Nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yn cynyddu ledled Cymru – wrth i gamau gorfodi gyrraedd eu lefel uchaf ers chwe blynedd*

Gwastraff wedi'i tipio'n anghyfreithlon ar ochr ffordd ar fynydd

  • Mae Llywodraeth Cymru a Taclo Tipio Cymru wedi cyhoeddi cynnydd o 14.7% mewn achosion o dipio anghyfreithlon gyda dros 1,500 o ddirwyon (hysbysiadau cosb benodedig) wedi'u cyhoeddi
  • Caerdydd, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf a gyflawnodd y nifer uchaf o erlyniadau — gyda chyfanswm o 69 wedi'u cofnodi
  • Mae Cyngor Sir Casnewydd yn arwain y ffordd ar ôl cynnal 2,386 o gamau gorfodi (heb gynnwys ymchwiliadau), gan sbarduno gostyngiad mewn digwyddiadau tipio anghyfreithlon

Mae ffigurau newydd sydd wedi’u cyhoeddi ar 24 Chwefror 2026 gan Lywodraeth Cymru a Taclo Tipio Cymru yn datgelu cynnydd o 14.7% mewn digwyddiadau tipio anghyfreithlon rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025.

Mae hyn yn cynnwys cyfanswm o 48,367 o achosion o ollwng gwastraff yn anghyfreithlon - tua 133 o ddigwyddiadau bob dydd - wedi'u cofnodi gan awdurdodau lleol.

Er gwaethaf y cynnydd mewn digwyddiadau, mae cynghorau wedi cynyddu eu hymateb ac mae gweithgarwch gorfodi wedi cyrraedd ei lefel uchaf mewn chwe blynedd, gyda mwy na dwbl y nifer o gamau gorfodi o gymharu â'r llynedd (ac eithrio ymchwiliadau).

Cyhoeddwyd mwy na 1,500 o ddirwyon (hysbysiadau cosb benodedig) yn ystod y flwyddyn, ochr yn ochr â 69 o erlyniadau llwyddiannus — gyda'r nifer uchaf wedi'i gofnodi yng Nghaerdydd (20), ac yna Rhondda Cynon Taf (18) a Sir Gaerfyrddin (9).

Mae'r mesurau gorfodi hyn wedi'u cynllunio i atal troseddwyr a diogelu cymunedau.

Defnyddir hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer troseddau ar raddfa lai fel taflu sbwriel, mân achosion o dipio anghyfreithlon a methu â gwirio trwydded cludwr gwastraff, tra bod erlyniadau yn targedu tipio anghyfreithlon ar raddfa fawr, achosion ailadroddus neu fasnachol, yn ogystal â dympio gwastraff peryglus.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod 71% o'r achosion o dipio anghyfreithlon a gofnodwyd yn cynnwys gwastraff cartref.

Gellid lleihau'r ffigwr hwn yn sylweddol pe bai deiliaid tai yn dilyn eu Dyletswydd Gofal gwastraff — gan sicrhau eu bod yn cyflogi cludwyr gwastraff cofrestredig yn unig.

Mae deiliaid tai nad ydynt yn gwirio am drwydded yn wynebu cosb benodedig o £300 neu ddirwy o hyd at £5,000 a chofnod troseddol os cânt eu cymryd i Lys Ynadon.

Gellir edrych am drwyddedau cludo gwastraff ar cyfoethnaturiol.cymru/gwiriocludwrgwastraff neu drwy ffonio 0300 065 3000. 

Dywedodd Heidi Pawlin, Rheolwr Rhaglen Taclo Tipio Cymru:

"Mae tipio anghyfreithlon yn niweidio ein hamgylchedd, yn costio miliynau i drethdalwyr, ac yn tanseilio cymunedau.
"Helpwch i gadw'ch cymuned leol yn lân — os ydych chi'n talu rhywun i fynd â'ch gwastraff i ffwrdd, gwiriwch bob amser fod ganddynt drwydded cludwr gwastraff gyda Cyfoeth Naturiol Cymru."

Yn dilyn blwyddyn o gynnydd mewn digwyddiadau, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sut mae cynghorau ledled Cymru yn cynyddu eu hymateb gyda ffocws newydd a chamau gweithredu mwy clyfar, mwy cydgysylltiedig.

Yng Nghasnewydd, mae gorfodi wedi cynyddu'n ddramatig o 146 o gamau gweithredu i 2,386 (heb gynnwys ymchwiliadau) – yr uchaf o unrhyw awdurdod yng Nghymru tra bod Castell-nedd Port Talbot wedi parhau i atafaelu a gwasgu cerbydau sy'n gysylltiedig â thipio anghyfreithlon ochr yn ochr â rhedeg gweithrediadau wedi'u targedu yn erbyn troseddwyr ailadroddus (nid yw atafaeliadau cerbydau yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru).

Mae'r Cyngor hyd yn oed wedi gweithio gyda disgyblion ysgol leol i greu murlun cymunedol newydd, sy’n ffordd ysgytwol o atgoffa pobl o sut mae dympio anghyfreithlon yn effeithio ar gymdogaethau a thirweddau ledled Cymru.

Gyda'i gilydd, mae'r ymdrechion hyn yn dangos sut mae awdurdodau lleol yn cyfuno gorfodi, cydweithredu ac ymgysylltu â chymunedau i amddiffyn eu cymunedau ac atal y rhai sy'n parhau i'w difrodi.

I gael rhagor o wybodaeth am waredu gwastraff yn gyfrifol a gwirio cludwyr gwastraff cofrestredig, ewch i Taclo Tipio Cymru.

* Mae'r ffigur hwn yn eithrio ymchwiliadau