Erlyn cyfarwyddwr ar ôl iddo dorri amodau trwydded amgylcheddol dro ar ôl tro ar safle gwastraff ym Magillt

Mae cyn gyfarwyddwr cwmni wedi cael ei ddedfrydu ar ôl gweithredu safle trosglwyddo gwastraff yn Sir y Fflint yn groes i'w drwydded amgylcheddol a methu â chydymffurfio â hysbysiad atal rheoleiddiol.

Ddydd Gwener 14 Awst 2026, dedfrydwyd Oliver Kirkbride, cyn gyfarwyddwr GTR Aggregates & Recycling Ltd ac wedi hynny Think Aggregates & Recycling Ltd, ar ôl pledio'n euog i droseddau yn ymwneud â gweithredu safle trosglwyddo gwastraff yn Ystâd Ddiwydiannol Dee Bank, Bagillt.

Daeth yr erlyniad, a gychwynnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn dilyn cyfnod hir o ddiffyg cydymffurfio ar y safle ac ymdrechion dro ar ôl tro gan swyddogion CNC i sicrhau gwelliannau a dod â’r gweithrediadau yn ôl o fewn gofynion y drwydded amgylcheddol.

Roedd gan y safle hanes hir o dorri rheoliadau, gan gynnwys mynd y tu hwnt i'r meintiau gwastraff a ganiateid, derbyn mathau o wastraff nad oeddent wedi'u hawdurdodi gan y drwydded, gan gynnwys gwastraff peryglus, a gweithredu gyda threfniadau draenio annigonol.

Er gwaethaf ymyriadau gan swyddogion CNC a chamau a gymerwyd gan y cwmnïau i fynd i'r afael â'r problemau, ni pharodd y gwelliannau o ran cydymffurfiaeth yn hir a pharhaodd yr achosion o dorri amodau’r drwydded.

O ganlyniad i bryderon parhaus, gorfododd CNC ataliadau rhannol a llawn ar drwydded amgylcheddol y safle. Fodd bynnag, parhaodd gweithgareddau gwastraff yn groes i'r hysbysiad atal. Yn ystod y cyfnod yr oedd y safle wedi’i atal, digwyddodd dau dân gwastraff hefyd.

Canfuwyd hefyd fod Kirkbride wedi rhwystro swyddogion CNC rhag cyflawni eu dyletswyddau drwy newid cyfrineiriau wrth weithredu gwarant chwilio.

Gosododd y llys ddirwy o £500, gorchymyn cymunedol 12 mis a 50 awr o waith di-dâl.

Yn y pen draw, dirymodd CNC y drwydded amgylcheddol yn dilyn methiannau parhaus i gydymffurfio â'i amodau ac mae gweithrediadau gwastraff ar y safle yn Ystâd Ddiwydiannol Dee Bank, Bagillt bellach wedi dod i ben.

Dywedodd Carys Williams, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Gwastraff yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Nid gofyniad cyfreithiol yn unig yw trwyddedau amgylcheddol. Maent yn cynnal safonau sy'n hanfodol i amddiffyn pobl a'n hamgylchedd. Maent yn sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli'n ddiogel ac yn gyfreithlon.
"Mae'r achos hwn yn dangos bod unrhyw un sy'n trin gwastraff mewn modd nad yw'n cydymffurfio â thrwydded amgylcheddol yn peri risgiau gwirioneddol i'r amgylchedd, a oedd yn amlwg yn yr achos hwn oherwydd y tanau gwastraff a ddigwyddodd ar y safle."
"Mae gweithredu heb drwydded neu dorri corneli yn tanseilio busnesau cyfreithlon sy'n buddsoddi mewn cydymffurfio. Mae'n creu cystadleuaeth annheg ac yn cynyddu risgiau i’r amgylchedd ac iechyd y cyhoedd."

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru