w weld ar Afon Wysg, a fu unwaith yn un o’r afonydd gorau am eogiaid yng Nghymru.
Y dyddiau hyn, mae nifer yr eogiaid sy’n cael eu dal gan genweirwyr yn Afon Wysg ar ei hisaf erioed. Yn 2023 dim ond 51 eog a ddaliwyd gan wialen a gofnodwyd.
Yn 2023, rhestrwyd eogiaid yr Iwerydd fel rhywogaeth mewn perygl ar restr goch byd-eang yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o ganlyniad i ostyngiad rhwng 30% a 50% ym mhoblogaethau eogiaid yr Iwerydd ym Mhrydain ers 2006.
O ystyried dyfodol ansicr eogiaid yr Iwerydd ledled Prydain, ac yn benodol y boblogaeth o eogiaid Wysg sy’n gostwng, mae’n hanfodol bod cymaint o’r gleisiaid (eogiaid ifanc) â phosibl yn cyrraedd yn ddiogel i lawr yr afon ac i’r amgylchedd morol.
Heriau sy’n wynebu eogiaid yn Afon Wysg
Gleisiad yw eog ifanc yn ystod y cam hwnnw yn ei fywyd pan fydd yn mudo i’r môr. Mae mynediad rhydd a di-rwystr yn hanfodol ar gyfer y daith hon.
Fodd bynnag, mae prif gefnen Afon Wysg yn cynnwys nifer o strwythurau, fel coredau a sylfeini pontydd, sydd â’r potensial i oedi mudo gleisiaid i lawr yr afon.
Yn ogystal ag arafu’r daith fudo, gall rhwystrau gynyddu’r tebygolrwydd o ysglyfaethu hefyd.
Gall hyn ddigwydd wrth i leisiaid mudol dyrru wrth iddynt aros i basio strwythur.
Gallai dŵr sy’n sefyll uwchben sylfeini pontydd neu goredau hefyd ddarparu mannau agored lle bydd ysglyfaethwyr yn chwilio am fwyd, gan y gall yr ardaloedd hyn fod yn wahanol iawn i rannau mwy naturiol eraill o sianel yr afon.
Yn aml, gall rhwystrau orfodi pysgod i nofio dros ymyl neu riniog bas, gan ddarparu man gwylio delfrydol i adar ysglyfaethu’r pysgod.
Mae ymchwil yn awgrymu bod ‘cyfle allweddol’ ar gyfer gleisiaid sy’n mudo, a byddai unrhyw oedi yn ystod yr amser hollbwysig hwn yn cael effaith fawr ar fudo llwyddiannus.
Mae’r ‘cyfle allweddol’ hwn yn seiliedig ar sawl sbardun megis newidiadau ffisiolegol sy’n caniatáu i’r gleisiaid wneud y trawsnewidiad rhwng dŵr croyw i ddŵr hallt, ac amseriadau sy’n sicrhau bod amodau yn yr afon, yr aber a’r ardaloedd arfordirol yn cyd-fynd i wneud y gorau o oroesiad y gleisiaid.
Ymchwil newydd yn helpu i daflu goleuni ar ymddygiad gleisiaid
O ganol mis Mawrth eleni roedd swyddogion CNC allan eto yn dal ac yn tagio gleisiaid ar rannau uchaf Afon Wysg fel rhan o brosiect telemetreg gleisiaid Afon Wysg.
Ar ôl 13 noson (mae gleisiaid yn fwy tebygol o fudo yn y nos) daliwyd y nifer gofynnol o leisiaid, a thagiwyd y pysgod olaf yn oriau mân y bore ar 10 Ebrill. Oherwydd y llif isel, daliwyd y pysgod mewn rhwydi ‘fyke’ a oedd wedi’u hymestyn ar draws yr afon. Mewnblannwyd tag acwstig bach yn y pysgod ac, ar ôl ymadfer, cawsant eu rhyddhau i barhau â’u taith.
Nid yw pysgod yn aml yn ymddwyn fel y disgwylir, felly mae’n hanfodol bod gwaith yn canolbwyntio ar rwystrau sydd mewn gwirionedd yn cael effaith negyddol.
Mae tagio acwstig yn ein helpu i olrhain symudiadau’r gleisiaid yn ystod y cyfnod mudo i’r môr wrth iddynt basio cyfres o ddyfeisiau gwrando tanddwr sydd wedi’u lleoli ar hyd yr afon. Mae hyn yn caniatáu i ni weld ble maen nhw ar unrhyw adeg benodol, yn ogystal â ble gallen nhw fod yn wynebu marwolaeth ac oedi.
Mae data o 2021 a 2022 (gweler delwedd 1 isod) yn tynnu sylw’n benodol at y ffaith bod cored Aberhonddu ar Afon Wysg yn achosi cynnydd mewn marwolaethau ymhlith gleisiaid sy’n mudo i lawr yr afon o dan rai amodau.
Delwedd 1: Mae’r graff yn dangos data o 2021–2022 sy’n nodi ardaloedd o golli tagiau / marwolaethau ar afon Wysg.
Drwy ddefnyddio technegau olrhain graddfa fanwl, mae’r prosiect yn dangos sut mae pysgod yn llywio trwy’r gored ar hyn o bryd.
Mae nifer fawr o ddyfeisiau gwrando wedi’u gosod yn yr ardal uwchlaw’r gored (gweler delwedd 2 isod). Dyfeisiau gwrando yw R1 i R22.
Delwedd 2: R1 i R22 yw lleoliad y dyfeisiau gwrando yng nghored Aberhonddu.
Drwy ddefnyddio model cyflymder sain a chyfrifiadau pellter / amser, gellir cynllunio’r safleoedd ac olrhain symudiad pysgod unigol yn hytrach na dim ond edrych ar bresenoldeb neu absenoldeb. Mae delwedd 3 isod yn dangos llwybrau nofio saith gleisiad wrth iddynt nofio uwchlaw cored Aberhonddu yn 2024.
Delwedd 3: Llwybrau nofio saith gleisiad yn nofio uwchlaw cored Aberhonddu yn 2024.
Ceisiwyd olrhain graddfa fanwl gyntaf yn 2024, ond roedd y nifer isel o gleisiaid a ddaliwyd, a lefelau dŵr uchel, yn golygu y gallai’r pysgod basio dros grib y gored yn hawdd, felly cyfyngedig oedd gwerth y data.
Fodd bynnag, profodd y cysyniad i fod yn gadarn gyda’r dechnoleg yn gweithio’n dda, hyd yn oed mewn amodau llai na delfrydol.
Gyda’r llifau isel a welwyd eleni (2025), a thrwy ddefnyddio data o flynyddoedd blaenorol, fel yn nelwedd 3 uchod, mae’r prosiect yn gobeithio cael cipolwg defnyddiol ar sut mae pysgod yn llywio’r gored, ac a ydynt yn defnyddio unrhyw un o’r ysgolion pysgod presennol.
Yn y gorffennol, mae’r prosiect wedi casglu data mewn tarddellau gwlyb a sych, ac wedi dangos y gall pysgod y gosodwyd tagiau arnynt wynebu oedi sylweddol o ganlyniad i rai adeileddau. Mae’r sefyllfa hon yn cael ei gwaethygu ymhellach gan lifau isel mewn blynyddoedd sych.
Mae lefelau afonydd yn cael effaith enfawr ar gyflymder pasio heibio a chyfradd goroesi’r pysgod. Mae data olrhain wedi dangos mai dim ond 24% o’r gleisiaid y gosodwyd tagiau arnynt sy’n cyrraedd y môr yn llwyddiannus mewn blwyddyn sych, gan godi i 67% mewn blwyddyn wlyb.
Dangosodd y canlyniadau hefyd nid yn unig bod nifer y pysgod sy’n cyrraedd y môr yn is mewn blwyddyn sych, ond eu bod yn cymryd mwy o amser i adael yr afon – bum wythnos yn hwy mewn rhai achosion. Roedd rhai pysgod yn treulio dros fis yn sownd uwchlaw cored Aberhonddu.
Lawrlwythiadau data ar gyfer 2025
Bydd lawrlwythiadau data ar gyfer 2025 wedi’u cwblhau ymhen ychydig wythnosau, gyda dadansoddiad yn digwydd dros yr hydref. Fodd bynnag, mae rhywfaint o ddata rhagarweiniol ar gyfer 2025 ar gael o ddyfeisiau gwrando dethol.
Mae hyn yn dangos i ni bod o leiaf 71 o’r 76 o leisiaid y gosodwyd tagiau arnynt wedi cyrraedd 4 cilometr i lawr yr afon o’r safle tagio ym Mhen-pont i’r ail ddyfais wrando yn Llansbyddyd, sydd 2 gilometr uwchlaw cored Aberhonddu.
Mae’r ddelwedd isod yn dangos gleisiaid unigol a gynrychiolir gan sgwâr lliw gyda’r amser y cawsant eu canfod yng ngorsaf Llansbyddyd ar yr echelin waelod (echelin X).
Gellir gweld nifer fechan o bysgod yn symud i lawr ar ôl cael eu tagio a’u rhyddhau yn ôl i’r afon, gydag ychydig mwy o bysgod yn dod i lawr heibio i orsaf Llansbyddyd mewn clwstwr ar 16 Ebrill wedi iddynt wneud defnydd da o’r glawiad sylweddol cyntaf a’r cynnydd dilynol yn lefelau’r dŵr.
Delwedd 4 uchod: Mae’r graff yn dangos lle y canfuwyd tagiau gleisiad yng ngorsaf Llansbyddyd yn 2025.
Help llaw i’r gleisiaid
Mae’r prosiect a’i ymchwil hanfodol wedi darparu tystiolaeth i gefnogi gwelliannau sy’n digwydd eleni ar Afon Wysg fel rhan o brosiect Pedair Afon LIFE.
Mae gwaith i wella taith gleisiad dros y gored wedi’i gynllunio ar gyfer mis Gorffennaf eleni. Bydd ysgol newydd ar gyfer gleisiaid yn cael ei gosod, gan greu llwybr tramwy (neu sianel) yn y gored ar gyfer gleisiaid sy’n mudo i lawr yr afon.
Rhan bwysig o’r astudiaeth hon fydd defnyddio’r un fethodoleg olrhain ar raddfa fanwl ar ôl i’r ysgol i leisiaid gael ei hadeiladu, i weld a ydyw gleisiaid yn defnyddio’r ysgol newydd a sut y byddant yn gwneud hynny.
Drwy ein hymchwil rydym yn dod yn fwyfwy ymwybodol o golledion gleisiaid yn yr amgylchedd dŵr croyw. Gall dylanwad llif isel a strwythurau artiffisial gynllwynio i gynyddu lefelau ysglyfaethu a cholli gleisiaid.
Mae tystiolaeth o’r math hwn yn allweddol i wneud y penderfyniadau rheoli cywir yng ngoleuni’r gofyniad cadwraeth presennol ar gyfer eogiaid yr Iwerydd. Hoffai’r prosiect ddiolch i’r holl dirfeddianwyr, clybiau pysgota a rhanddeiliaid eraill sydd wedi bod yn rhan o’r ymchwil hon ac wedi’i chefnogi, gan na fyddai’r gwaith hwn wedi bod yn bosibl hebddynt.
Mae prosiect telemetreg gleisiaid Afon Wysg yn rhan o gynllun gweithredu ar gyfer eogiaid a brithyllod môr gan CNC, sy’n anelu at ddeall y llu o ffactorau sy’n cyfrannu at y dirywiad yn y pysgodfeydd hyn a mynd i’r afael â hwy. Gwyliwch fideo o 2022 am y gwaith yma.
Ariennir prosiect Pedair Afon LIFE gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, gallwch chi ein dilyn ni ar Facebook, X (Twitter gynt) ac Instagram, neu gallwch danysgrifio i’n cylchlythyr yma.