Pladur Pwerus newydd yn cyrraedd canolbarth Cymru
Wythnos diwethaf wnaeth y prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE derbyn peiriant cynaeafu gwlypdiroedd newydd a fydd yn helpu i adfer cyforgorsydd mwyaf pwysig Cymru.
Yn y blog yma mae Rhoswen Leonard, Swyddog Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yn sôn am y peiriant a sut fydd yn helpu’r prosiect dros y blynyddoedd nesaf...
Mae cyforgorsydd yn adnabyddus oherwydd eu siâp cromen. Maent yn ardaloedd o fawn sydd wedi tyfu dros 12,000 o flynyddoedd ac fe allan nhw fod mor ddwfn â 12 metr. Maent yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid prin, gan gynnwys gweirlöyn mawr y waun a’r planhigyn eiconig, andromeda’r gors.
Mae’r cynefin pwysig yma wedi dirywio dros y degawdau diwethaf wrth i blanhigion goresgynnol ymgartrefu yno. Ond bydd y peiriant
yma, sydd wedi ei adeiladu i bwrpas, yn torri’r gweiriau goresgynnol sy’n tagu planhigion brodorol yn yr ardaloedd hyn.
Mae glaswellt y bwla yn tra-arglwyddiaethu rhai rhannau o gyforgorsydd yn sgil draeniad blaenorol. Mae’n mygu’r rhywogaethau arbennig o blanhigion cors ac yn atal migwyn (mwsogl mawn) rhag tyfu.
Bydd y peiriant yn torri, yn trin ac yn rholio glaswellt y bwla i greu mwy o ardaloedd agored ble bydd gan fwsogl mawn ofod a golau i dyfu a ffynnu unwaith eto. Yn y pen draw bydd adfer y cyforgorsydd yma yn helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd drwy greu mawn newydd er mwyn storio rhagor o garbon, a gwella ansawdd y dŵr mewn afonydd lleol.
Mae’r traciau llydan yn golygu y gall arnofio ar y fawnog a chyrraedd ardaloedd sydd wedi bod yn amhosibl eu cyrraedd yn y gorffennol, heb niweidio’r mwsoglau sbyngaidd sy’n gwneud y safle mor bwysig.
Mae’r peiriant yn pwyso 4.5 tunnell ac dros tair metr o uchder, ac yn cario amrywiaeth o offer ar gyfer torri a chynaeafu llystyfiant ar wlypdir, torri pren a gosod chwynladdwyr. 
Bydd y gwaith yn dechrau dros yr wythnosau nesaf ar Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, a bydd yn gorffen ar ddechrau’r tymor bridio adar ym mis Mawrth. Bydd y gwaith yn dechrau eto yn hwyrach yn y flwyddyn pan fydd y tymor bridio wedi gorffen.
Bydd yr holl waith a wneir o dan y cytundeb hwn yn digwydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae’r safleoedd hyn yn rhai amgylcheddol sensitif, sydd wedi eu gwarchod yn gyfreithiol ar gyfer eu budd amgylcheddol. Bydd rhagor o waith adfer hefyd yn digwydd ar safleoedd ger Trawsfynydd, Abergwaun, Crosshands, Crughywel a Llanfair-ym-Muallt.
Bwriad prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, sydd werth pedair miliwn o bunnoedd, yw adfer bron i pedai milltir sgwâr o gyforgorsydd – un o gynefinoedd mwyaf prin a mwyaf pwysig Cymru. Rhoddwyd arian ar gyfer y prosiect i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gan grant rhaglen LIFE yr UE, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Gallwch gadw i fyny efo newyddion y prosiect ar Facebook or Twitter.