Grantiau ar gyfer tirweddau llaith a sbwngaidd

Migwyn y mawndir, sy’n amsugno dŵr gan gadw ein tirwedd yn llaith a sbwngaidd, gall yn ei dro helpu i liniaru'r risg o lifogydd a lledaeniad tân.

Gallai grant a gafodd ei lansio ym mis Medi gefnogi prosiectau adfer mawndiroedd yng Nghymru sydd o fudd i'r hinsawdd, i fyd natur, o ran storio carbon ac o ran gwydnwch rhag llifogydd.

Mae cylch diweddaraf y Grant Adfer Mawndir £10k–£250K ar agor i dirfeddianwyr preifat a sefydliadau cyhoeddus/gwirfoddol fel ei gilydd. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 30 Tachwedd 2026.

Caiff y grant ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a’i ddyrannu drwy'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP), sy'n cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Dywedodd Manon Lewis, arweinydd Prosiectau Strategol CNC ar gyfer y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd:

“Mae mawndiroedd iach yn asedau cenedlaethol pan fydd rhywogaethau cors yn ffynnu, yn enwedig y mwsogl migwyn sy'n ffurfio mawn.
Gall y mwsogl ddal 20 gwaith ei fàs mewn dŵr, ac felly mae’n cadw tirweddau'n wlyb ac yn sbwngaidd, sy’n helpu i liniaru’r risg o lifogydd a lledaeniad tân.
Mae mawndiroedd yn ddatrysiad pwysig, seiliedig ar natur, i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Dyna pam ein bod ni mor falch o allu cynnig y grant adfer hwn sydd wedi'i ariannu 100%
Felly, os ydych chi'n berchen ar fawndir, neu'n ei reoli, dewch i'n gweminar i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais!”

Mae mawndiroedd yn storio tua 30% o’r carbon sydd i’w gael yn y tir yn Nghymru, er mai dim ond 4% o’r tir maen nhw’n ei orchuddio. Yn anffodus, mae 90% o fawndir Cymru wedi'i ddifrodi ac angen ei adfer. Gellir mynd i'r afael â hyn drwy'r grantiau yma. Gellir defnyddio'r Grant Adfer Mawndir hyblyg hwn i ddatblygu a/neu gyflawni gwaith adfer mawndiroedd. Gall ymgeiswyr gofrestru a gofyn cwestiynau pellach yn y gweminarau ar 6 Hydref.

Ar wahân i'r grant agored cystadleuol hwn, mae NPAP hefyd yn darparu mecanweithiau ariannu eraill. Gellir anfon ymholiadau i archwilio opsiynau ar gyfer adfer mawndiroedd at npap@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Mae Cynllun 2025–2030  wedi bod yn uchelgeisiol wrth dreblu targedau erbyn 2030/31 o ran cyflawni gwaith adfer mawndiroedd, drwy bartneriaeth Adfer Mawndir Cymru.

Mae gwybodaeth am y gwaith a gaiff ei ariannu drwy NPAP ar gael i'r cyhoedd mewn Adroddiadau Blynyddol a thrwy Fap Mawndiroedd Cymru. Mae'r fideos cyflwyniadol byr, ‘Mawndiroedd Cymru’ a ‘Mawndiroedd: y da, y drwg a'r tirfeddygon’, yn esbonio pwysigrwydd adfer mawndiroedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru