Fferm wedi’i chael yn euog o ddifrodi safle bywyd gwyllt gwarchodedig ger Mwnt

Difrod chwynladdwyr i SoDdGA ger Mwnt

Mae llys wedi cael cwmni fferm o'r Ferwig yn euog o ddifrodi safle bywyd gwyllt gwarchodedig ger Mwnt, Ceredigion.

Cafwyd Jenkins Ty Hen Limited yn euog o ddifrodi Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn llysoedd Ynadon Hwlffordd ddydd Mawrth, 5 Mai.

Cafodd y busnes ddirwy o £9,000 a gorchmynnwyd iddo dalu ein costau o £8,940.66 a gordal dioddefwr ychwanegol o £2,000. Yn ogystal â hyn, gosodwyd gorchymyn adfer 10 mlynedd.

Cymerodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gamau cyfreithiol yn erbyn Jenkins Ty Hen Limited, tenantiaid tir sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mewn ymateb i ddifrod parhaus a'r risg ddifrifol o blanhigion prin yn cael eu colli'n gyfan gwbl.

Mae'r achos yn ymwneud â thir yng Nghrug Bychan, Tŷ Gwyn a Llwyn Ysgaw, sydd wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Cafodd ei warchod yn 2004 i gydnabod ei bwysigrwydd i rywogaethau planhigion prin.

Meddai Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau, o Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae safleoedd fel hyn yn bwysig iawn i fywyd gwyllt ac i genedlaethau’r dyfodol. Maent yn cael eu gwarchod gan y gyfraith, ac rydym yn gweithio'n agos gyda ffermwyr i'w helpu i reoli'r tir yn y ffordd gywir.

“Yn yr achos hwn, torrwyd y rheolau sawl gwaith, hyd yn oed ar ôl cyngor a rhybuddion clir. Achosodd hyn niwed gwirioneddol i blanhigion prin sydd wedi'u cyfyngu i ychydig o leoedd yng Nghymru.

“Rydym wedi cymryd camau i amddiffyn y safle arbennig hwn a rhoi’r cyfle gorau iddo adfer.”

Mae'r safle'n cynnal mwy na 60 math o flodau âr, gan gynnwys nifer sy’n archeoffytau, sef planhigion a gyflwynwyd gan bobl o dir mawr Ewrop ac sydd bellach wedi ymgynefino ym Mhrydain ac Iwerddon.

Daethpwyd â'r rhan fwyaf drosodd gan ffermwyr cynnar yn ystod yr Oes Efydd Hwyr, yr Oes Haearn, y cyfnod Rhufeinig neu'r Canol Oesoedd, yn aml fel halogion ar hadau cnydau. O ganlyniad, maent yn gysylltiedig iawn â chaeau âr. Mae llawer o'r rhywogaethau hyn bellach yn brin yng Nghymru ac ar draws y DU.

Y SoDdGA hwn yw'r unig un yng Nghymru sydd wedi'i ddynodi'n benodol ar gyfer gwarchod planhigion âr ac ystyrir ei fod o bwysigrwydd diwylliannol ac ecolegol sylweddol.

Mae angen ffermio gofalus ar y planhigion hyn i oroesi. Gall ffermwyr dyfu cnydau fel haidd a gwenith, ond rhaid iddynt adael rhai ardaloedd heb wrtaith na chwynladdwyr fel y gall y planhigion gwyllt dyfu hefyd.

Llun: Sut y dylai ymylon iach edrych ar y SoDdGA

Canfu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y rheolau sy'n amddiffyn SoDdGAau wedi cael eu torri sawl gwaith dros yr wyth mlynedd diwethaf. Rhwng 2017 a 2025, roedd sawl achos lle defnyddiwyd gwrtaith, slyri a chwynladdwyr heb ganiatâd gan CNC. Niweidiodd hyn y planhigion prin.

Er gwaethaf cyngor, rhybuddion a chyfarfodydd, parhaodd y gweithgarwch hwn. Digwyddodd rhywfaint o'r difrod hyd yn oed ar ôl i'r ffermwr gael rhybudd ffurfiol a gwahoddiad i gael ei gyfweld dan rybuddiad.

Mae arbenigwyr yn dweud bod hyn wedi achosi dirywiad difrifol yn nifer ac amrywiaeth y planhigion prin ar y safle. Fodd bynnag, mae rhai yn dal i fodoli, ac mae gorchymyn adfer gan y llysoedd yn golygu y gallai adferiad fod yn bosibl o hyd os caiff y tir ei reoli'n gywir.

Mae'r gorchymyn adfer yn ei gwneud yn ofynnol i'r tir gael ei reoli trwy gylchdroi cnydau âr priodol. Yn ogystal, rhaid cynnal ymyl byffer o amgylch y caeau i gefnogi rhywogaethau planhigion dynodedig. O fewn yr ymyl hwn, ni ddylid defnyddio gwrteithiau na chwynladdwyr er mwyn rhoi'r cyfle gorau posibl i'r planhigion hyn adfer a ffynnu.