Rhyddhau dŵr ychwanegol i amddiffyn pysgod Afon Dyfrdwy yn ystod y don wres

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi rhyddhau dŵr ychwanegol i Afon Dyfrdwy i helpu i leihau'r risg y gall pysgod farw yn ystod y cyfnod hwn o dymereddau eithriadol o uchel ledled Cymru.

Am hanner dydd, ddydd Llun 22 Mehefin, cynyddodd CNC y gollyngiad dŵr o Lyn Tegid i Afon Dyfrdwy gan 2 fetr ciwbig yr eiliad – cynnydd o tua 30%. Mae'r cynnydd hwn wedi'i amseru'n ofalus i gyrraedd y llanw i lawr yr afon o Gored Caer fore dydd Mercher, pan ragwelir y tymereddau uchaf. Bydd y llif uwch yn cael ei gynnal am ddau i dri diwrnod.

Mae'r weithred hon yn golygu y bydd swm y dŵr sy’n cyrraedd y llanw fwy na dwbl yr hyn a fyddai’n cyrraedd yn naturiol o dan yr amodau presennol. Drwy gynyddu llif afonydd ar adeg dyngedfennol, nod CNC yw lleihau straen ar bysgod a achosir gan lefelau dŵr isel, a lefelau ocsigen is, sy'n gysylltiedig â thymheredd uchel.

Mae'r dŵr ychwanegol wedi'i gymryd o'r Dyraniad Rhyddhau Arbennig, swm pwrpasol o fewn Cynllun Rheoleiddio Afon Dyfrdwy a neilltuwyd i ddarparu manteision amgylcheddol pan fo angen.

Dywedodd Robert Bissell, Arweinydd Tîm, Hydroleg a Rheoli Adnoddau Dŵr CNC:

“Gall cyfnodau hir o dywydd poeth a llifoedd isel roi pwysau sylweddol ar bysgod a bywyd gwyllt arall. Drwy ddefnyddio’r Dyraniad Rhyddhau Arbennig, gallwn ymateb yn gyflym a darparu cefnogaeth ychwanegol i amgylchedd yr afon pan fo’r angen mwyaf amdano.”
“Byddwn yn parhau i fonitro’r amodau’n agos, a chymryd camau pellach lle bo angen, i amddiffyn Afon Dyfrdwy a’i bywyd gwyllt.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru