Ymgynghoriad yn dechrau ar gais 2 Sisters am drwydded amgylcheddol

Logo CNC

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd y cyhoedd i wneud sylwadau ar gais sydd wedi’i gyflwyno gan 2 Sisters Food Group Limited i amrywio trwydded ar gyfer ei gyfleuster prosesu dofednod yn Sandycroft, Sir y Fflint.

Mae'r cais yn gofyn am wneud newidiadau i drwydded amgylcheddol bresennol y safle, gan gynnwys cynnydd yn nifer yr adar sy'n cael eu prosesu o 134,000 i 172,000 o adar y dydd, a chynnydd yn nifer y diwrnodau gweithredu o chwech i saith diwrnod yr wythnos.

Mae'r cais hefyd yn gofyn am ganiatâd i weithredu uned oeri sydd wedi'i gosod ar y safle yn lle uned flaenorol.

Bydd CNC yn cynnal asesiad manwl o'r cais i benderfynu a yw’n bosibl cyflawni’r newidiadau arfaethedig, a pharhau i amddiffyn pobl a'r amgylchedd.

Yn rhan o'r broses drwyddedu, mae CNC yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus i roi cyfle i unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol adolygu'r cais a chyflwyno sylwadau.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 10 Medi tan 8 Hydref 2026.

Gall aelodau’r cyhoedd weld dogfennau’r cais a chyflwyno eu sylwadau ar-lein.

Bydd yr holl sylwadau perthnasol a fydd yn dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael eu hystyried yn rhan o benderfyniad CNC ar y cais.

Dywedodd Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff CNC:

"Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ceisiadau am drwyddedau amgylcheddol yn cael eu hasesu'n drylwyr ac yn dryloyw. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i gymunedau lleol a phartïon eraill sydd â diddordeb adolygu'r cais sydd wedi’i gyflwyno gan 2 Sisters Food Group Limited, a rhannu unrhyw sylwadau perthnasol. Byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl wybodaeth sydd ar gael i ni, gan gynnwys ymatebion i'r ymgynghoriad, cyn dod i benderfyniad ar y cais i amrywio trwydded."

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru