Ail lansio’r broses o wneud cais i ddefnyddio'r tir yn ein gofal

Nid ydym yn prosesu ceisiadau mynediad ar gyfer gweithgareddau ar y tir yn ein gofal, megis cynnal digwyddiad rhedeg neu feicio mynydd neu gynnal gweithgareddau fel ysgol goedwig, arolygon bywyd gwyllt a marchogaeth ar hyn o bryd.

Mae hyn oherwydd ein bod ar fin ail lansio’r broses i greu system gyflymach a haws at y dyfodol, gan barhau i ddiogelu diogelwch ymwelwyr. 

Rydym yn gobeithio cadarnhau ein gweithdrefnau newydd erbyn dechrau’r haf a byddwn yn rheoli ceisiadau yn y drefn y maent yn cael eu derbyn cyn gynted â phosibl.

Ein nod ar gyfer y dyfodol yw y bydd angen i lai o weithgareddau fynd trwy'r broses ymgeisio am fynediad, gan ei gwneud hi'n haws i lawer o ddefnyddwyr fwynhau'r coedwigoedd a mynediad i fyd natur heb ei rwystro gan yr angen am ganiatâd ffurfiol gennym ni.

Hoffem ddiolch i ymgeiswyr am eu dealltwriaeth. 

Beth fydd yn aros yr un fath? 

Unwaith y bydd y broses newydd i geisio am fynediad yn dechrau, ni fydd ymgeiswyr yn sylwi ar unrhyw newid o’r cychwyn cyntaf a byddant yn parhau i gyflwyno cais am fynediad trwy ein gwefan.  

Bydd y cyfnod o 12 wythnos yn parhau, gyda cheisiadau yn dal i fod yn ofynnol o leiaf 12 wythnos cyn i ddigwyddiad neu weithgaredd ddechrau. 

Beth fydd yn wahanol? 

Bydd proses fewnol symlach yn cynnal yr un lefelau uchel o ddiwydrwydd dyladwy mewn perthynas ag iechyd a diogelwch ond bydd yn defnyddio proses weinyddol fwy effeithlon ac yn gwneud gwell defnydd o dechnoleg.  

Bydd gweithgareddau llai, risg isel yn destun proses gyflymach a symlach, sy'n cynnwys llai o ryngweithio â'r ymgeiswyr.  

Bydd gweithgareddau a digwyddiadau mwy yn destun proses ymgeisio debyg i’r broses bresennol, ond rydym yn ceisio trosglwyddo ceisiadau yn gyflymach drwy’r broses. 

Bydd angen i ymgeiswyr fod yn fwy ymwybodol bod ein coetiroedd yn lleoedd amlbwrpas ar gyfer hamdden a chynaeafu pren. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bobl barchu gweithgareddau eraill gerllaw a rhannu'r gofod yn ddiogel trwy gydymffurfio ag arwyddion ar y safle a dilyn unrhyw ddargyfeiriad ar waith. 

Os nad ydym yn gallu cynnal digwyddiad neu weithgaredd yn ddiogel, bydd ymgeiswyr yn derbyn ymateb gennym yn gynt. 

Diweddariad nesaf 

Disgwylir ein diweddariad nesaf ddiwedd mis Ebrill. 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru