Twf a gwerth i adnoddau naturiol Cymru

Cerbyd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i barcio ar lwybr coedwig wrth ymyl pentyrrau o goed wedi’u torri. Mae coed conwydd tal yn amgylchynu’r ardal, gyda phentyrrau ychwanegol o foncyffion i’w gweld yn y cefndir o dan awyr gymylog.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio ei Strategaeth ar gyfer Twf a Gwerth Cynaliadwy 2027–2031 newydd yn Sioe Frenhinol Cymru, gan nodi sut y bydd yn creu mwy o fuddion i natur, cymunedau a’r economi o’r tir ac adnoddau naturiol sydd dan ei ofal.

Mae'r strategaeth yn amlinellu sut y bydd CNC yn cynyddu incwm a chyfleoedd buddsoddi, wrth barhau i roi gwarchod yr amgylchedd a gwerth cyhoeddus wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Caiff incwm a gynhyrchir drwy weithgareddau masnachol ei ail-fuddsoddi tuag at nodau llesiant CNC, er mwyn cefnogi adferiad byd natur, meithrin gwydnwch yn wyneb newid yn yr hinsawdd a lleihau llygredd i'r eithaf.

Lansiwyd y strategaeth ar stondin CNC yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mawrth 21 Gorffennaf 2026 gan Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol CNC, a Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol Sero Net Diwydiant Cymru.

Lansiwyd Cynllun Marchnata a Gwerthu Pren ategol ar gyfer 2027-2031 hefyd, er mwyn meithrin hyder mewn cyflenwad pren cynaliadwy ac, ar yr un pryd, manteisio i’r eithaf ar werth cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd coedwigoedd Cymru.

Yn ystod yr wythnos, mae CNC yn ymgysylltu â chwsmeriaid, partneriaid ac ymwelwyr ynghylch cynlluniau ar gyfer y dyfodol ym meysydd datblygu busnes, hamdden fasnachol ac ynni adnewyddadwy.

Gyda'i gilydd, bydd y cynlluniau hyn yn cyflawni prosiectau ar gyfer natur a'r hinsawdd sy'n barod i dderbyn buddsoddiad, yn creu cyfleoedd hamdden cynaliadwy newydd, ac yn cefnogi datblygiadau ynni adnewyddadwy ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru.

Mae'r Cynllun Marchnata a Gwerthu Pren yn cynnwys ymrwymiad, yn dilyn ystyriaeth o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, i ddod â rhwng 835,000 ac 875,000 metr ciwbig o bren i'r farchnad bob blwyddyn. Bydd hyn yn helpu i gefnogi swyddi yng Nghymru a chymunedau gwledig, ac yn rhoi hyder i'r sector pren.

Esboniodd Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol, CNC:

“Amgylchedd naturiol Cymru yw un o'n prif asedau. Mae'n cefnogi ein cymunedau, yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, yn sail i'n heconomi ac yn cyfrannu at ein lles.
"Mae’r strategaeth hon yn amlinellu sut y gallwn greu mwy o werth o’r tir a’r adnoddau naturiol sydd yn ein gofal, gan ein helpu i fuddsoddi mwy mewn adfer byd natur, gwydnwch yn erbyn newid yn yr hinsawdd a lles cymunedol.
"Drwy gydweithio â busnesau, buddsoddwyr, darparwyr cyfleusterau hamdden, datblygwyr ynni adnewyddadwy, cwsmeriaid pren a chymunedau, gallwn greu cyfleoedd newydd sy'n cefnogi twf cynaliadwy, wrth ein helpu i gyflawni ein nod o weld byd natur a phobl yn ffynnu gyda'n gilydd."

Mae'r strategaeth a'r cynllun gweithredu ar gyfer pren yn amlinellu sut y bydd CNC yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i gefnogi economi wyrddach, creu cyfleoedd ar gyfer buddsoddi a swyddi medrus, a chryfhau gwydnwch hirdymor adnoddau naturiol Cymru.

Sefydliad annibynnol yw Sero Net Diwydiant Cymru sy'n darparu arweiniad a chymorth i ddiwydiannau yng Nghymru wrth iddynt symud tuag at gyflawni sero net.

Dywedodd Ben Burggraaf, y Prif Swyddog Gweithredol:

"Mae'r symudiad tuag at economi sero net yn creu cyfleoedd sylweddol i Gymru. Bydd cydweithio ar draws sectorau yn hanfodol os ydym am ddenu buddsoddiad, cyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy a chreu swyddi cynaliadwy.
"Mae’r strategaeth hon yn dangos sut y gall cydweithio rhwng cyrff cyhoeddus, cymunedau a busnesau helpu i sicrhau buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i Gymru."

Darllenwch y Strategaeth twf a gwerth cynaliadwy 2027–2031.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru