Dweud eich dweud ar amrywiad trwydded arfaethedig y Waun

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd y cyhoedd i wneud sylwadau ar ei benderfyniad drafft i amrywio'r drwydded amgylcheddol ar gyfer Ffatri Bwrdd Gronynnau.

Mae Kronospan wedi gwneud cais i newid ei drwydded amgylcheddol bresennol i ganiatáu cynhyrchu pren fflawiau cyfeiriedig (OSB) ochr yn ochr â gweithrediadau presennol ar y safle. Mae'r cais hefyd yn cynnwys nifer o newidiadau cysylltiedig i seilwaith safle, trefniadau storio, rheoli allyriadau a draenio dŵr wyneb.

Yn dilyn asesiad manwl o'r cais, mae CNC yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded, yn ddibynnol ar yr amodau a nodir yn y drwydded ddrafft.

Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys gosod llinell gynhyrchu OSB, uwchraddio’r peiriannau sychu cyfredol, defnyddio hydrogen perocsid ar gyfer rheoli arogleuon lle bo angen, newidiadau i drefniadau trin a storio biomas, mannau storio deunydd crai ychwanegol, a chynnwys tir newydd o fewn terfyn y weithfa ar gyfer ffordd fynediad safle, parc lorïau a gwlyptiroedd dŵr wyneb.

Ni fydd CNC yn caniatáu amrywiad i drwydded dim ond os bydd yn fodlon y gall y gweithredwr fodloni amodau'r drwydded ac os na fydd y gweithgareddau’n achosi llygredd neu niwed sylweddol i iechyd pobl neu'r amgylchedd.

Mae aelodau'r cyhoedd bellach yn cael eu hannog i adolygu'r drwydded ddrafft, yr hysbysiad amrywio drafft a'r ddogfen penderfyniad drafft a chyflwyno eu sylwadau sy'n berthnasol i'r newidiadau arfaethedig fel rhan o'r broses ymgynghori.

Meddai Nicholas Bettinson, Rheolwr Gwasanaeth Trwyddedu yn CNC:

"Rydym wedi cwblhau asesiad manwl o'r cais ac yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded. Cyn gwneud penderfyniad terfynol, rydym yn awyddus i glywed gan aelodau'r cyhoedd a phartïon eraill sydd â diddordeb. Bydd unrhyw sylwadau perthnasol a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael eu hystyried yn ofalus cyn i ni benderfynu ar y cais."

Dolen i'r ymgynghoriad ar-lein.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru