Mae tynnu cwlfert yn gwella cynefin afonydd ar gyfer pysgod mudol

Afon Lwynor gyda phont newydd.

Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau gwaith i gael gwared ar gwlfert ar afon Lwynor, un o is-afonydd afon Brân yn Llanymddyfri.

Roedd y cwlfert (llun isod chwith) yn rhan o groesfan llwybr coedwigaeth ac yn achosi rhwystr sylweddol i fudo pysgod oherwydd llifoedd bas cyflym trwy’r bibell ar oleddf 12 metr o hyd.

  

Roedd y bibell â diamedr o ddau fetr hefyd yn cyfyngu’r afon, gan amharu ar symudiad graean a dynameg naturiol sianel yr afon.

Gwnaeth y cynllun newid y cwlfert am bont rhychwant clir (llun uchod dde) gan mai dyma oedd y ffordd fwyaf costeffeithiol o adfer mynediad i bob rhywogaeth o bysgod ac adfer dynameg naturiol yr afon.

Mae’r gwaith wedi datgloi tua 4.5km o gynefin i fyny’r afon ar afon Brân (Llanymddyfri), sy’n rhan o afon Tywi. Bydd y gwaith hwn o fudd i rywogaethau megis eogiaid, brithyll, pennau lletwad, llysywod pendoll yr afon a llysywod pendoll y nant.

Dywedodd arweinydd tîm Pedair Afon LIFE, Susie Kinghan: “Bydd tynnu’r cwlfert bellach yn caniatáu i’r afon ‘anadlu’ ac yn adfer symudiad naturiol y graean – bydd y bont hon yn rhoi mwy o le i’r afon symud.”

Meddai Peter Jones, Swyddog Adfer Afonydd Prosiect Pedair Afon LIFE: “Mae rhwystrau artiffisial megis cwlfertau wedi cael eu hamlygu fel un o brif ysgogwyr dirywiad mewn bioamrywiaeth dŵr croyw ac iechyd ecosystemau afonydd. Felly mae prosiectau fel hyn yn hanfodol i wella gwydnwch ecolegol ein hafonydd mewn perthynas â newidiadau amgylcheddol yn y dyfodol.”

Tynnwyd y bibell bresennol a’r llenwad o’i chwmpas o’r cwrs dŵr. Defnyddiwyd blociau Legato fel ategweithiau ar gyfer y bont i ganiatáu cymaint o le â phosibl i’r afon symud.

Roedd y dyluniad yn cynnwys trawstiau dur a dec platiau a oedd yn addas ar gyfer cymryd pwysau tryciau torri coed wedi’u llwytho’n llawn. Ychwanegwyd carreg bloc er mwyn amddiffyn y lan a rhywfaint o gerrig mân ar gyfer gwely’r afon i leihau’r risg y byddai’r ategweithiau’n cael eu tanseilio.

Dyluniodd ac adeiladodd y contractwr o Gymru, McCarthy Contractors Ltd, y cynllun. Cwblhawyd y gwaith ym mis Hydref 2025 cyn dechrau mudo a silio pysgod yn yr afon.

Ariennir Prosiect Pedair Afon LIFE gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.