Blog tywydd sych 2026

Diweddariadau am y tywydd sych yn 2026

16 Gorffennaf 2026

Cyhoeddi statws ‘cyfod hir o dywydd sych’ ar gyfer gogledd a de-ddwyrain Cymru.

Ein statws

Ar hyn o bryd mae Cymru'n profi cyfnod hir o dywydd sych sy'n cael ei waethygu gan donnau gwres ar draws rhannau o Gymru. O ganlyniad, rydym wedi penderfynu symud dalgylchoedd yng Ngogledd Cymru, Hafren Uchaf a De-ddwyrain Cymru o statws 'Normal' i 'Gyfnod Hir o Dywydd Sych'.

Mae 'Cyfnod Hir o Dywydd Sych' yn golygu bod dangosyddion hydrolegol yn dangos llif isel am gyfnod estynedig mewn afonydd, gostyngiad o ran lefelau dŵr daear a llai o law ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Mae dangosyddion eraill yn dangos llai o leithder yn y pridd, mwy o adroddiadau am effeithiau ar ecosystemau, tir, cyflenwad dŵr a sectorau eraill. Mae'r penderfyniad i newid i'r statws hwn ar draws rhannau o Gymru yn seiliedig ar gyrraedd y rhan fwyaf o'r dangosyddion hyn a phryderon sy'n dod i'r amlwg ynghylch yr amgylchedd a rheoli tir. 

Mae ein penderfyniad wedi cael ei rannu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, dan gadeiryddiaeth Llywodraeth Cymru ac sy'n cynnwys uwch wneuthurwyr penderfyniadau o CNC, y Swyddfa Dywydd, cwmnïau dŵr a phartneriaid eraill.

Yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan y newid o ran statws heddiw yng Nghymru yw:

  • Dyfrdwy (Cymru)
  • Clwyd
  • Hafren Uchaf
  • Gogledd Gwynedd (Conwy, Ynys Môn, Arfon, Dwyfor)
  • De Gwynedd (Meirionnydd)
  • Gwy (Cymru)
  • Wysg
  • Y Cymoedd (Taf, Ebwy, Rhymni, Elái)
  • Bro Morgannwg (Dawan)

Rydym yn ymgysylltu’n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch y dalgylchoedd trawsffiniol.  Mae'r sefyllfa ddiweddaraf i'w gweld ar wefan gov.uk.

Sefyllfa o ran Dŵr

Yn ôl y sefyllfa ar 16 Gorffennaf 2026, prin iawn y mae wedi bwrw glaw os o gwbl ym mis Gorffennaf hyd yn hyn ar draws dalgylchoedd Cymru, gyda dim ond 0-10% o Gyfartaledd Hirdymor (LTA) Gorffennaf (1981-2010). Mae hyn yn dilyn cyfnod o dri mis sychach na'r cyfartaledd rhwng Ebrill a Mehefin 2026 lle'r oedd glawiad cronnus Cymru yn 86% o'r hyn a ddisgwylid ar gyfer yr adeg honno o'r flwyddyn.  Er bod rhannau o Gymru wedi derbyn glaw dros y tri mis diwethaf, derbyniodd rhai dalgylchoedd, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lawiad is na'r cyfartaledd.

Mae'r diffyg glawiad, wedi'i waethygu gan y tonnau gwres diweddar, wedi golygu bod y rhan fwyaf o afonydd ledled Cymru bellach yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn.  Mae rhai afonydd yn eithriadol o isel megis Clwyd, Alwen, Alun, Clywedog, Dyfi, Conwy, ac Afon Gwy.

Mae mesurau rheoleiddio afonydd yn weithredol i gefnogi llifoedd gan gynnwys ar afonydd Dyfrdwy, Hafren, Clwyd a Gwy.  Mae bron i hanner y llif yn rhan isaf Afon Gwy yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan ollyngiadau o Gronfa Ddŵr Elan, gan dynnu sylw at raddau’r gostyngiad o ran llif naturiol.  

Mae tymheredd yr afonydd wedi bod ar neu uwchlaw 20ºC, gan gynnwys afon Gwy ac afon Wysg sydd wedi cyrraedd uchafbwynt o dros 26ºC. Mae lefelau dŵr daear hefyd yn gostwng ledled Cymru, gyda rhai tyllau turio yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn.  Mae priddoedd yn sych ar hyn o bryd neu ymhell islaw capasiti caeau (COSMOS).

Pryderon

Rydym yn pryderu am y pwysau y mae diffyg glawiad sylweddol a thymheredd poeth wedi'i roi, ac y bydd yn parhau i'w roi, ar lefelau dŵr daear, afonydd, lles eogiaid, mudiad pysgod, bywyd gwyllt, tir y mae CNC yn ei reoli a'r amgylchedd naturiol ehangach ledled Cymru.

Rydym yn dechrau gweld/derbyn adroddiadau am welyau afonydd sych fel Dulas a Gallen yng Ngogledd Cymru, pysgod mewn trallod a physgod marw, tanau gwyllt eang a chyfyngiadau llif isel ar drwyddedau tynnu dŵr yn dod i rym.

Mae pryderon hefyd ynghylch safleoedd gwarchodedig fel corsydd, mawndiroedd, rhostiroedd a glaswelltiroedd sy'n gartref i lawer o rywogaethau. 

Mae effaith y gwres hefyd yn cael ei theimlo yng nghefn gwlad, gan arwain at gyhoeddi digwyddiad difrifol y penwythnos diwethaf yn dilyn nifer o danau gwyllt dinistriol yng ngogledd Cymru.

Ein hymateb a'n cyngor

Bydd ein timau sychder ledled Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd a byddant nawr yn dilyn y camau gweithredu 'Cyfnod Hir o Dywydd Sych’ o fewn ein cynllun sychder ar gyfer yr ardaloedd hyn o Gymru. Byddwn hefyd yn adolygu'r sefyllfa yn yr ardaloedd hyn ac mewn rhannau eraill o Gymru (De-orllewin) ac yn adrodd ar unrhyw newid statws yn unol â hynny.

Mae ein timau wedi cynyddu gwaith monitro a gwiriadau mewn lleoliadau pwysig a byddant yn ymateb i ddigwyddiadau ar lawr gwlad yn unol â'n gweithdrefnau. Nid oes angen ymweld â'r safle ar gyfer pob adroddiad. Rydyn ni’n defnyddio tystiolaeth, barn arbenigol a data i benderfynu ar y ffordd orau o ymateb.

Mae cyfyngiadau tynnu dŵr ar waith ledled Cymru yn unol â thrwyddedau. Mae cynlluniau rheoleiddio gan gynnwys afonydd Dyfrdwy a Gwy yn gweithredu yn unol â chytundebau gyda chwmnïau dŵr, CNC a rheoleiddwyr eraill. 

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd (i drafod dalgylchoedd a rennir), cwmnïau dŵr a phartneriaid eraill.

Rydym yn cynghori pysgodfeydd a physgotwyr i gymryd gofal arbennig wrth bysgota am eogiaid mewn tymereddau uchel, ac i stopio lle mae tymheredd y dŵr yn cyrraedd 20 gradd celsius.

Rydym yn darparu cefnogaeth i wasanaethau tân ac achub i fynd i'r afael â thanau gwyllt.  Os ydych chi’n gweld tân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.

Rydym yn annog ffermwyr i ddilyn y cyngor a ddarperir ar ein gwefan os oes ganddynt unrhyw bryderon yn ymwneud â thywydd sych. 

Lansiwyd 'Dewch i Arbed Dŵr' ledled Cymru a Lloegr – gyda chefnogaeth rheoleiddwyr a chwmnïau dŵr. Ewch i www.letssavewater.cymru am wybodaeth a chyngor ynghylch arbed dŵr.

Wrth fwynhau eich amser yn yr awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth 24/7 CNC ar 0300 065 3000.

Gweler ein cyngor ni a chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â mynd i mewn i ddŵr yr haf hwn.

Rhagolwg

Mae'r rhagolygon yn dangos y bydd y tywydd yn parhau i fod yn sych dros yr wythnos nesaf. Rydym yn arbennig o bryderus am yr amodau yn nalgylchoedd Clwyd, Dyfrdwy a Hafren Uchaf, heb unrhyw law nodedig a pharhaus byddai hyn yn arwain at y dalgylchoedd hyn yn cyrraedd statws sychder yn gyflymach na blynyddoedd blaenorol.  

Sut rydym yn diffinio sychder

Er bod gwahanol lefelau, graddfeydd a diffiniadau o sychder, nodweddir pob sychder gan brinder glawiad. Mae pob math o sychder yn wahanol gyda'r natur, yr amseriad a'r effeithiau'n amrywio yn ôl lleoliad a pha sectorau sy'n cael eu heffeithio. Rydym yn diffinio tri math o sychder (a all ddigwydd gyda'i gilydd):

  • Sychder amgylcheddol – llifoedd isel a lleithder pridd is yn effeithio ar amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau. Gall sychder o'r math hwn arwain at effeithiau hirdymor sylweddol os bydd yn parhau dros gyfnod estynedig.
  • Sychder amaethyddol – diffyg dŵr ar gael ar gyfer dyfrhau a llai o leithder yn y pridd yn effeithio ar gynnyrch (a / neu ansawdd) cnydau a lles da byw.
  • Cyflenwad dŵr – llai o ddŵr ar gael ar gyfer cyflenwad cyhoeddus oherwydd llif afonydd is, llai o ddŵr mewn cronfeydd dŵr neu ddŵr daear is.

Mae gan unrhyw gyfuniad o'r rhain hefyd y potensial i effeithio ar iechyd a lles pobl yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol ac economaidd.

Rhan o'n gwaith ni yw monitro'r sefyllfa hydrolegol ac ecolegol, monitro a rheoleiddio cwmnïau dŵr a chasglu gwybodaeth am effeithiau ehangach tywydd sych. Gan ddefnyddio hyn rydym yn dosbarthu cyfnodau o sychder yn bedwar cam:

  • Normal – Dangosyddion o fewn yr ystodau disgwyliedig ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, a all gynnwys cyfnodau byr o lif isel a llai o ddŵr ar gael.
  • Cyfnod hir o dywydd sych – Mae dangosyddion yn dangos cyfnodau hir o lif isel mewn afonydd a glawiad isel ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, lefelau lleithder is mewn pridd, mwy o adroddiadau o effeithiau ar ecosystemau, tir, cyflenwadau dŵr neu ar sectorau eraill.
  • Sychder – Cyfnod sylweddol o lefelau afonydd isel a phrinder glawiad. Effeithiau sylweddol ar ecosystemau a phwysau ar y sector amaethyddol. Straen uchel ar y system cyflenwi dŵr gyda chyfyngiadau difrifol o bosibl.
  • Adferiad ar ôl cyfnod hir o dywydd sych a/neu sychder – Dychwelyd i'r ystodau arferol ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y cyfnod hir o dywydd sych a/neu'r sychder blaenorol, efallai y bydd difrod amgylcheddol, allbwn amaethyddol llai neu gyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr o hyd.

Mae gan gwmnïau dŵr eu cynlluniau sychder eu hunain sydd ar gael i'r cyhoedd. Gall eu statws sychder amrywio hefyd.  Maent fel arfer yn defnyddio'r camau 'normal', 'sychder sy'n datblygu', 'sychder' a 'sychder difrifol' a byddant yn defnyddio eu trothwyon eu hunain i ddiffinio eu safle sy'n aml yn gysylltiedig â'u sefyllfa o ran cyflenwad dŵr. Gweler cynlluniau sychder cwmnïau dŵr am ragor o wybodaeth.

Beth ydym ni’n ei wneud?

Unwaith y bydd cyfnod hir o dywydd sych wedi'i ddatgan, bydd CNC yn cynyddu ei gamau gweithredu i helpu i liniaru'r effeithiau ar yr amgylchedd, tir, defnyddwyr dŵr a phobl. Mae'r camau gweithredu hyn yn cynnwys:

  • Ehangu ei waith monitro a chynyddu nifer y gwiriadau mewn lleoliadau pwysig.
  • Sicrhau bod cwmnïau dŵr yn dilyn eu cynlluniau sychder (unwaith y byddant yn cael eu rhoi ar waith) ac yn paratoi ar gyfer unrhyw fesurau ychwanegol yn ôl yr angen.
  • Sicrhau bod cynlluniau rheoleiddio yn gweithredu i gefnogi tynnu dŵr a'r amgylchedd.
  • Sicrhau bod tynwyr dŵr yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded, y mae llawer ohonynt yn cyfyngu ar faint y gellir ei dynnu yn ystod cyfnodau o lif isel.
  • Ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol a chymryd y camau gorfodi priodol yn ôl yr angen.
  • Darparu cyngor ac arweiniad megis cyngor ar dywydd sych i ffermwyr
  • Ymgysylltu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd (trawsffiniol) a phartneriaid eraill.

Os byddwn yn mynd i gyfnod o sychder, bydd ein camau gweithredu yn cael eu dwysáu eto ac yn cynnwys gweithgareddau fel ymateb i geisiadau am drwyddedau a gorchmynion sychder neu weithredu cyfyngiadau pellach ar ddefnyddwyr dŵr, fel chwistrellwyr dyrfhau. 

 

 

Archwilio mwy

Yn yr adran hon hefyd

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru