Astudiaeth bywyd gwyllt arfordirol i helpu gwarchod rhywogaethau adar sensitif ar draeth yng Ngogledd Cymru

Arolygydd yn arsylwi Traeth Lafan

Mae arolwg wedi'i gwblhau yn Nhraeth Lafan i wella dealltwriaeth o sut y gall gweithgareddau dynol darfu ar adar hirgoes sy'n gaeafu yn un o safleoedd bywyd gwyllt arfordirol pwysicaf Cymru.

Nod y gwaith oedd archwilio pam bod rhywogaethau fel piod môr a gylfinirod wedi lleihau eu defnydd o’u mannau clwydo gaeaf traddodiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Hwyluswyd a chydlynwyd y gwaith arolygu gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Cynhaliodd contractwr arsylwadau maes i gofnodi pa mor aml roedd adar yn defnyddio'r mannau clwydo, pa mor aml y cawsant eu tarfu, a pha weithgareddau oedd fwyaf tebygol o greu aflonyddwch.

Roedd y gwaith maes hefyd yn cynnwys arolygon ymwelwyr ym meysydd parcio Morfa Aber ac Aber Ogwen, ynghyd ag arsylwadau golygfeydd yn edrych dros yr ardal rhynglanwol.

Bydd y dystiolaeth a gasglwyd drwy'r arolwg yn helpu i nodi pa weithgareddau sy'n peri'r risgiau mwyaf i'r rhywogaethau sensitif yma. Bydd yn llywio penderfyniadau ar reoli cynefinoedd ac yn cefnogi ymdrechion ehangach i ddiogelu'r poblogaethau adar sy'n gaeafu yn Nhraeth Lafan.

Dywedodd Dewi Evans, Swyddog Arbenigol ar Reolaeth Rhynglanwol Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae Traeth Lafan yn gartref i rai o adar gaeafu mwyaf gwerthfawr Cymru, gan gynnwys piod môr, gylfinirod a rhywogaethau eraill sy'n rhan o'n treftadaeth naturiol.
"Bydd yr arolwg hwn yn cryfhau ein dealltwriaeth o'r pwysau mae nhw'n eu hwynebu, a bydd y dystiolaeth a gesglir yn ein helpu i wneud penderfyniadau sy'n diogelu'r lle arbennig hwn ar gyfer y dyfodol."

Ariannwyd y gwaith drwy’r Raglen Rhwydweithiau Natur, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cefnogi camau i gryfhau gwytnwch ecolegol a gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig ledled Cymru.