Monitro’r gwaith o adfer cyforgorsydd Cymru
Ar hyn o bryd mae Jennifer Williamson o Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn arwain gwaith sy’n mynd ati i fonitro’r dasg o adfer cyforgorsydd Cymru.
Yma, mae’n siarad am y gwaith a rhai o’r canfyddiadau hyd yn hyn.
Mae Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH), Arolwg Daearegol Prydain (BGS) a Phrifysgol Dwyrain Llundain yn gweithio gyda phrosiect cyforgorsydd Cymru LIFE dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i fonitro effeithiau’r gwaith adfer.
Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yw’r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd a’r rhaglen gyntaf o’i fath ar gyfer unrhyw gynefin mawndir yng Nghymru.
Nod y prosiect arloesol ac uchelgeisiol hwn yw adfer saith o’r enghreifftiau gorau o gyforgorsydd yng Nghymru. Bydd bron i bedair milltir sgwâr (mwy na 900 hectar) o gyforgorsydd yn cael eu hadfer i gyflwr gwell. Mae hyn yn cyfateb i 50% o’r cynefin hwn yng Nghymru a 5% yn y DU.
Mae cyforgorsydd yn esgor ar fanteision lu i’r amgylchedd, i fywyd gwyllt ac i bobl. Maen nhw’n gartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin, maen nhw’n gallu storio carbon o’r atmosffer, maen nhw’n gallu storio a phuro dŵr, a hefyd maen nhw’n cynnig cipolwg rhyfeddol ar ein hanes amgylcheddol.
Mewn partneriaeth â chymunedau lleol, tirfeddianwyr a chontractwyr, bydd y gwaith adfer yn cynnwys gwella cyflwr y mawndir, cael gwared â phrysgwydd a rhywogaethau goresgynnol, a chyflwyno pori ysgafn.
Mae gwaith adfer fel byndio (creu cloddiau isel o fawn), cau ffosydd a chlirio llystyfiant wrthi’n cael ei gynnal ar hyn o bryd. Bydd y gwaith monitro a wneir gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, Arolwg Daearegol Prydain a Phrifysgol Dwyrain Llundain yn ceisio canfod sut y bydd y gwaith yn effeithio ar gyflwr cyforgorsydd.
Gall corsydd anadlu
Gall mawndir iach “anadlu” wrth ymateb i newidiadau mewn argaeledd dŵr. Mae wyneb y mawn yn olrhain lefel y dŵr, felly pan fydd hi’n dywydd sych a phan fydd lefel y dŵr yn y mawn yn gostwng, bydd wyneb y mawn yn gostwng hefyd.
Yna, wrth iddi lawio ac wrth i lefel y dŵr godi eto, bydd wyneb y mawn yn codi hefyd. Golyga hyn fod wyneb y mawn, a’r llystyfiant sy’n tyfu arno, yn aros yn wlyb – hyd yn oed yn ystod cyfnodau o dywydd sych.
Os caiff mawndiroedd eu draenio a’u niweidio, bydd y mawn yn mynd yn fwy cywasgedig. Golyga hyn na all symud mor rhwydd wrth ymateb i newid yn lefel y dŵr, a gall y dŵr yn y mawndir ddraenio a diflannu.
Trwy olrhain y codi a’r gostwng yn wyneb y mawn, mae modd cael syniad da o’r modd y mae’r mawndir yn ymateb i newidiadau yn y ffordd y caiff ei reoli, a pha un a yw ei gyflwr yn gwella dros amser.
Tan rŵan, mae monitro’r modd y mae wyneb y mawn yn symud wedi dibynnu ar atebion technolegol drud er mwyn cael mesuriadau manwl gywir.
Ond mae cydweithwyr yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU wedi datblygu ateb rhad newydd ar gyfer monitro’r ffordd y mae wyneb y mawn yn symud trwy ddefnyddio camerâu treigl amser fel rhan o brosiect yn Indonesia a ariennir gan Asiantaeth Ofod y DU.
Y tro cyntaf i’r DU fonitro mawn yn symud
Mae prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE wedi ein galluogi i osod rhwydwaith o gamerâu sy’n monitro’n barhaus y ffordd y mae wyneb y mawn yn symud ar saith o wahanol safleoedd. Dyma’r tro cyntaf i fesuriadau o’r fath gael eu cymryd ar y raddfa hon yn y DU.
Ar ôl mynd ati i fonitro’r modd y mae wyneb y mawn yn symud yn nhair cyforgors Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron dros gyfnod o naw mis, gwelir bod wyneb y gors yn symud wrth ymateb i gyfnodau hir o dywydd sych, ac yn ystod mis Mai 2020 fe wnaeth wyneb y gors ostwng oddeutu 2cm. Mae hefyd yn symud ar ôl cyfnodau byr o law, gan ddangos bod wyneb y gors yn gymharol weithredol.
Bydd y camerâu’n parhau i fonitro’r mawnogydd drwy gydol y gwaith adfer. Bydd yn sylwi ar unrhyw effeithiau byrdymor a gaiff y gwaith rheoli ar y ffordd y bydd wyneb y mawn yn symud, a bydd hefyd yn sylwi ar newidiadau dros amser o ganlyniad i’r gwaith, sy’n anelu at ddod â lefel y dŵr yn nes at wyneb y mawn.
Yn ogystal â’r dull newydd a ddefnyddiwn i fonitro wyneb y mawn ar yr holl gyforgorsydd, rydym hefyd yn defnyddio dulliau monitro sydd wedi hen ennill eu plwyf er mwyn asesu gorchudd y llystyfiant cyn ac ar ôl y gwaith adfer.
Y nod yw y bydd y corsydd yn wlypach ac yn cynnig amodau gwell i blanhigion arbenigol fel mwsoglau migwyn. Rydym yn mesur lefel y dŵr ar draws y safleoedd trwy ddefnyddio cymysgedd o diwbiau mesur awtomatig a rhai a ddefnyddir â llaw, felly bydd modd inni fapio newidiadau yn lefel y dŵr ar draws y safleoedd.
Mesur faint o garbon a gaiff ei storio a’i ryddhau o’r cyforgorsydd
Yn olaf, aethom ati i osod tŵr fflwcs yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron er mwyn mesur faint o garbon deuocsid a gaiff ei storio yn y gors a’i ryddhau ohoni. Bydd hyn yn caniatáu inni weld a yw’r gors yn storio ynteu’n rhyddhau carbon.
Bydd data’r gwaith hwn yn cyfrannu at waith ehangach yn ymwneud ag allyriadau nwyon tŷ gwydr, a bydd yn helpu i lenwi’r bylchau presennol yn yr wybodaeth ynglŷn ag allyriadau o gyforgorsydd tir isel y DU.
Bu modd mynd i’r afael â’r gwaith hwn yn sgil arian gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), ac mae’n golygu bod y data sy’n deillio o’r gwaith yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn rhan o’r Rhwydwaith Tyrrau Fflwcs a gynhelir ledled y DU gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU.
Dysgwch fwy am Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU.