Dychwelyd clogfeini i Afon Gwy
Mae Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf yn gweithio i adfer iechyd a gwydnwch y rhan uchaf o Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwy (o’r tarddle hyd at y Gelli Gandryll).
Yn y blaenau yn Llangurig, rydym yn adfer rhan bwysig ar hyd 7 km o afon Gwy drwy ailgyflwyno clogfeini i rannau o’r afon ble cawsant eu tynnu yn y gorffennol.
Yn y blog hwn, mae’r Rheolwyr Prosiect, Brendan a Harri, yn esbonio pam rydyn ni’n rhoi clogfeini yn ôl yn afon Gwy, pa wahaniaeth gallant ei wneud i’r afon a’i bywyd gwyllt, a sut mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â gweithgareddau adfer ehangach o amgylch Llangurig.
Pam rydyn ni’n dychwelyd clogfeini i afon Gwy?
Mae clogfeini yn nodwedd naturiol o afonydd yr ucheldir fel Gwy Uchaf. Dros amser, tynnwyd llawer o’r afon, a arweiniodd at ddiffyg amrywiaeth yn y llif mewn rhai mannau a llai o’r nodweddion naturiol sy’n cynnig cynefin i bysgod a mathau eraill o fywyd gwyllt.

Llun: Rhan o afon Gwy ble mae clogfeini wedi’u tynnu dros genedlaethau
Yn Llangurig, ein nod yw adfer rhywfaint o’r amrywiaeth naturiol honno sy’n arwain at afon fwy amrywiol ac iach.
Cyn i unrhyw waith ddechrau, fe dreuliom ddwy flynedd yn cynnal arolygon sylfaenol ac yn adolygu data monitro er mwyn datblygu ein dealltwriaeth o’r afon ar ei ffurf bresennol. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar bysgod, infertebratau’r dŵr a nodweddion ffisegol sianel yr afon.
Mae’r wybodaeth a gasglwyd wedi ein helpu i nodi ble gallai ailgyflwyno clogfeini fod o’r budd mwyaf.
Sut mae clogfeini yn newid afon?
Pan fydd clogfaen yn gorwedd mewn sianel afon, ni all dŵr lifo yn syth ar hyd gwely’r afon mwyach. Mae’n rhaid iddo symud o gwmpas a thros y clogfaen, ac mae hynny’n amrywio cyflymder y llif, y dyfnder ac amodau’r dŵr.
Pan fydd nifer o glogfeini yn cael eu gosod mewn rhan o afon, mae’r effeithiau hyn yn rhyngweithio i greu sianel fwy amrywiol.
Yn Llangurig, mae’r clogfeini wedi’u gosod mewn patrwm afreolaidd sy’n efelychu natur, i greu amrywiaeth o lif cyflymach ac arafach, pyllau, rifflau ac ardaloedd o ddŵr tawelach.
Mae’r amrywiaeth ffisegol hon yn bwysig am fod angen gwahanol amodau ar wahanol rywogaethau a chyfnodau bywyd.

Llun: Yr un rhan o afon Gwy ar ôl ailgyflwyno clogfeini, sydd wedi creu mwy o amrywiaeth yn y llif, yn nyfnder y dŵr ac yn y cynefin i bysgod ac infertebratau’r dŵr
Creu cynefin gwell i bysgod
Un o’r prif resymau dros y gwaith yw gwella’r cynefin i eogiaid (rhywogaeth ddynodedig yn yr Ardal Gadwraeth Arbennig) a brithyllod.
Mae ein gwaith monitro wedi canfod silod eog toreithiog yn yr ardal, ond cymharol ychydig ydy’r niferoedd sy’n goroesi i’r cam nesaf i fod yn bariaid (1-4 blwydd oed). Gall diffyg gorchudd gan glogfeini a diffyg amrywiaeth o gynefinoedd fod yn cyfyngu ar eu gallu i fwydo, llochesu a thyfu.
Mae clogfeini yn creu ardaloedd o loches rhag ceryntau cryf ac ysglyfaethwyr, yn ogystal â phocedi dyfnach o ddŵr a gwahanol gyfleoedd bwydo.
Maent hefyd yn cynyddu amrywiaeth ffisegol gwely’r afon, gan greu mwy o amrywiaeth o gynefinoedd i infertebratau’r dŵr. Mae’r pryfed hyn yn rhan bwysig o’r we fwyd ac yn darparu bwyd i bysgod a mathau eraill o fywyd gwyllt.
Drwy ddychwelyd clogfeini i’r afon, rydym yn adfer peth o’r strwythur naturiol a’r cymhlethdod sy’n gwneud i afon iach weithredu fel ecosystem fyw.

Llun: Gwaith yn mynd rhagddo – contractwyr yn gosod clogfeini yn y sianel
Sut mae hyn yn cyd-fynd â’r gwaith ehangach yn Llangurig?
Mae’r gwaith clogfeini yn rhan o raglen lawer ehangach o adfer sy’n digwydd o amgylch Llangurig.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ar hyd y rhan hon o afon Gwy i gyflawni mesurau’n cynnwys ffensys ar hyd glannau’r afon, lleiniau clustogi a phlannu coed.
Mae’r mesurau hyn yn helpu i ddiogelu glannau’r afon, lleihau faint o bridd a llygryddion sy’n mynd i mewn i’r afon, a darparu cysgod ar y cwrs dŵr yn y dyfodol. Gyda’i gilydd, maent yn mynd i’r afael â phwysau o’r tir cyfagos yn ogystal â’r rhai o fewn yr afon ei hun.
Gerllaw yng Nghoedwig Tarenig, rydym hefyd wedi bod yn gwneud gwaith arafu’r llif gan ddefnyddio toriadau pren o’r goedwig mewn draeniau a ffosydd. Mae hyn yn helpu i arafu symudiad dŵr drwy’r dirwedd mewn cyfnodau o law trwm.
Mae edrych ar y dalgylch cyfan yn bwysig am fod iechyd afon yn cael ei ddylanwadu gan bopeth sy’n digwydd o’i chwmpas. Drwy gyfuno gwaith yn yr afon â mesurau ar ffermydd ac ar draws y dirwedd ehangach, gallwn fynd i’r afael â gwahanol bwysau ac adeiladu system afon fwy gwydn.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Gan ddal ati gyda’r gwaith monitro, byddwn yn edrych ar newidiadau ym mhoblogaethau pysgod, infertebratau’r dŵr a nodweddion ffisegol yr afon, a fydd yn ein galluogi i gymharu data cyn ac ar ôl y gwaith.
Mae’r gwaith monitro hwn yn arbennig o bwysig er mwyn deall a yw’r cynefin ar ôl ei adfer yn helpu mwy o eogiaid ifanc i oroesi a datblygu’n bariaid.
Mae adfer afon yn broses hirdymor, ac ni fyddwn yn gweld y manteision llawn dros nos. Ond drwy gyfuno gwaith monitro manwl â gweithredu ymarferol, gallwn helpu afon Gwy i adfer rhywfaint o’r cymhlethdod naturiol a gollwyd dros amser.
Dim ond un rhan o’r adferiad hwnnw yw’r clogfeini a’n gwaith ehangach gyda ffermwyr, tirfeddianwyr a phartneriaid i greu afon Gwy uchaf iachach a mwy gwydn ar gyfer y dyfodol.
--
Mae Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf wedi’i ariannu gan Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, rhan o’r Rhaglen Cyfalaf Dŵr, i adfer cyflwr rhan uchaf Afon Gwy.
Nod cyffredinol y prosiect hwn yw gwarchod rhywogaethau a gwella cynefinoedd drwy fynd i’r afael â nifer o wahanol ffactorau sy’n effeithio ar yr afon.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, dilynwch ni ar Facebook, X (Twitter gynt) ac Instagram neu gallwch ddarllen cylchlythyrau ein prosiect yma.
I gael gwybod mwy am y prosiect, anfonwch e-bost atom yn AdferGwyUchaf@cyfoethnaturiol.cymru